Sgriblo : Swrrealaeth a chwilio am syniadau…

Yn dilyn cyfnod gymharol anghynhyrchiol o safbwynt fy ‘sgrifennu, cefais ysbrydoliaeth o fan digon random yn ddiweddar. Mewn seminar yr wythnos ddiwethaf, cyflwynodd Mary Jacob, myfyrwraig PhD yn yr Adran Saesneg ym Mhrifysgol Aberystwyth cipolwg i fyd y bardd swrrealaidd.

Dyma fudiad celfyddydol sy’n ymateb i deimladau wrth reddf, a ddisgrifwyd gan o’i sylfaenwyr, Andre Breton, fel “pure psychic automatism”. Yn ogystal â chyflwyno gweithiau ‘Altered Pages’ Carrie Arizona, aeth Mary ati i gyfuno gweithiau adnabyddus megis ‘What is an author?’ Foucault a Hamlet i greu ei cherdd ei hun.

Nid wyf yn ymwybodol os oes yna’r fath beth â cherddi swrreal i gael yn y Gymraeg. Rwy’n cofio darllen erthygl gan Meic Stephens am gerddi yn ymwneud â siapau yn Taliesin rhyw dro, ond ni allaf feddwl am ddim byd arall. Yr unig beth cyffelyb a ddaeth i’m meddwl oedd cerddi nonsens Twm Morys, ond dwi’n amau mae drwy hapchwarae a dewis geiriau mewn llyfrau y mae hwnnw’n creu ei englynion a chywyddau.

Felly benderfynais roi cynnig arni.

Cydiais yn y llyfr agosaf – sef digwydd bod, Ffydd, Gobaith, Cariad gan Llwyd Owen – a defnyddio techneg wnaeth Mary ei hun gyflwyno, sef torri tyllau mewn papur a chwarae gyda’r geiriau y byddai’n ymddangos drwy’r tyllau ar ôl iddi ei roi ar ddalen.

Roedd fy ‘ngherdd’ gyntaf yn cynnwys y gair Bacardi Breezers. Typical.

image

Gwisgo’i ddillad gwaith
er mwyn
yn hytrach
i Ffloyd
o’r gloch
Bacardi Breezers
neu troi fyny
yn llygredd yn ôl i’r…

Hmm.

Mynnodd Mary Jacob nad chwilio am ystyr oedd y peth pwysicaf wrth lunio cerddi o’r fath, ond chwilio am ‘sparc’ a dilyn greddf anymwybodol. A doedd fy ngreddf ddim yn impressed iawn gyda hon.

Beth am drio eto?

O Dawns Angau, cyfrol o straeon byrion gan Roy Lewis y daeth fy ngherddi nesaf. Dyma glawr a broliant y llyfr – heb os, y clawr a’r broliant gorau rwyf erioed wedi eu gweld.

image
image

Tybed pam y feddyliais byddai’r gyfrol hon yn ddewis da ar gyfer chwilio am gerddi swrreal…?

Ta beth, dyma fy ymgais nesaf.

image

Do’dd dim
digon o reswm,
wedi aros yn rhy hir
[i d]deall.

Dianc,
[a] dweud bod ysbryd.
Does dim posib.

Fuost ti
[o] flaen y tân, yn gwrando
[a] chlywed y sŵn?

Wedi altro ambell beth, teimlaf fod gyda fi benillion sy’n gwneud rhyw fath o synnwyr barddonol bellach.

Wrth gwrs, roedd Mary’n cyfuno testunau, felly sgriblais eiriau amrywiol wedi eu casglu o Dawns Angau, Monica gan Saunders Lewis, ‘Ar Lwybrau Amser’ o gyfrol o ysgrifau Cyn Oeri’r Gwaed Islwyn Ffowc Elis a Bob yn y Ddinas gan Sion Eirian.

Dyma fersiynau cyntaf Dawns Angau a Bob yn y Ddinas.

image
image

A dyma phob un o’r testunau wedi eu cyfuno.

image

A dyma fi’n dewis a dethol rhannau ohoni. (Gan gafflo rhyw fymryn!)

image

Aros eiliad,
Mi fydda i’n galw
o’r tywyllwch
[yn] chwerthin fel
torf anweledig.

Cana
yn y cypyrddau
am eiliad,
[cyn yr] awr i ladd y llygod mawr
sy’n nythu [yno].

Ac yn yr ysblander
sibrydodd wrtho dan gysgod y creigiau,
[ac] ysgwyd ei ben
ar ôl y ferch.

Cofio? Mi ddiflannodd
yr hanes yn y papur.

Na, nid wyf yn mynd i gipio’r Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol gyda’r rhain, nac yn mynd i ddatgelu gwirioneddau mawrion, o bell ffordd. Fodd bynnag, mae ‘na ambell beth o’r ‘cerddi’ hyn sydd wedi cydio – ysbrydion amhosib a’r ferch sy’n bodoli yn newiddion ddoe yn unig – a heb os, chwilio am ysbrydoliaeth yn y modd yma fyddaf yn ei wneud tro nesaf fyddai’n dioddef o writers block!

Dyma flog Mary Jacob: https://msjacob.wordpress.com

Advertisements

Gadewch neges / Leave a message

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Change )

Connecting to %s