Blog: Trafodaeth Hybu’r Chwyldro drwy’r “Sîn Roc Gymraeg”

image

Ddoe, fynychais drafodaeth ddifyr yn trafod nifer o agweddau am y Sîn “Roc” Gymraeg bresennol, a sut y gellid hybu credoau a gwleidyddiaeth Cymdeithas yr Iaith drwy’r sîn. Wrth gwrs, mae’r Gymdeithas yn gwneud gwaith amhrisiadwy yn trefnu gigs led-led Cymru, a bwriad y digwyddiad oedd holi pa le oedd i wleidyddiaeth yn y byd cerddorol, a sut all y Gymdeithas hybu’r gwerthoedd hynny.

Mared Ifan fu’n cadeirio panel, a oedd yn cynnwys Rhys Mwyn o Anhrefn, Pat Morgan o Datblygu a Griff Lynch o Yr Ods, a fu’n sgwrs ddifyr o rannu profiadau a chwestiynu beth oedd angen ei wneud nesaf.

  • Y Rhyngrwyd Fel Platfform Hyrwyddo

Un o’r prif bwyntiau a ddenodd fy sylw oedd awgrym Griff Lynch i gyflwyno bandiau mewn cyfweliadau bychan a pherfformiadau ecscliwsif i’r Gymdeithas ar y we – gan adeiladu a datblygu cysyniad Sianel 62 gynt. Nid o reidrwydd yn trafod y Gymdeithas, ond trafod eu cerddoriaeth ac amryw bynciau. Pwysleisir dylid manteisio ar ddefnyddio cyfryngau megis Youtube a Spotify yn hytrach na cheisio mynd yn groes-graen iddynt.

Rydym eisoes yn gallu gweld pŵer blogiau cerddorol ar waith, gydag Isosgeles, Juxtaposed ac O’r Dorf wedi gwneud cryn dipyn o argraff wrth adolygu a thrafod cerddoriaeth Gymraeg. Cefais fy magu yn rhan o’r genhedlaeth lle llwyddodd artistiaid fel Lily Allen ac Arctic Monkeys ddenu sylw a dilynwyr ar blatfformau megis Myspace, ac mae ystyried posibiliadau’r Gymraeg mewn maes aml-gyfrwng yn cynnig cyfleoedd heb eu hail. Blogiwr Juxtaposed blog – sy’n ddwyieithog – Teleri Jones, sy’n trafod potensial a phŵer y platfform blogio i artistiaid wrth greu ‘buzz’ a gwelwn fod adolygiadau ar y we a rhannu lluniau a fideos, fel y gwna Iolo Selyf James gyda’r prosiect Kunst, yn ddull effeithiol o hyrwyddo cerddoriaeth a chelfyddyd.

Rwy’n hynod falch bod y panel yn unfrydig eu barn nad edrych yn ôl yw’r ateb, mai edrych ymlaen sydd angen ac er mawr syndod, datgelwyd y “myth” o Oes Aur a neuaddau mawrion yn llawn dop wrth i fandiau’r cyfnod berfformiad… ROEDD YNA GIGS GWEIGION BRYD HYNNY HEFYD, credwch neu beidio.

  • Gigs Ddwyieithog

Bu cryn drafod hefyd am statws bandiau Cymraeg di-Gymraeg, megis Houdini Dax, ac am gynnig cyfle iddyn nhw – a thrafod wedyn am gynnwys bandiau sy’n canu mewn ieithoedd lleiafrifol eraill (cyfeiriwyd at y gymuned Pwylaidd fel enghraifft) i rannu llwyfan gyda’n artistiaid Cymraeg. Heb os, byddai’n agor drysau i gynulleidfa newydd sbon.

Mae’r cysyniad o gigiau dwyieithog yn rhywbeth sydd wedi bod ar fy meddwl ers cryn dipyn. Oni ddylai fod yn flaenoriaeth cyflwyno’r Gymraeg i’r mwyafrif? Oes, mae angen gigiau cyfrwng Cymraeg y Gymdeithas, ond beth am gynnal ambell i gig ddwyieithog hefyd? Ymddengys, drwy grybwyll cynnal gigs aml-ieithog, bod rhyw fath o ymgais i gyflwyno cerddoriaeth Gymraeg fel ‘cerddoriaeth byd’.

I ryw raddau, teimlaf bod yna elfen o ‘preaching to the choir’ yn ngyd-destun gigiau Cymraeg y Gymdeithas. Wrth fynychu gigs Cymraeg, gwelaf yr un wynebau dro ar ôl tro, gan bobl sydd eisoes yn ymwybodol o waith Cymdeithas yr Iaith. Yr hyn y credaf innau sydd angen gwneud nesaf yw gwthio’r rhwyd ym mhellach, a chyflwyno mwy i’w gwaith. Nid wyf o’r farn y dylid dileu gigs cyfrwng Cymraeg yn unig yn gyfan gwbl, ond byddai’n werth cefnogi bandiau Cymraeg i fynd i berfformio ar y cyd gyda bandiau o bob iaith, er mwyn i gynulleidfaoedd di-Gymraeg glywed yr iaith.

image

  • Y Ddelwedd

Rhywbeth sy’n fy mhoeni’n ddirfawr yw’r cysyniad o’r ‘Sîn Roc Gymraeg’. Rydym yn ein ystrydebu ein hun ac yn creu delwedd pendant iawn o’r hyn y dylai bandiau Cymraeg i fod, sy’n gwthio artistiaid amgen i’r neilltu. Yn ogystal â hynny, mae’r broblem o ystyried “Cymraeg” fel genre, ac nid fel iaith, sy’n hollol, hollol niweidiol.

Gofynnwyd gan Bethan Ruth a ddylwn ymfalchio ein bod ni’n gymdeithas “amgen”, ac onid oes angen prif ffrwd ar bob diwylliant? Roedd hi’n anodd ateb y fath gwestiwn, ac mae angen holi ymhellach ynglyn ag i bwy y dylem geisio anelu gyda’r gerddoriaeth Gymraeg? Afraid dweud, mae hi’n amhosib plesio pawb, ond onid yw hi’n werth gofyn pwy y dylem blesio?

O fy mhrofiad i yn fy arddegau, fel ffan o gerddoriaeth roc amgen, roeddwn yn un o’r lleiafrif yn fy ysgol. Oes modd gwneud y Gymraeg yn fwy ‘poblogaidd’ a phrif ffrwd, neu a ddylem gadw i anelu at y gynulleidfa amgen? Oni ddylai’r Gymraeg fel iaith, a’i cherddoriaeth, fod yn rhan ganolog o fywyd bob dydd, ac nid fel rhywbeth ymylol? Yn sicr, mae angen mwy o drafod am y label hwnnw, ac am ba fath o gynulleidfa y dylem ei ddenu.

  • Stigma ‘Canu Gwleidyddol’

Un o fy hoff ganeuon o 2014 yw ‘Cân Wleidyddol’ Endaf Gremlin. “Dyma gân wleidyddol, a sgenai ddim byd i ddeud…” yw ei gwaedd herfeiddiol, ac i mi, mae’n cynrychioli’r mywafrif o’m cenhedlaeth. Onid ni yw’r gymdeithas ddifater, ddiog? Ydyn ni wirioneddol am gael negeseuon gwleidyddol wedi eu gwthio i lawr ein corn gyddfau?

Rwy’n ddigon parod i ddatgan nad oes gennyf ryw lawer o ddiddordeb gwleidyddol – ac fy anwybodaeth am y pwnc sy’n rhannol gyfrifol am hynny. Dyw cerddoriaeth “gwleidyddol” ddim o reidrwydd at fy nant. Ydw, rwy’n hoff iawn o “Cariad Dosbarth Canol Cymru” Y Ffug, ond nid am ei bod yn “wleidydyddol”. Yr angerdd amrwd a’r geiriau a’r dôn fachog sy’n apelio ataf, anad dim, a ni chredaf eu bod o reidrwydd yn fand ‘gwleidyddol’.

Nid wyf yn mynychu gigiau Cymdeithas, chwaith, i gefnogi’r Gymdeithas, er mawr cywilydd. Mae gennyf barch mawr at yr hyn maent yn ei wneud yn trefnu digwyddiadau lleol, ond mynd yno i glywed y gerddoriaeth wyf a mwynhau noson mas. Wrth gwrs, rwyf yn ymwybodol am waith Cymdeithas yr Iaith nhw ac yn hen gyfarwydd â logo Tafod y Ddraig, ond dychwelwn at y cysyniad o ‘preaching to the choir’. Rwyf yn gymharol sicr bod nifer o’r gynulleidfa sy’n mynychu gigiau Cymraeg y Gymdeithas hefyd yn ymwybodol o’u gwaith, ac unwaith eto, mae’n dod i’r amlwg mae ehangu apêl cerddoriaeth Gymraeg a denu cynulleidfa newydd sydd angen.

  • Crynhoi

Dadleuwyd gan y panel a gan gynulleidfa’r drafodaeth bod pethau wedi mynd yn “rhy gysurus” i fandiau ac artistiaid ein sîn gerddorol Gymraeg, a bod y neges amlwg ac angst y 70au a’r 80au wedi mynd ar goll… “Has Welsh rock gone soft?” yw cwestiwn newyddion y BBC. A ddweud y gwir, ydy hynna’n gwestiwn perthnasol yn yr oes sydd ohoni?

Ar y cyfan, ni chredaf mai dyna’r cwestiwn y dylem fod yn ei holi. Griff Lynch pwysleisiodd y dylid creu cerddoriaeth o bob math, heb boeni am gynnwys gwleidyddol. Nid yn unig hynny, ond onid dewis pob band ac artist fel unigolyn ydy os ydynt am ganu’n “wleidyddol”?

I grynhoi, cytunaf gydag awgrymiadau’r panel i ehangu apêl cerddoriaeth Gymraeg, ac i fanteisio ar gyfleuoedd tu hwnt i Gymru, ac hefyd i gryfhau’r defnydd o’ blatfformau’r we. Heb os, bu yna nifer o awgrymiadau i’r Gymdeithas, a gellid darogan bydd dyfodol cyffrous a llewyrchus i’r Sîn Gerddorol Gymraeg pe dewisa Cymdeithas yr Iaith arbrofi gydag ambell un ohonynt.

Advertisements

Gadewch neges / Leave a message

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Change )

Connecting to %s