Adolygiad: Cysgod Cyfarwydd – Mellt

mellt

Dechrau’r haf, addewais ysgrifennu  mwy o adolygiadau… ac o’r diwedd, dyma’r un gyntaf! Cefais gyfle i gyfweld Mellt ar gyfer cylchgrawn Y Selar yn gynharach eleni, (Cliciwch yma i’w ddarllen ar-lein.) ac mae’r pedwarawd o Ysgol Penweddig sydd eisoes yn wynebau hen gyfarwydd yn nhref Aberystwyth wedi cael cryn dipyn o lwyddiant gyda’u EP cyntaf. Rhyddhawyd Cysgod Cyfarwydd ym mis Gorffennaf eleni, ar label Mei Gwynedd, JigCal, ac mae’n gasgliad sydd werth ei gael.

Yn ôl y band, mae’r teitl drac yn arddangos i ba gyfeiriad yr hoffent fynd nesaf… ac wedi ei glywed, mae’n glir fod pethau yn argyhoeddi’n dda iawn iddynt. Mae ‘Cysgod Cyfarwydd’ yn gân fachog sy’n crynhoi’r teimlad o fod yn ifanc a mynd i fwynhau, i feddwi ac i fercheta i’r dim. Dychmygaf mai’r gân hon byddai’n denu eu ffans i ganu yn eu gigs, a hwythau’n bloeddio ’S’dim angen caniatâd / Ni digon hen nawr!’ o’r gynulleidfa.

Gwelwn yr ail drac, ‘Paid Tyfu Lan’, yn dilyn trywydd tebyg, gyda chytgan fachog a digon o weiddi. Er ei fod yn taweli fymryn, mae’r un dos o angerdd ac angst (sydd, wrth gwrs, yn nodweddiadol yng nghanu bandiau ifanc o’r math) yn perthyn iddo. Ar y llaw arall, mae ‘Beth yw Dy Stori?’ sy’n ei ddilyn yn gwbl wahanol. Trafoda bwnc aeddfed ac annisgwyl i griw o ddisgyblion ysgol, sef olrhain hanes gŵr digartref, gydag alaw dawelach sy’n gweddu i naws storiol y gân.

Mae ‘Oer’, y trac olaf, yn eich twyllo i ddechrau, gan awgrymu mai ’wind down’ fydd yn cloi’r casgliad… ond mae’r gytgan yn ffrwydro’n sŵn gitars cyflym, bywiog ac yn eich synnu a’ch syfrdanu. Mae’n amhosib peidio a chymharu llais isel, cras Glyn James gyda llais ei frawd, Sam o’r band Blaidd, ac mae ‘Oer’ yn ddiweddglo teilwng i’r EP.

Wrth wrando ar yr EP hwn, teimlaf mai tamed i aros pryd ydyw – addewid o fath. Mae’n rhagflas o’r hyn sydd i ddod, a braf byddai gweld y band yn datblygu ac yn mynd o nerth i nerth. Yn bersonol, ni allaf aros i weld beth fydd gan Mellt i gynnig i ni nesaf.

7/10

(Daw’r llun uchod o’r cyfweliad hwnnw yn Y Selar.)

Advertisements

Gadewch neges / Leave a message

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Change )

Connecting to %s