Adolygiad: Albwm Candelas

Rhaid i mi gyfaddef, nad oeddwn yn ffan o EP gyntaf Candelas, Kim y Syniad. Bu’n un o’r CDs yna a brynais mewn gig yn fy meddwdod, a difaru wedyn mod i wedi gwario arian cwrw ar rywbeth na chafodd fawr argraff arnaf. Oedd, roedd yna botensial o ryw fath yno, ond doedd dim digon o sglein at fy nant i… Ond roedd hynny’n 2011, ac erbyn 2013, mae Candelas wedi dychwelyd gyda’u halbwm gyntaf, ac wedi profi i mi ‘mod i wedi cael gwerth fy mhum punt ar ffurf addewid cynnar dwy flynedd yn ôl. Mae’r rocers o Ogledd Cymru wedi cymryd dros y sin y haf yma: buont ar daith lwyddiannus ar y cyd gyda Hud a Sŵnami, derbyn mensh yn NME, ddim llai, a hefyd perfformio sawl set fythgofiadwy yn ystod yr Eisteddfod eleni. Yn bendant, roedd eu gig bywiog nos Wener Maes B yn un o uchafbwyntiau’r ŵyl i nifer. Bu’r penderfyniad i symud y prif gantor, Osian Williams, o’r dryms i’r blaen yn un a dalodd ar ei ganfed i’r grŵp – maent yn un o’r bandiau byw mwyaf gwefreiddiol i mi weld ers tro byd.

Efallai mai controversial braidd yw’r penderfyniad i ryddhau albwm ddwyieithog – bydd rhai yn ddigon parod i farnu’r band am geisio ymhél â dwy gynulleidfa ar un albwm, a phlesio neb, o bosib, wrth geisio cyfaddawdi. Ond onid yw hi’n bryd i ni dderbyn bod angen i’r Gymraeg a’r Saesneg blethu law yn llaw yn naturiol? Drwy gerddoriaeth, mae modd denu mwy o bobl i ddysgu am y Gymraeg, a dwi’n sicr bydd sawl un ar draws y ffin yn gwerthfawrogi cyfraniad Candelas.

Mae’r albwm yn dechrau gyda bloedd sy’n mynnu’ch sylw – mae’n anodd peidio cyd-weiddi gyda’r gân gyntaf, See-Saw Sinner, ac mae’r ail gân, Anifail, eisoes wedi gwneud argraff gref ar wrandawyr C2. Yn cyferbynnu’n drawiadol gydag hyn, mae’r caneuon tawelach – mae melodi hudolus Dant y Blaidd, ac yna sain tywyll Cwrdd â Fi Yno yn sisial sibrwd yn ysgafn yn y glust ac yn newid y naws yn llwyr. Mae Light Me Up yn ffefryn personol, a dwi mewn cwmni da –  cyrhaeddodd ‘Top 5’ Huw Stephens yn NME. Mae gan bob cân ei chic, a phob un wedi ei saernïo’n berffaith gan gyfansoddwr medrus. Anodd yw gwadu dylanwad albwm gynharaf yr Arctic Monkeys (Whatever People Say I Am, That’s What I’m Not, 2006) ar y band – o’r clawr â’r darlun du a gwyn trawiadol o rywun yn ‘smygu sigarét (canmoliaeth i Heledd Roberts am y ffotograffau) i’r modd mae’r farddoniaeth yn amlwg yn bwysig yn eu caneuon.  Mae’r geiriau’n glir ac yn gofiadwy, ac yn gweddu’n berffaith gyda’r riffs gitar amrwd a’r roc budr – ac mae’r dylanwad blues-aidd yn cyd-fynd yn berffaith gyda’r naws indie-rock i greu rhywbeth llawer mwy organig a phur na’r tueddiad techno diweddaraf.

Prin yw’r headliners Cymraeg ar hyn o bryd, er bod y sin leol yn yr ysgolion uwchradd a’r prifysgolion yn ffynnu. Mae’r Ods, chwarae teg iddynt, wrthi’n ddiwyd, tra bod y Sibrydion wedi taweli… Gobeithio wir, mai Candelas yw’r band rydym wedi bod yn disgwyl amdanynt i gamu i’r adwy… Yn sicr, rwy’n awyddus i’w gweld yn fyw eto ac yn disgwyl ‘mlaen i glywed beth fydd ganddynt i’w gynnig nesaf.

9/10

Advertisements

Gadewch neges / Leave a message

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Change )

Connecting to %s