Mae’r adeg hon o’r flwyddyn yn un brysur am gynadleddau bob tro, a chefais wythnos brysur yr wythnos ddiwethaf.
Cynhadledd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Fy nghynhadledd cyntaf oedd cynhadledd flynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Fel un sydd wedi bod yn ffodus i dderbyn fy ysgoloriaeth ymchwil oddi wrth y Coleg Cymraeg, rwyf wrth fy modd bod pob un o ddeilliaid yr ysgoloriaethau yn gallu dod at ei gilydd bob blwyddyn.
Eleni, cawsom sesiynau dysgu ac addysgu effeithiol gyda Kelly Young ar y dydd Iau, ac heb os fydd y tips a ddysgais o fudd mawr i mi wrth fynd ati i baratoi darlithoedd a seminarau. Ar ddydd Gwener y gynhadledd, cawsom wledd o bapurau amrywiol, gan ddysgu mwy am bynciau difyr drwy gyfrwng y Gymraeg.
Ynghyd a hynny, mae’r gynhadledd yn cael ei chynnal yn Neuadd Gregynog, golygfa godidog (er, mae rhai o’r ystafelloedd gwely yn… retro…)
Cynhadledd Current Research in Speculative Fiction
Dechrau’r wythnos ddiwethaf mi fynychais fy ail gynhadledd, sef cynhadledd myfyrwyr ôl-raddedig, Current Research in Speculative Fiction, yn Lerpwl. Nid oeddwn yn ymwybodol tan eleni am fodolaeth y gynhadledd hon, nac yn gwybod am gynhadledd Speculative Fiction Research Assosiation (SFRA), sy’n cael ei chynnal wedi’r CRSF. Yn anffodus, dim ond ar wibdaith diwrnod yr oeddwn yn gallu bod yn Lerpwl, ond cefais flas aruthrol ar wrando ar sesiynau’r amryw o gyfrannwyr yn ystod y diwrnod, a gobeithio caf gyfle i fynychu’r gynhadledd gyfan y flwyddyn nesaf. Roeddwn yn genfigennus ofnadwy fy mod wedi gadael wrth ddilyn ffrwd Twitter #SFRA2016.
Mae mynychu’r gynhadledd wedi fy nghyflwyno at wybodaeth am fwy o gynadleddau tebyg – ac rwyf wrth fy modd yn cyflwyno’r syniad o ffuglen wyddonol drwy gyfrwng y Gymraeg, i ambell un oedd yn synnu fod yna’r fath beth a ‘native Welsh speaker’ yn bod!
Ac wrth gwrs, manteisiais ar y cyfle tra ‘mod i’n Lerpwl i alw heibio’r hen Cavarn Club, un o’r llefydd cyntaf i The Beatles berfformio slawer dydd.
…a mentro i ambell i siop tra ‘mod i yno!
Dwi wedi mwynhau cynadledda’n ddiweddar… ond mae’n hen bryd i mi ddychwelyd at y gwaith caled a bwrw ati gyda’r ymchwilio.
Rwyf ar banel yn trafod ffuglen wyddonol a dyfodolaeth yng Ngŵyl Arall, Caernarfon yr wythnos nesaf – bydd mwy o flogbyst ar y ffordd. 🙂