Stori fer: Eisteddfod Genedlaethol 2068

Eisteddai Elgan yn ei le arferol wrth y cyfrifiadur, yn gwisgo dim ond ei hen bants llwyd.

Roedd wedi cael ei gyfareddu gan y byd ar y sgrin o’i flaen. Ni chlywodd sŵn tap-tap-tap zimmer frame ei fam yn taro yn erbyn y leino rhad yn y cyntedd wrth iddi ymlwybro’n araf tuag at ei ystafell. Doedd Elgan ddim yn ymwybodol o ddim byd y tu hwnt i sgrin ei gyfrifiadur. Ei ddesg oedd ei bedwar ban byd. Y tu hwnt i’r byd hwnnw, roedd mis Gorffennaf wedi esblygu’n Awst, a’r haf yn ei anterth. Y tu ôl i’r llenni llwydaidd a’r haenau o wydr budr, roedd yr haul yn tywynnu a’r adar yn canu, ond doedd Elgan ddim callach. Roedd ‘Tu Fas’ yn blaned arall.

Roedd tap-tap-tap y zimmer frame yn nesáu. Pe bai Elgan yn gwrando, byddai wedi clywed yr hen wreigen yn ymbalfalu â bwlyn y drws. Unwaith iddi lwyddo i’w agor (wedi cryn dipyn o drafferth), bu’r llygedyn o olau llachar o’r cyntedd a sleisiodd y tywyllwch yn ddigon i roi braw iddo. Gwthiwyd y drws ar agor yn araf bach, a gwyddai Elgan fod ei fam – o’r diwedd! – wedi dod â chwpaned o goffi iddo. Ni thrafferthodd godi ei ben i’w chydnabod. Doedd e ddim yn mynd i’w chroesawu – doedd e byth yn gwneud – ond roedd yr arogl chwyslyd, afiach a lechai yno yn ddigon parod i’w chyfarch ar ei ran. Roedd ei fam wedi arfer ag e erbyn hyn. Roedd hi hefyd wedi gorfod dod i arfer â’r ffaith nad oedd ei mab yn gwisgo amdano. Ddim yn gweld pwynt meddai fe, ac yntau byth yn gadael y sedd o flaen ei gyfrifiadur.

‘Elgan?’

Er bod ei fam yn ei gweld hi’n anodd cydio yn y fframyn zimmer yn un llaw a chydio yn y mwg yn y llaw arall, dringodd dros y pentyrrau o ddillad brwnt tuag at ei ddesg. Gosododd y coffi yn ofalus o’i flaen. Ni ddiolchodd Elgan iddi. Doedd e byth yn diolch. Yn hytrach, cwynodd ei bod hi wedi arllwys peth o’r coffi dros y ddesg a thros y mouse mat Banksy oedd ganddo. Roedd Defod y Gwpaned Goffi Foreol yn cael ei chynnal bob bore (heblaw am fore Sul, pan fyddai ei fam ac Anti Marged yn mynd i addoli sêr y sgrin fawr yn y sinema yn y dref). Roedd Elgan yn gorfod mynd heb ei goffi ar ddydd Sul. Roedd yn ddeugain oed, ond roedd yn dal i fod yn rhy ddiog ac yn rhy dwp i wneud ei goffi ei hun.

Gadawodd ei fam yr ystafell heb ddweud gair, a dychwelyd i’w lle arferol yn y gegin, gan dap-dapian yr holl ffordd ar hyd y cyntedd. Ochneidiodd Elgan. Roedd ei fam yn real niwsans. Pe bai ganddo fwy o arian, byddai wedi ei rhoi yn un o’r cartrefi yna a’i gadael yno flynyddoedd yn ôl, a thalu i rywun arall (pertach) ddod â’i goffi iddo. Roedd hi wedi tarfu arno eto. Roedd yn ceisio gwneud ei bos boreol. Roedd wedi clywed yn rhywle (clywed, gan ei fod yn gwrando ar bodcasts yn hytrach na darllen – roedd darllen yn ormod o waith) ei bod yn llesol i bawb ymarfer ei ymennydd y peth cyntaf yn y bore. Roeddent yn ystyried gwneud y peth yn ddeddf gwlad, gan fod y llywodraeth yn poeni nad oedd pobl yn defnyddio digon ar eu brêns erbyn hyn. Ceisiai Elgan ei orau glas i gwblhau’r pos Sudoko bob dydd. Doedd e ddim wedi llwyddo eto. Defnyddiodd ymweliad ei fam yn esgus y bore hwnnw. Roedd hi wedi tarfu arno, ac yntau’n methu canolbwyntio wedi iddi fynd.

O wel, roedd digon o bethau eraill i’w ddiddanu ar y rhyngrwyd ta beth. Aeth i edrych ar ei broffil ar PartnerPerffaith.com, a gweld nad oedd ganddo’r un neges yn ei flwch negeseuon. Ceisiai ei orau glas i beidio â theimlo’n siomedig. Doedd dim angen cwmni arno. Roedd wedi tanysgrifio i BronnauMawrion.com ac yn talu i siarad â’r merched pert (a phlastig) oedd yn sefyll wrth ei sgriniau fideo drwy’r dydd ac yn esgus peidio ffieiddio wrth weld y dynion bach salw a alwai am eu gwasanaeth. Doedd dim angen cariad go iawn ar Elgan – byddai cariad go iawn yn dod â’i phroblemau a’i theimladau gyda hi ac yn tarfu ar ei fywyd bach cysurus. Doedd dim lle i ddau yn y sedd o flaen y cyfrifiadur.

Craffai Elgan ar y sgrin, gan geisio darllen y print mân. Roedd angen sbectol arno’n druenus. Bu ganddo sbectol unwaith. Pan oedd yn blentyn ifanc iawn, ac yntau’n gorfod teithio bob dydd i Gaerdydd am addysg am eu bod Nhw yn Llundain wedi cau pob ysgol fach Gymraeg. Roedd yna grwt o Ben-y-bont – Bili Bowen – a fynnai wneud hwyl am ei ben am ei fod yn gwisgo pâr o sbecs. Hyd heddiw, clywai enwau cas Bili’r Bwli yn adleisio yn ei glustiau. ‘Elgan Four Eyes’ a ‘Speccy-Bum-Bum’ a nifer o enwau Saesneg eraill a gleisiai enw da’r ysgol Gymraeg… ac unwaith iddynt ei ddal yn crio yn y tai bach am ei fod wedi ypsetio’n lân, dechreuodd Bili a’i griw ei alw’n ‘Mammy’s Little Cry Baby’. Cythruddwyd Elgan. Cafodd ddigon o’r enwau cas. Chwalodd ei sbectol yn ddarnau mân, mân, a rhoi’r darnau gwydr yng nghanol brechdan ham y bwli. Fe’i hanafwyd yn ddifrifol, a welodd Elgan mo Bili Bowen byth eto. Roedd yn ddiolchgar iawn am hynny. Bu’n rhaid iddo weld therapydd yn wythnosol wedi’r digwyddiad, ond o leiaf roedd hi’n llawer caredicach tuag ato nag y bu Bili. Roedd yn dal i orfod cynnal sgyrsiau fideo wythnosol â therapydd – er mai un wahanol yr oedd yn ei gweld erbyn hyn. Doedd e ddim yn siŵr iawn beth oedd diben ei dehongli a’i dadansoddi – roedd e’n holliach ei gorff a’i feddwl, diolch yn fawr.

Ond doedd Elgan heb wisgo sbectol ers y diwrnod hwnnw. Pallodd ei fam brynu pâr arall iddo am ei bod hi’n poeni y digwyddai’r un peth eto, a doedd Elgan ddim am wisgo’r un peth a fyddai’n ei atgoffa o’r hyn a wnaeth i Bili. Doedd e ddim am wahodd pobl i’w alw’n enwau cas eto chwaith. Doedd neb wedi mentro ei alw’n un enw cas byth ers hynny (dim i’w wyneb, o leiaf), a gadawyd Elgan i fod. Ond roedd yn hŷn nawr. Roedd e’n ei gweld hi’n anodd edrych ar y sgrin. Roedd gloywder gwyn y sgrin gyfrifiadurol yn llosgi ei lygaid, a’r cyfan yn dechrau toddi’n un cwmwl mawr, aneglur. Dim ond i ddefnyddio’r cyfrifiadur y byddai angen eu gwisgo, wrth gwrs. Doedd neb yn galw i’w weld, felly ni fyddai neb yn gweld ei sbectol. Ac roedd rhai heddiw yn llawer mwy ffasiynol na’r rhai a brynwyd iddo gan ei rieni pan oedd yn blentyn.

Gwyddai am wefan lle gallai fynd i gael prawf llygaid a phrintio’r sbectol yr oedd ei hangen arno gyda’i beiriant argraffu 3-D. Roedd modd gwneud pob dim ar y we bellach. Arhosodd i’r linc-fideo lwytho. Ni fyddai Elgan wedi teimlo’n gysurus iawn yn sleifio allan o Specsavers gyda’i sbectol newydd mewn bag gwyrdd llachar wedi bod yn cael ei destio’n ddidrugaredd gan optegydd go iawn. Erbyn meddwl, doedd Elgan ddim yn siŵr a oedd siopau Specsavers yn dal i fodoli – roedd nifer o siopau’r stryd fawr wedi cau, a’r rhai oedd yn weddill yn brwydro i oroesi (ac eithrio PC World, oedd yn ffynnu). Doedd e heb fentro i’r dref ers degawd cyfan, os nad mwy! Doedd dim angen iddo adael ei gyfrifiadur. Gallai brynu ac archebu popeth oddi ar y we, ac aros yn ei unfan i’r cynnyrch gyrraedd.

Cliciodd Elgan ar y linc priodol, ac ymddangosodd optegydd rhithiol ar y sgrin. Creadur wedi ei greu gan animeiddwyr ydoedd, a’r rheini wedi bwydo geiriau i’w geg. Doedd e ddim mor fygythiol nac mor fusneslyd ag optegydd go iawn. Esboniodd wrth Elgan beth i’w wneud. Gofynnodd iddo ddarllen y siart a ymddangosodd ar y sgrin, a stryffaglodd Elgan i ddarllen

E

J

P

L

A

O

K

F

E

K

M

oddi arno. Bu’n rhaid iddo gwblhau nifer o brofion eraill yn ymwneud â’i allu i weld, ac yn y diwedd, dyfarnwyd bod arno angen sbectol cryfder 2.75. Gofynnwyd iddo deipio ei fanylion banc ar y ffurflen gofrestru, cyn iddo allu printio’r cynnyrch. Grêt. Ufuddhaodd Elgan, a rhannu ei fanylion â’r peiriant yn ddi-gwestiwn. Ymhen chwe munud, roedd y printer yn printio’i sbectol newydd. Chwe munud cyfan o aros am ei sbectol. Roedd y peiriant argraffu 3-D a oedd ganddo yn hen erbyn hyn. Model y llynedd ydoedd, a model newydd eisoes wedi ei ryddhau a allai argraffu pethau mewn pedair munud yn hytrach na chwech.  Penderfynodd Elgan mai ar un o’r rheini y byddai’n gwario ei fudd-dal nesaf. Byddai’n rhaid i’w fam aros wythnos arall am ei siâr ef o’r rhent.

Wedi rhoi’r sbectol i orffwys ar waelod ei drwyn, gwelodd Elgan y byd o’r newydd. Gallai weld pob manylyn ar y sgrin yn eglur. Gwelai ysgrifen fechan ar yr hysbysebion lu ar wefan yr optegydd na wyddai eu bod yn bodoli cyn hynny. Roedd pob llun yn eglur – ac yntau wedi meddwl cyhyd bod lluniau wedi pylu wedi cael eu tynnu felly’n fwriadol! Teimlai Elgan yn llawer gwell – roedd y cur pen cyson a’r poen yn ei dalcen yr arferai ei ddioddef yn gwella, am nad oedd rhaid iddo graffu bellach. A doedd y sbecs ddim yn edrych yn rhy ffôl. Roedd geek chic yn ffasiynol ar hyn o bryd, wedi’r cwbl. Penderfynodd newid ei lun proffil ar Facebook. Dangos i bawb o bobl y byd bod ganddo sbectol newydd. Efallai y denai fath gwahanol o ferch. (Ond os nad oedd hynny am weithio, roedd merched BronnauMawrion.com yn dal i fod yno iddo, ddydd a nos, twenti ffôr sefyn.)

Wrth iddo lyncu pob manylyn newydd o’r sgrin, sylwodd ar hysbyseb newydd nad oedd erioed wedi ei gweld o’r blaen. Un Gymraeg. Nid oedd erioed wedi sylwi ar hysbyseb Gymraeg ar y rhyngrwyd cyn hynny. Dim ond gwefannau amheus a fedyddiwyd ag enw mewn iaith leiafrifol fel y Gymraeg, a doedd neb byth yn siarad Cymraeg ymysg y fforymau niferus hynny. Doedd Elgan erioed wedi gweld iaith arall yn britho byd yr hysbysebion – dim hyd yn oed fel unique selling point.  Doedd neb call yn defnyddio’r Gymraeg. Ac roedd y geiryn a fflachiai o’r hysbyseb honno’n un y credai Elgan ei fod wedi diflannu o’r iaith ers blynyddoedd maith. Sychodd Elgan ei sbectol, er nad oeddent wedi cael eu defnyddio’n ddigon hir i ddwyno eto, a gwneud yn siŵr nad oedd ei lygaid yn ei dwyllo.

Na. Dyna’r gair.

‘Eisteddfod.’

Doedd e ddim yn sylweddoli bod honno’n dal i fodoli. Ond rhaid ei bod. Roedd yna Gymry yn rhywle yn dal i fynnu cynnal Eisteddfod. Roedd yr hysbyseb fechan honno reit yng nghornel waelod y dudalen yn ceisio’i gorau i frwydro yn erbyn hysbysebion y ‘New Botox Treatment’ a’r ‘The Best Weight Loss Diet – Minimal Effort’. Prin y gellid darllen cyhoeddiad pitw’r Eisteddfod, a oedd yn ‘eich gwahodd yn gwrtais i Eisteddfod Seiber 2068’, ac yn rhoi’r linc http://www.CyberEisteddfod.co.uk fel yr unig gyfarwyddyd pellach i’r darllenydd.

Heb iddo sylweddoli ei fod yn gwneud, cliciodd Elgan ar y linc hwnnw.

Dim ond unwaith y bu Elgan i’r Eisteddfod erioed. 2036 oedd hi pan lusgodd ei fam ef a’i chwaer fach i’r Eisteddfod i weld ‘bach o ddiwylliant’. Am antur! Cofiai sut yr oedd ef ac Elysteg yn ecseited bost i gael mynd i weld rhyfeddodau’r Eisteddfod Genedlaethol. Doedd yr un o’r ddau yn deall yn iawn beth oedd diwylliant – roeddent yn rhy ifanc – ond roedd y gair ei hun yn llawn addewid. Diwylliant. Disgwyliai’r ddau blentyn weld gwledd o hud a lledrith. Adroddai eu mam straeon am yr ŵyl arbennig lle gellid cwrdd â ffrindiau hen a newydd fel ei gilydd, a sôn am babell enfawr lle y cynhelid seremonïau amrywiol. Roedd yna Orsedd yn gwisgo clogynnau gan gario cleddyf heddwch ar hyd y maes, ac yn mynd i goroni neu gadeirio Prifardd a’i ddrin fel Arwr Mawr y Genedl. Roedd yna wobrau rhyddiaith hefyd, ond doedd y rheini, yn ôl ei fam, ddim yn bwysig iawn. Mi dreuliodd hi’r daith hir i’r Bala yn diddanu’r ddau fach wrth esbonio y byddai beirdd yn barddoni ar bob cornel ac y byddai’r maes yn llawn miri a bwrlwm. Roedd Elgan a’i chwaer wedi gwirioni’n lân wrth weld y babell fawr oren a oedd, yn ôl ei fam, yn binc pan oedd hi’n blentyn. Doedd y ddau’n methu aros i grwydro’r maes.

Ond wedi cyrraedd yno, cafodd y ddau fach siom. Oedd, roedd y babell anferthol yn werth ei gweld, ond roedd yr adloniant a gâi ei gynnig ynddi’n ddiflas uffernol. Eisteddodd y triawd trwy’r bore yn gwrando ar bartïon o wahanol rannau o Gymru yn adrodd yr un gerdd drosodd a throsodd. Doedd doniolwch gweld yr un criw o Ogleddwyr a faglai dros eiriau tafodieithol y De wrth geisio cyd-adrodd ddim hyd yn oed wedi codi gwên. Wedi’r artaith honno, cyhoeddwyd ei bod hi’n bryd cynnal seremoni’r cadeirio, ac er i Lys yr Eisteddfod addo cadeirio bardd, penderfynwyd atal y wobr y flwyddyn honno eto, am nad oedd neb yn deilwng. Aeth y fam a’i phlant siomedig allan i grwydro’r maes, a threulio gweddill y prynhawn yn crwydro’r stondinau tila a gwrando ar leisiau crynedig llond dwrn o feirdd hynafol.

Roeddent wedi teithio’n bell i wneud dim ond diflasu, prynu hufen ia drud (iawn!) a llosgi yn yr haul.  Penderfynodd y brawd a’r chwaer na fyddent yn mynd i’r Eisteddfod byth eto.  Ni wyddai Elgan pam, ddeuddeng mlynedd ar hugain yn ddiweddarach, y newidiodd ei feddwl.

Ai ei famiaith a’i denai? Profiad rhyfedd oedd gweld yr iaith a siaradai â’i fam yn unig yn ymddangos ar sgrin ei gyfrifiadur. Yng nghanol bloeddio’r hysbysebion Saesneg, roedd yr un sgwaryn bychan hwnnw o Gymraeg yn sibrwd ei wahoddiad yng nghlust Elgan. Adleisiai’r sibrwd hwnnw’n uwch na’r un waedd. Roedd Cymraeg digon di-fflach Elgan yn ei alluogi i ymuno â charfan ecscliwsif o bobl, ac yn ei demtio oddi ar lwybr cul y brif ffrwd, a theimlai, am unwaith, ei fod yn perthyn.

Croesawyd Elgan i wefan yr Eisteddfod gan ffanffer yn blastio o seinydd ei gyfrifiadur. Bu bron iddo syrthio o’i gadair – er iddo glywed yr un dôn yn syrffio i’w ystafell o donfeddi radio ei fam yn gynharach y diwrnod hwnnw.

‘ELGAN?!’

Trodd sŵn ei seinydd i lawr, cyn i’w fam adnabod y trympedi.

‘BETH YW’R SŴN ‘NA?!’

‘DIM BYD, MAMI!’

Ar y sgrin o’i flaen, syllodd Elgan ar e-faes yr Eisteddfod. Roedd yna orchymyn iddo lwytho llun ohono’i hun er mwyn iddo gael crwydro’r e-faes hwnnw. Dewisodd lun ohono’i hun yn ei sbectol newydd – roedd e erbyn hyn yn llwyr argyhoeddedig ei bod yn gwneud iddo edrych yn glyfrach. Arhosodd iddo lwytho. Dyna’r drefn gyda’r gwyliau seiber hynny. Roedd pob gŵyl yn rhad ac am ddim, ond roedd yn rhaid i bob ymwelydd fewngofnodi llun ac enw defnyddiwr iddo’i hun. Bu’n rhaid iddo wneud yr un peth pan benderfynodd fynd i Glastonbury y llynedd. Roedd costau cynnal gwyliau o’r fath wedi mynd yn drech na’u trefnwyr, a chan fod pobl yn gyndyn o adael eu cyfrifiaduron, cynnal gwyliau seiber oedd yr unig ffordd o arbed costau a chadw gyda’r oes. Ni oroesodd pob gŵyl, wrth gwrs. Doedd y gwyliau llenyddol ddim yn rhy boblogaidd – wedi’r cwbl, pwy oedd am eistedd a gwrando ar bobl yn darllen o’u e-lyfrau? Roedd y gwyliau cerddorol a’r gemau rygbi/pêl-droed/hoci i gyd yn cael eu cynnal yng nghartrefi pawb. Roedd yna griw o beirianwyr yn America wedi cywasgu pob gronyn o’r byd i grombil cyfrifiadur er mwyn i bawb gael aros yng nghlydwch eu cartrefi i’w mwynhau. Doedd dim angen i neb deithio i unman.

Dyna wraidd yr holl gwyno yng Nghymru ynglŷn â’r Eisteddfod erioed. Teithio. Roedd y nifer a oedd am ddilyn yr ŵyl deithiol i ble bynnag yr âi yn crebachu wrth i’r blynyddoedd fynd yn eu blaenau. Cwynai’r to ifanc (rhai digon tebyg i Elgan) fod mynd i’r Eisteddfod Genedlaethol yn ormod o ymdrech. Roedd y gogleddwyr yn gyndyn o deithio o wyrddni’r Gogledd a mentro i’r De, a’r Hwntws yn anfodlon gadael dinasoedd y De a mynd i’r Gogledd. Rhy bell – a  neb hyd yn oed yn fodlon ystyried sefydlu’r ŵyl yn y Canolbarth, mewn man canolog. Doedd yna neb eisiau treulio wythnos gyfan yn y Canolbarth. Roedd teithio ar hyd Cymru, er mor fach oedd hi, yn dipyn o boendod ta beth – roedd yr A470 yn dadfeilio dan deiars y ceir, a dim arian gan y Senedd i orffen adeiladu’r briffordd newydd (roedd hynny yn y dyddiau cyn iddynt orfod ail-ymuno â Llywodraeth Lloegr).

Wedi i’w lun lwytho, aeth Elgan i ddarllen yr hanes cyn mynd ati i grwydro’r wefan. Roedd yn gyfle iddo wneud defnydd da o’i sbectol. Darllenodd trwy’r paragraffau a oedd yn sôn am dwyll Iolo Morganwg, bla bla bla… Aha! O’r diwedd. darnau difyr. Roedd hi’n 2057 pan esblygodd yr Eisteddfod Genedlaethol draddodiadol yn Eisteddfod Genedlaethol Seiber. Cynnal yr ŵyl ar-lein oedd yr unig ateb i holl broblemau’r Eisteddfod, a chychwyn maes ar ffurf gwefan. Bu’n rhaid i Elgan droi at Google er mwyn datgelu mai cyrraedd llinell derfyn yr overdraft a wthiodd Lys yr Eisteddfod i ystyried ildio’i draddodiadau anrhydeddus. Wedi iddo gael digon ar chwarae ditectif, trodd Elgan yn ôl at wefan yr Eisteddfod. Gwerthai honno ŵyl gyfleus, gŵyl rad-ac-am-ddim (doedd yna ddim costau glanhau gan wefan, wedi’r cwbl), a honno’n dal i gynnal hen arferion a thraddodiadau’r Eisteddfod. Yr unig gost ychwanegol i’r $49.99 a dalai’r Llywodraeth i gynnal y wefan oedd costau talu’r beirniaid… ac roedd y Llywodraeth wrthi’n dyfeisio peiriannau a fyddai’n gwneud jobyn gwell na’r rheini erbyn hyn. Roeddent yn ceisio dylunio rhai tebyg (ond rhatach) na’r rhai a osodwyd fel beirniaid ar X Factor.

Gadawyd stori’r Eisteddfod Genedlaethol yn benagored ar y wefan – honnwyd bod yna ddyfodol disglair i’r ŵyl ar ei newydd wedd, ac y byddai Iolo Morganwg wrth ei fodd i weld yr Eisteddfod Genedlaethol yn parhau i fod yn berthnasol Ni wyddai Elgan a fyddai Iolo Morganwg mor hapus â hynny i weld ei seremonïau’n cael eu cynnal yn rhithiol ar y rhyngrwyd, ond roedd Elgan ei hun wrth ei fodd. Tybed sut brofiad fyddai crwydro’r maes fel oedolyn? Roedd ei fam wedi mynd ambell dro wedi iddi fynd ag ef a’i chwaer yno ac roedd hithau wrth ei bodd. Roedd hi’n dychwelyd oddi yno yn siarad am oedfaon a chystadlaethau a gweld hen ffrindiau. Efallai nawr ei fod yn hŷn, y byddai yntau hefyd yn mwynhau’r Eisteddfod Genedlaethol.

Ymddangosodd yr e-faes o’i flaen unwaith eto. Ymdebygai i un o hen fapiau’r Eisteddfod, ond bod modd gwasgu ar ddolenni gwahanol dudalennau a gweld nifer o bethau difyr a diddorol. Roedd yna fotwm y gellid ei wasgu i weld fideos y cystadleuwyr (a oedd yn canu ac yn adrodd i’w meicroffonau wrth eu cyfrifiaduron), a botwm a alluogai Elgan i wrando ar bodcastiau’r beirniaid. Symudodd Elgan y llygoden gyfrifiadurol o’r fan honno. Ni chredai y byddai ganddo lawer o ddiddordeb ym marn y beirniaid, gan nad oedd  ganddo iot o ddiddordeb yn y cystadlu. Sylwodd ar ail fforwm ar gyfer y beirniaid, a gwelodd fod angen cyfrinair arbennig i ymuno â’r fforwm hwnnw. Roedd modd ymuno â nhw am dâl sylweddol. Gwrthododd Elgan. Doedd e ddim am gymysgu â chrachach fel yna.

Roedd y maes rhithiol o’i flaen yn frith o ddotiau bychan, a gwyliai Elgan nhw yn crwydro. Roedd pob dot yn cynrychioli’r bobl a oedd wedi dod i’r ŵyl, ac roedd enw (neu ffugenw) pob un ar faner fechan uwch eu pennau. Byddai hynny wedi gwneud bywyd pawb lawer haws yn y byd go iawn pe bai pawb wedi ei labelu felly. Dim anghofio enwau, dim cyflwyniadau lletchwith. Gwyliodd Elgan ei fod bach yntau ar ffurf dot – Elgz343 – yn crwydro. Safai reit yng nghalon y maes, yn hofran yn yr unfan gan nad oedd yn gallu penderfynu beth i’w wneud nesaf. Brysiai dotiau eraill heibio iddo – aeth MagwWynHaf98 tuag at linc y Pafiliwn, a symudodd smotyn PedrKool256 tuag at y lle bwyd a’r bar. (Oedd, roedd modd printio bwyd a diod gydag ambell i fodel o argraffwyr 3-D, ond roedd rhaid talu crocbris amdano’n gyntaf). Penderfynodd Elgan fynd i bori drwy’r siopau. Crwydrodd ei ddot tuag at jingelarings Cymreig Cadwyn, Bodlon ac Adra a’u tebyg, er y gwyddai Elgan nad oedd eu cynnyrch at ei ddant ef.

Wrth iddo symud ar hyd y maes o’r siopau, roedd y ffanffer yn parhau drwy’r seinyddion, a llais robotaidd yn cyhoeddi ‘Welcome to the Cyber Eisteddfod / Croeso i’r Eisteddfod Seiber!’ dro ar ôl tro. Roedd y mantra dwyieithog yn dechrau mynd dan groen Elgan – ac ni wyddai pam roedd yn poeni cymaint fod y cyfarchiad Saesneg yn dod cyn yr un Cymraeg. Denodd un dot ag enw cyfarwydd ei sylw.

MissyFfransis777.

Onid oedd ganddo athrawes o’r enw Miss Ffransis? Yr athrawes Gymraeg? Honna a geisiodd ei gorau glas i gael Elgan i ymddiddori ym marddoniaeth Twm Morys a Ceri Wyn Jones a beirdd eraill a oedd yn llawer rhy hen i fod yn berthnasol iddo ef. Na, efallai nad hi oedd yno. Ond wrth glicio ar y dotyn bach a gweld y llun ar ei phroffil, adnabyddodd Elgan hi’n syth. Oedd, roedd hi wedi heneiddio a synnodd ei gweld yn gwisgo minlliw pinc llachar (ni fyddai wedi meiddio ei wisgo i’r ysgol), ond Miss Ffransis oedd hi.

Ac roedd hi wedi ei adnabod yntau, hefyd.

‘Elgan Tomos?’

Ymddangosodd swigen sgwrsio fechan yng nghornel y sgrin. Ni wyddai Elgan a oedd am ymateb i’w chyfarchiad hi. Profiad lletchwith oedd siarad â hen athrawon. Roedd gweld proffil MrGHGriffith69 yr athro Addysg Grefyddol (cyn iddynt ei ddileu fel pwnc) ar BronnauMawrion.com wedi bod yn ddigon o sioc, ond roedd gweld hon â’i minlliw llachar ar e-faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn hynotach fyth. Doedd athrawon ddim i fod i adael cyfrifiaduron eu hystafell ddosbarth. Doedd athrawon ddim i fod i fwynhau bywydau yn y byd mawr y tu hwnt i furiau meddalwedd yr ysgol. Yn sicr, doedd athrawon ddim i fod i wisgo minlliw pinc llachar na dangos bod ganddynt owns o bersonoliaeth yn perthyn iddynt. Doedd hen athrawon ddim i fod i ailymddangos i atgoffa Elgan o’r gorffennol digon diflas y ceisiodd ei anghofio.

‘Elgan Tomos?’

Roedd MissyFfransis777 wedi anfon y neges eto – byddai’n anghwrtais i’w hanwybyddu nawr.

‘Helo Miss Ffransis. Sut y’ch chi?’

‘Galwa fi’n Matilda. Sut wyt ti ers slawer dydd?’

‘Iawn diolch.’

Ni holodd yntau sut yr oedd hi. Roedd e’n awyddus i adael y sgwrs. Roedd wedi dysgu enw cyntaf ei athrawes, ac roedd hynny’n ormod o wybodaeth. Beth pe bai’n datgelu ei phwysau, ei thaldra, neu’n waeth, maint ei bra, iddo hefyd? Doedd e ddim am sgwrsio â’i athrawes, ond roedd ei athrawes yn awyddus iawn i sgwrsio ag e.

‘Beth wyt ti’n ’neud ’da dy fywyd erbyn hyn?’

Ych. Roedd yn casáu’r fath gwestiynau. Teimlai’n lletchwith, a pharai’r cwestiwn iddo ystyried go iawn, beth oedd e’n ei wneud â’i fywyd? Dim lot, oedd yr ateb onest.

Penderfynodd Elgan ddweud celwydd.

‘Bues i’n gweithio fel technegydd ar y rhwydwaith am dipyn.’

‘O da iawn – a minnau’n meddwl y byddet ti’n fardd mawr ryw ddydd!’

Doedd Elgan ddim yn gwybod beth i’w ddweud. Teimlai ei fod wedi ei gornelu gan yr athrawes Gymraeg, er y byddai’n ddigon rhwydd cerdded i ffwrdd oddi wrth y cyfrifiadur, a gadael ei ddesg. Roedd hi wrthi’n teipio – gallai weld y neges ‘Teipio…’ yn ymddangos ar y sgrin. Doedd e ddim yn rhyw barod i ateb mwy o gwestiynau. Roedd yna suon am Miss Ffransis yn ffansio bechgyn ifanc ers talwm. Beth pe bai wedi cymryd ffansi ato fe?

Ymddangosodd ei neges newydd.

‘Rhaid i mi frysio Elgan, mae RhysIoro233 wedi ysgrifennu Cywydd Coffa GutoLlDaf999 ac ar fin ei ganu ar goedd ar dudalen Barddas. Dylai fod yn un da, er dyw Rhys ddim cystal ag oedd e slawer dydd. Ma’ fe dros ei bedwar ugain erbyn hyn, chwarae teg. Hwyl am y tro!’

Diolch byth! Sychodd Elgan y chwys o’i dalcen. Dim rhagor o gwestiynau lletchwith, a llonydd i eistedd yno wrth ei ddesg yn crwydro. Roedd cwrdd â phobl yr oedd wedi eu cyfarfod yn y byd go iawn yn deimlad rhyfedd. Fel arfer, gallai grwydro’r rhyngrwyd fel bod anhysbys – yn adnabod neb a neb yn ei adnabod yntau. Er ei fod wedi ychwanegu pob un person y bu’n sgwrsio â nhw erioed (ac ambell un a welodd, heb hyd yn oed sgwrsio ag ef) yn ‘ffrind’ ar Facebook, gallai fynd i bob fforwm a phob gwefan arall heb yn wybod i neb. Yn yr Eisteddfod Seiber, roedd pethau’n wahanol. Roedd sawl enw cyfarwydd yn ymddangos ar y sgrin. LiwsiLewysDdel, y ferch gyntaf iddo’i ffansio erioed. PopiPopsicle, ffrind gorau ei chwaer fach. KelvinOJ90, a arferai fynd i’r un clwb pêl-droed ag ef (cyn i Elgan sylweddoli bod chwaraeon o unrhyw fath yn ormod o ymdrech). Roedd y Cymry Cymraeg a frithai ei orffennol dosbarth canol Cymreig yno yn yr Eisteddfod, pobl nad oedd wedi eu gweld na chlywed eu hanes ers blynyddoedd. Ceisiodd lywio’i ddotyn bach yntau heibio iddynt i gyd, cyn i neb gael cyfle i glicio arno a theipio neges. Mentrodd i dudalen nad oedd neb arall i’w weld yn awyddus i ymweld â hi.

Daeth Elgan wyneb yn wyneb â llun anferthol o Dafydd Iwan ac, yn wir, roedd yn llenwi’r sgrin gyfan. Nid yn unig hynny, ond bu rhywun yn garedig iawn â’r llun o’r cantor (dewiswyd un ohono’n gymharol ifanc), gan dreulio cryn dipyn o amser yn ei addasu ar PhotoShop. Edrychai’r hen DI bron yn dduwiol. Fel teitl o dan y llun hwnnw, darllenodd Elgan y geiriau, GWOBR GOFFA DAFYDD IWAN. Yn ôl gofynion y gystadleuaeth, roedd angen i gystadleuydd gyfansoddi anthem wladgarol ac iddi naws werinol. Roedd yn gystadleuaeth gymharol newydd, ond roedd hi’n ymddangos nad oedd yn gystadleuaeth boblogaidd iawn, o ddarllen rhestr o enillwyr y pedair blynedd flaenorol.

2064 – Neb yn deilwng.

2065 – Neb yn deilwng.

2066 – Neb yn deilwng.

2067 – Neb yn deilwng.

Diflasodd Elgan. Sut oedd modd i unrhyw un ysgrifennu cân wladgarol mewn byd a fodolai ym mydysawd di-ffiniau’r we fyd eang? Doedd dim angen pasbort i deithio i unman. Roedd Sbaen, yr Eidal, Rwsia, yr Amerig a pha bynnag wledydd eraill oedd yno yn y byd i gyd ar flaenau ei fysedd. Bu i Ffrainc ar ei wyliau’r wythnos flaenorol – clywodd gan rywun yno fod y rhaglenni sgïo rhyngweithiol ar-lein yn werth eu gweld. Beth oedd gwlad erbyn hyn? A doedd Cymru ddim wir yn wlad, nac oedd? Doedd hi erioed wedi bod. Sir arall a berthynai i Loegr oedd hi mewn gwirionedd. Doedd ganddi mo’i Senedd ei hun (a phan fu ganddi un, ni welwyd fawr o wahaniaeth), ac roedd ei phoblach yn amharod i ymfalchïo yn eu hiaith. Yn ddifater ynglŷn â’i thynged, ac eithrio un wythnos o’r flwyddyn, mewn gŵyl genedlaethol a oedd wedi gweld dyddiau llawer gwell.

Dychwelodd Elgan i’r prif e-faes. Dechreuodd deimlo’n nerfus eto, wrth weld y rhestr o enwau cyfarwydd yn tyfu. Gwelodd MsIfanBifans, y fenyw drws nesaf wrth dudalen Merched y Wawr, MrIsabellaItalia34, un o gyd-ddisgyblion Elgan o’r ysgol, oedd wedi priodi Eidales ac wedi cymryd ei henw hi yn hytrach na rhoi ei enw yntau iddi hi, yn gobeithio printio beiros am ddim o stondinau Cymdeithasau Hen Brifysgolion Cymru, a synnodd Elgan weld ei frawd-yng-nghyfraith, AledNielson8 mewn sgwrs gyda rhyw CandiMelys2… ac yna gwelodd un enw arall.  Un enw arall a gydiodd yn ei gydwybod a’i golbio tan ei fod yn brifo.

Bili_Bowen_7.

Ailddarllenodd Elgan yr enw. Syllai arno drwy’i sbectol newydd, a’i weld yn berffaith eglur. Teimlai Elgan gyfog yn codi i’w geg, wrth i euogrwydd gydio ynddo a’i ysgwyd yn galed. Roedd wedi ceisio’i orau glas i gladdu enw Bili Bowen yng nghefn ei gof. Er nad oedd Elgan yn un da iawn am gofio pen-blwyddi arbennig na rhifau ffôn, ni allai anghofio’r hyn a ddigwyddodd yn yr ysgol slawer dydd.

Pe bai’n gallu darllen sgyrsiau preifat pobl eraill, byddai Elgan wedi gallu dysgu beth a ddigwyddodd i’r bwli o Ben-y-bont. Byddai wedi dysgu am ddeiet arbennig Bili, a oedd yn gorfod byw ar ysgytlaethau ffrwchnedd ac uwd plaen, ac yntau’n methu llyncu dim byd solet oherwydd y difrod i’w lwnc a’i stumog; byddai hefyd wedi darllen bod pawb yn rhyfeddu gweld Bili Bowen yn tywyllu’r fath le ag Eisteddfod Seibr. Wedi’r hyn y penderfynodd Elgan ei alw’n ‘anffawd’ gyda’r brechdanau ham-a-gwydr, treuliodd Bili Bowen flynyddoedd mewn ysbyty, gyda’i hipi o fam yn dysgu popeth iddo am farddoniaeth Gwyneth Lewis a rhyddiaith Owain Owain yn hytrach na dilyn y cwricwlwm Cymreig. Nid oedd ei chwaeth gelfyddydol yn ‘gonfensiynol’ iawn. Fodd bynnag, doedd dim angen i Elgan ddarllen yr un gair o’u gossip gwag. Roedd gweld y tiwb plastig yn dringo lan ei drwyn a masg llawfeddygol dros ei geg yn ddigon.

Er i Bili Bowen ei fwlio’n ddidrugaredd, gwyddai Elgan yn iawn nad oedd modd cyfiawnhau’r modd y penderfynodd ddial arno. Ar y pryd, ni ddychmygodd y byddai lensys ei sbecs yn achosi cymaint o loes i’r bwli. Roedd e am iddo deimlo caledwch y gwydr yn ei geg a strywio’i ginio a rhoi rheswm i’r plant eraill chwerthin ar ei ben. Meddyliai Elgan y byddai’n blasu rhywbeth rhyfedd yn ei frechdan ac yn poeri’r cynnwys allan. Doedd e ddim wedi bwriadu ei frifo.

Teimlai Elgan chwys oer yn diferu lawr ei dalcen, wrth iddo ddisgwyl am neges oddi wrth Bili Bowen. Pe bai yntau yn esgidiau Bili, byddai ar dân eisiau dial. Yn wir, byddai’n ysu am gael neidio drwy’r sgrin a sathru am ben y diawl a’i hanafodd flynyddoedd maith yn ôl. Diolchodd nad oedd technoleg wedi datblygu mor bell â hynny. Dim ond mewn nofelau a ffilmiau ffuglen wyddonol roedd hi’n bosib gweld pobl yn neidio allan o sgriniau. Disgwyliai Elgan dderbyn neges, fodd bynnag. Neges yn frith o regfeydd ac ebychnodau crac yn mynnu ei fod wedi dinistrio’i fywyd yn llwyr. Neges a fyddai’n gwthio Elgan i’w gwrcwd i guddio dan y ddesg, ond ni ddaeth yr un neges. Arhosai Elgan yno yn ei sedd o flaen y sgrin, a’r unig gerydd a dderbyniodd oedd oddi wrth ei gydwybod ei hun.

Gwyliodd label bychan Bili_Bowen_7 yn diflannu i dudalen Cymdeithas yr Iaith. Na, doedd e ddim yn gallu goddef mwy o hyn. Gadawodd dudalen yr Eisteddfod Seibr. Dylai fod wedi sticio at y penderfyniad a wnaeth yn 7 mlwydd oed a chadw draw o’r Eisteddfod. Roedd e wedi bod yn berffaith hapus ei fyd, yn gwylio porn a gwrando ar bodcastiau Seisnig ac Americanaidd drwy’r dydd, bob dydd. Cafodd e getawê rhag y bwli’r tro hwn… ond y tro nesaf…

Wrth edrych ar y sgrin, ni wyddai beth i’w wneud nesaf. Syllai’r sgrin arno’n ddisgwylgar, gan aros. Mewngofnododd i’w gyfrif ar PartnerPerffaith.com eto, a gweld bod ei flwch negeseuon yn dal yn wag. Estynnodd am ei goffi, a’i yfed, er ei fod wedi oeri ers meitin. Doedd arno ddim chwant gwneud pos arall. Rhechodd. Crafodd ei din. Am y tro cyntaf ers blynyddoedd meithion, doedd ganddo ddim syniad lle’r oedd yn mynd i fynd nesaf. Roedd ei sbectol newydd, mwyaf sydyn, yn pwyso’n drwm ar ei drwyn, ac enw Bili’r Bwli’n pwyso’n drymach ar ei feddwl. Ochneidiodd yn ddwfn, a gresynu nad oedd gan y cof dynol fotwm i ddileu ffeiliau fel yr oedd gan y cyfrifiadur.

Nid oedd Elgan wedi holi hynt a helynt y bwli ers y ddamwain. Nid oedd wedi ystyried na fyddai’n gallu bwyta. Ni allai Elgan hyd yn oed ddychmygu bywyd heb fwyd. Roedd ei fam yn dod â phedwar pryd bwyd mawr iddo bob dydd, ac roedd e’n cadw’i oergell fach ei hun o dan ei ddesg yn llawn byrbrydau. A beth am deulu Bili? Oedd e’n briod? Oedd ganddo blant? Beth am ei fam? Sut deliodd hi â chyflwr ei mab? (Roedd e’n ymwybodol nad oedd yna dad ar y sîn, dim ond nifer o ewythrod.) Pa mor garedig neu greulon a fu’r blynyddoedd diwethaf wrtho? Na, doedd Elgan ddim am feddwl am hynny. Ceisiodd anwybyddu’r cwestiynau di-ri, gan wybod mai’r unig ffordd o’u hateb fyddai mynd i weld Bili ei hun, a doedd hynny ddim yn mynd i ddigwydd. Doedd gan Elgan ddim awydd dychwelyd i e-faes yr Eisteddfod ac anfon neges fach ato. No wei. Dim gobaith.

Serch hynny, meddyliodd Elgan am fantras ei therapydd. Roedd honno’n dweud a dweud wrtho ei bod yn hen bryd iddo wynebu ei orffennol. Wfftio’r cyngor call roedd e wedi ei wneud. Roedd e wedi sylwi mai neges debyg oedd gan bob un o’r cryno ddisgiau self-help hynny oedd yn llenwi’i sillf lyfrau – confront and move forward. Roedd pob rhod yn troi, a karma’n beth peryg. Roedd hyd yn oed Iesu Grist (pwy bynnag oedd hwnnw yn y byd mawr, modern oedd ohoni) yn pregethu am faddeuant. Roedd hi’n ddigon posib bod Bili wedi maddau iddo.   Roedd hwnnw yn rhywle yn byw ei fywyd, heb arlliw o ots ble’r oedd Elgan Tomos. Roedd Elgan, ar y llaw arall, wedi mynnu aros yn ei unfan, a chuddio rhag y byd a gadael i’r euogrwydd ei feddiannu fel llwydni ar dorth o fara.

Efallai, meddyliodd, ei bod hi yn bryd ymddiheuro.

Doedd Elgan erioed wedi dweud ‘sori’ am yr hyn a wnaeth. Dim ond gadael i’w fam addo ar ei ran na fyddai’r ffasiwn beth yn digwydd eto. Nid fu ganddo sbectol i’w torri wedi hynny, ta beth. Efallai, jyst efallai, ei bod hi’n hen bryd iddo ymddiheuro? Edrychodd o’i gwmpas, a sylweddoli ei fod wedi teimlo fel carcharor rhwng pedair wal ei ystafell wely.

Yn hytrach na dychwelyd i’r Eisteddfod Seibr, diffoddodd Elgan y cyfrifiadur. Roedd yna ambell i beth yr oedd yn well eu gwneud go iawn a’u dweud ar lafar. Torri newydd drwg. Gofyn i ferch fynd ar ddêt. Ymddiheuro. Cododd Elgan o’i sedd. Tynnodd ei bants, a’u newid am bâr glân. Er nad oedd wedi ymolchi, roedd diosg yr hen rai chwyslyd yn rhywfaint o ryddhad. Gwisgodd drowser a chrys, gan deimlo’r defnydd yn gysur am ei groen. Gwthiodd ei draed i mewn i’w dreiners, a’r rheiny’n rhy fach iddo erbyn hyn ac yn pinsio ewinedd ei fodiau yr oedd hefyd wedi’u hesgeuluso ers sbel, a chamodd yn ofalus tuag at ddrws yr ystafell. Fe’i hagorodd, a gadael i olau llachar y cyntedd lifo i mewn a lliwio’r ystafell.

 

Dyma stori a ddaeth yn drydydd yng nghystadleuaeth y Goron, Eisteddfod yr Urdd 2014. Cyhoeddwyd hon hefyd ar wefan Y Neuadd.

Advertisements

Gadewch neges / Leave a message

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Change )

Connecting to %s