Cerdd: ‘Hen Falchder’

Hen Falchder

Pride only hurts. It never helps. – Marsellus Wallace, Pulp Fiction.  

Gwisg y gris-groes

goch, glas a gwyn

yn glogyn am dy ‘sgwyddau

wrth i ti adael,

a throi dy gefn

ar y ddraig fach,

heb gyfle bellach

i ffynnu ar y glaswellt gwyrdd

dan wyliadwraeth

y sêr.

Advertisements