Adolygiad: Yn y dechrau… – Y Trwbz

Cyhoeddwyd yr adolygiad yma o albwm gyntaf Y Trwbz yn rhifyn Awst 2015 o gylchgrawn Y Selar, a chefais hefyd gyfle i gyfweld Morgan Elwy, un o aelodau’r band. Darllenwch hwnnw yma.


Albwm gyntaf fentrus sydd gan enillwyr Brwydr y Bandiau C2 2014, Y Trŵbz, i’w gynnig i ni. Mae cân gyntaf yr albwm, ‘Yn y Dechrau…’ yn gyflwyniad teilwng i’r band, gyda deuawd hudolus rhwng Mared a Morgan, â geiriau clyfar sy’n ystyried natur y ddynoliaeth. (Tipyn o gamp i fand ifanc!) Mae ‘Tic Toc’ hefyd yn drac tebyg, a’r sengl gyfarwydd ‘Tyrd yn Ôl’, y ddwy gân yn adleisio rhai o’r bandiau roc clasurol megis Led Zepplin. Ar y llaw arall, mae gennych alawon tyner y traciau tawelach megis ‘Paid Aros am y Glaw’ a ‘Enfys yn y Nos’ yn dangos nad one trick pony mo’r band hwn.

Credaf efallai y byddai wedi bod yn well cymysgu’r ddau drac Saesneg ymysg gweddill y casgliad, yn hytrach na’u gosod ar y diwedd fel rhyw fath o afterthought, ond peth bach digon pitw yw hynny. Dyma albwm sy’n rhemp o riffs sy’n bloeddio, wedi eu gwrthgyferbynnu â chaneuon tyner sy’n adeiladu at grescendo ‘November Rain’-aidd.

7/10

Advertisements

Gadewch neges / Leave a message

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Change )

Connecting to %s