Ysgrif: Barddoniaeth, beirniadaeth… a fi.

Yn sgil nifer o drafodaethau diweddar ynglyn â diffyg merched mewn barddoniaeth Gymraeg – gan gynnwys Podlediad diwethaf Clera, blog Osian Rhys Jones a chlywed Elan Grug Muse yn trafod ei herthygl ddiweddar yn y cylchgrawn Poetry Wales – daeth yn amlwg fod diffyg amrywiaeth yn gyffredinol yn broblem.

I ryw raddau, dwi’n mynd i ddechrau drwy mynd yn groes-graen i’r hyn mae nifer yn ei ddweud, ond: Dydw i ddim yn teimlo fy mod yn methu ymuno yn y cylch am fy mod i’n ferch.

Er mai adar prin yw’r beirdd benywaidd ar faes llafur cyrsiau Cymraeg, mae nifer o ffactorau eraill, ac eithrio fy rhyw, yn fy rhwystro wrth fwrw ati i ‘sgrifennu. Un o’r prif bethau sydd wedi peri problem yw fy lleoliad daearyddol a’m magwraeth. Ni chefais fy magu mewn teulu o lenorion, na chwaith canfod fy hun mewn criw o ffrindiau llenyddol eu hanian yn yr ysgol. Ni chefais fy annog gan athro/athrawes i fwrw ati – ni ddigwyddodd hynny tan fy mod yn y brifysgol. Roeddwn yn byw mewn rhyw fath o no man’s land heb gyfleoedd i fwrw ati na chwaith unrhyw arweiniaid. Teimlaf dwtsh ar ei hôl hi weithiau, a gweld bod sîn lenyddol iach yn ffynnu yn y Gogledd. Ac ar adegau, rwy’n amau bod fy iaith ddeheuol yn peri problem wrth ysgrifennu straeon neu gerddi, nad ydyw mor lân, mor dderbyniol â’r iaith ogleddol. Dwi’n dueddol o fod yn Hwntw unig mewn gang o ogleddwyr wrth fynychu cyrsiau llenyddol – dwi’m yn gwybod os mai lleoliad gogleddol Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd sydd wedi bod wrth wraidd hyn. Cyd-ddigwyddiad nad oes ‘na Sgwadiau ‘Sgrifennu yn fy ardal i nac yn y De? Wrth edrych ar gyfres Tonfedd Newydd Barddas, gogleddwyr gwrywaidd yw pob un o’r beirdd a chyhoeddwyd yn ddiweddar. Mae croeso i chi fy nwrdio am fod yn gwbwl paranoid am hyn, ond ni allaf wadu’r teimlad hwnnw sydd wedi gafael ynof ers gryn dipyn bellach.

Un rhwystr arall, mae’n rhaid i mi gydnabod yn ddiweddar, yw’r elfen gystadleuol.

Mae’n rhaid i mi bwysleisio nad yw’r llith hwn yn mynd i fod yn academaidd-wrthrychol ac mi fyddaf ar adegau yn ymddangos yn chwerw a thwtsh yn styfnig. Mi rwyf yn teimlo‘n chwerw am y peth ac rydw i’n berson eithriadol o styfnig fy natur hefyd. Rwyf wedi derbyn amryw feirniadaethau ar fy ngwaith – sydd wedi bod ar adegau yn bur fuddiol ac yn rhywbeth na chewch chi mohono mewn cystadlaethau ysgrifennu Saesneg – ac mae nifer o bethau wedi codi ar hyd y blynyddoedd. Ydw, dwi dwtsh yn groen-denau, ond rwyf wedi rhygnu ‘mlaen i gystadlu mewn Eisteddfodau yn y gobaith y byddaf yn cael mwy o gyfleuoedd yn sgil hynny.

Er mai rhyddiaith a dramâu yw fy nghyfrwng fel arfer, lluniais gasgliad bychan o farddoniaeth, ac wedi pheth twtio ar y cerddi fe’u hanfonwyd at feirniaid Cystadleuaeth y Gadair yn Eisteddfod yr Urdd 2016. Fe’m hysgogwyd yn benodol gan bwl o iselder ysbryd wedi marwolaeth fy nhad-cu, gan hefyd chwarae gyda’r syniad bod technoleg fodern wedi effeithio arnaf. Er y byddai ennill wedi bod yn beth braf, nid oeddwn yn disgwyl cipio’r gadair – nid bardd, mewn gwirionedd, mohonof. Cyfle i dderbyn beirniadaeth oedd y nod, er mwyn gweld os oedd yna botensial yno i mi ddatblygu fy ngherddi.

Fodd bynnag, pwysleisiwyd gan feirniaid y gystadleuaeth: ‘Cystadleuaeth braidd yn siomedig oedd hon, o ran nifer – dim ond saith gwaith ddaeth i law – ac o ran safon.’ Ouch. Cystadleuaeth siomedig O RAN SAFON. Mae hynny, afraid dweud, yn fy llenwi â anobaith o’r cychwyn cyntaf. Pwysleisiaf cyn trafod ymhellach, nad ydw i’n adnabod Hywel Griffiths na Gwenallt Llwyd Ifan, y ddau feirniad, yn bersonol. Dydw i erioed, hyd yn oed, wedi darllen cerdd o eiddo Gwenallt Llwyd Ifan o’r blaen – sori! Nid ymosodiad personol yw hyn O GWBWL. Mae eu beirniadaeth yn dilyn templed dwi wedi ei weld dro ar ôl tro gan sawl beirniad.

Felly, o dan y ffugenw ‘Rhydd Ieithwr’ dyma’r feirniadaeth:

beirniadaeth

  • Waeth i mi ddechrau gyda’r compliment: ‘Cafwyd peth o’r canu mwyaf gwreiddiol gan Rhydd Ieithwr.’  Diolch i’r beirniaid hyn a’r beirniaid sydd wedi sylwi fy mod yn ceisio ‘ngorau glas i ysgrifennu o safbwynt newydd a ffres, ac yn arbrofi gyda ffurfiau a ffordd o fynegi.
    Fodd bynnag, er fy mod i’n wreiddiol, pynciau a amlygwyd gan Osian Rhys Jones a ddaeth i’r brig. Pwysleisiaf nad wyf wedi darllen yr un o’r cerddi buddugol, ond mae’r hyn a ddywed yn y feirniadaeth yn disgrifio themâu digon cyffredin. Cwestiynu ffydd. Cymreictod a chenedlaetholdeb. Bwrodd Gethin Wynn Davies ati i gynganeddu. Fel petai’n rhyw fath o ‘unspoken rule’, bod unrhyw un sy’n trio cynganeddu yn cael clod o drio llunio cerdd i fformiwla eithriadol o anodd regardless o bwnc y canu.
  • Fodd bynnag, ‘weithiau, mae safon y gramadeg yn llithro.‘ Wps. Rwy’n fwy na pharod i gyfaddef nad yw fy ngramadeg yn raenus iawn. Dyma eto sylw yr wyf wedi ei dderbyn gan sawl beirniad arall. Dyw ochr creadigol fy mrain ddim yn ufuddhau i reolau a threfn ac rwy’n olygydd OFNADWY ar fy ngwaith fy hun.
    Ond… os ydych yn mynnu dweud bod y ramadeg yn wan, wedyn, er mwyn dyn, cynigwch reol benodol i mi gael gwella. Dwi’n derbyn bod yna safonau. Ond pa mor wael yw fy ngramadeg mewn gwirionedd? Cefais row gan diwtor ar gwrs ‘sgrifennu unwaith am fod yn ddihyder am fy iaith, a’r hyn a ddywedodd oedd fy mod yn treiglo’n gywir yn amlach nag yr wyf i’n treiglo’n anghywir, a meddyliaf fod hynny’n wir. Pa obaith sydd i rywun nad ydynt wedi dilyn cwrs Gloywi Iaith i fagu’r hyder i gystadlu mewn ‘Steddfod gyda beirniaid yn ddigon parod i ladd ar eich iaith chi? Onid cynnwys y darn sy’n bwysig? Ar adegau, nid yw’n teimlo felly.
    Un beirniadaeth yn unig sydd wedi dyfynnu’r union gamgymeriadau a welwyd yn fy ngwaith. Er fy mod, y tro cyntaf i mi ddarllen y feirniadaeth honno, wedi teimlo fel petawn eisiau i’r ddaear fy llyncu’n un, roeddwn yn y pendraw yn ddiolchgar. Dychwelais at y gwaith a gweld o’r newydd y gwallau… ac mae hynny’n arwain at broblem arall.
  • Gan ddilyn ‘sgwarnog am ennyd, beth yw’r rheolau ynglyn â gofyn i rywun olygu’ch gwaith cyn ei anfon at gystadleuaeth? A ddylai fod rheol am hynny? Canwch y fiolin yn arbennig i fi, achos nid oes gennyf neb i ddarllen fy ngwaith ar fy rhan. Cofiwch nad ydw i’n dod o deulu o lenorion. Dwi wedi clywed am rywun yn gofyn i nofelydd profiadol i ddarllen ei waith… wel, ydy hynny’n deg petai fy ngwaith i, gyda fy nghamgymeriadau pechadurus, yn yr un gystadleuaeth?
    A allaf gyflogi rhywun i olygu fy ngwaith? Oes yna reol yn erbyn hynny? Ai fy ngwaith i yw e os ydw i’n gofyn i rywun arall ei gywiro? Oes wiw i mi hyd yn oed drio llenydda os ydy’n iaith i mor crap a hynny? Onid yw hynny’n llesteirio nifer o bobol heb raddau yn y Gymraeg i farddoni neu lenydda, am nad ydynt yn hyderus yn eu Cymraeg? Eglurdeb ar y mater hwn, os gwelwch yn dda!
  • Dwi’n defnyddio’r Saesneg. ‘Gan fod y gerdd ‘No Comment’ bron i gyd yn Saesneg, nid yw’n talu am ei lle nac yn ychwanegu at y cyfanwaith mewn unrhyw fodd.’ Oh my god. I am an awful human being using a few choice words of that English language. Shoot me. I listened to Green Day and Blink-182 as a teenager. I read Catcher in the Rye and loved it and didn’t feel that any Welsh book truly related to me and many of my friends. I don’t know the Welsh word for various things, er mai’r Gymraeg yw fy iaith gyntaf. Ar sawl achlysur, rwyf wedi ystyried newid y Saesneg i’r Gymraeg. Rwy’n fodlon cydnabod mai ‘No Comment’ yw’r gwanaf o’r gyfres sydd gennyf, ond yr unig rheswm fe’i henwyd gan y beirniaid yw am fod ‘na Saesneg ynddi. Roedd y Saesneg yn cynrychioli geiriau eraill ar y we. A dwi’n gwrthod italeiddio’r geiriau Saesneg. Dwi’n ddwyieithog. Mae yna reswm pam dwi wedi defnyddio’r ambell air o Saesneg – weithiau mae’n bwrpasol, ond dro arall mae’n rhywbeth sydd jyst yn naturiol i fi.
  • Defnyddia iaith gyfoes, sydd ar adegau’n goch.’ O good god dwi wedi rhegi. Ff***n h*l. Maent yn gerddi am rwystredigaeth bersonol. Ceisiwch fy argyhoeddi o ddifri’ nad yw’r blaenor capel mwya’ parchus yn y byd yn gwaeddu “SHIT” nerth ei ben pan fydd yn bwrw bys bach ei droed ar erchwyn y gwely. Seriously. Go on. Oedd angen cyfeirio at y ffaith ‘mod i’n rhegi? Onid oedd y pedwar gair hynny’n HOLLOL ddiangen?

Nawr, dyna ddiwedd ar hynny, ond ni ganmolwyd yr un gerdd yn unigol. Ni nodwyd os oedd ‘[Cam]erau’ na ‘Ni Chyfieithwyd y Dudalen Hon’ werth yr hyn o amser a dreuliais yn eu hysgrifennu. Teimlaf na dderbyniais yr un gair o glod na chwaith beirniadaeth am gynnwys fy ngherddi. Rhestrwyd ffeithiau am fy nghasgliad. Pethau roeddwn yn gwybod yn barod. Doedd fy ngwaith yn amlwg ddim yn hollol rybish, ond nid oedd ymysg y goreuon chwaith. (Cofiwch nad oedd safon y gystadleuaeth yn gyffredinol yn dda iawn, er mawr cywilydd i’r saith cystadleuydd.) Dwi’n ymwybodol nad oes canllawiau i feirniaid a’u bod yn gyfyng iawn o le i ddweud pob dim. Fodd bynnag, ni chynnigwyd beirniadaeth ehangach ar-lein ar gyfer y gystadleuaeth hon ychwaith. A dydw i ddim am fynd lan at feirniad a mynd “Yo, dyma fi, be ti’n meddwl o ‘ngherddi i go iawn?” Ond mae’r hyn a godwyd yn y feirniadaeth yn mynd i amlygu lot o bethau sy’n berthnasol wrth gwestiynu pam nad oes yna amrywiaeth ar y sîn farddonol yn y Gymraeg.

Mae’r elfen gystadleuol yn peri problem a’r modd y mae’r rhan fwyaf o feirniaid, heb ganllawiau ac yn dilyn esiamplau beirniaid gwrywaidd a chonfensiynol (gan amlaf) y gorffennol, yn atal lleisiau newydd, ffres ac amgen rhag fagu hyder i gystadlu.

Yn bersonol, rwyf wedi rhoi’r gorau i gystadlu’n frwd. Nid wyf erioed wedi ennill – a falle bod twtsh o sour grapes yn perthyn i’r penderfyniad – ond mae prinder amser a iechyd meddwl digon bregus ar adegau wedi gwneud i mi addo i beidio â gorfodi fy hun i gystadlu’n flynyddol. Dydw i ddim yn gallu cynhyrchu straeon rhif y gwlith na chwaith cerddi o hyd ac o hyd. Mi rydw i wedi blino gorfod gwneud. Blino’n lân ar geisio ‘sgrifennu stori ar ôl stori a chyfansoddi cerddi ar alw – yn y Gymraeg ac yn Saesneg – jyst er mwyn cystadlu a ‘chael fy enw allan yna’. Teimlaf yn y flwyddyn ddiwethaf fy mod wedi ysgrifennu straeon ddigon ddisylwedd jyst er mwyn gallu cystadlu, rhag ofn i mi golli cyfle. Mae gennyf barch aruthrol at y rhai sy’n gallu ysgrifennu stori fer dda, fachog mewn diwrnod neu ddau a gwneud hynny mewn iaith naturiol a safonol. Ond dydw i ddim yn un o’r bobol hynny. Nid ydw i’n dweud nad oes gennyf fwriad cystadlu fyth eto, ond nid wyf yn mynd i frysio i wneud hynny. Mi wnaf hynny pan fydd gyda fi stori gwerth ei hadrodd neu gerdd sy’n werth ei chanu.

Credaf fod wir angen i ni beidio ag ystyried cystadlu Eisteddfodol a thalyrna ac ymrysona yn be all and end all y profiad barddonol yn y Gymraeg. Dydw i ddim yn gallu gweld fawr o groeso i fy ngherddi ddwyieithog a choch (rhegfeydd, cofiwch, rhegfeydd!) ar lwyfan y Babell Lên gan gynulleidfa wyn-walltog yr Ymryson… Felly beth yn y byd a wnaf i? Mae yna enghreifftiau prin o feirdd felly. Un o’r beirdd cyntaf i gydio yn fy nychymyg oedd Gwyneth Lewis, ac er ei bod yn fardd coronog erbyn hyn, dim ond wedi gyrfa brysur a llewyrchus (ei geiriau hi sydd ar GANOLFAN Y MILENIWM, bobol!) enillodd ei choron. A fu Menna Elfyn yn dalwrnwraig? Mae’r llenorion dwi’n eu hedmygu – Manon Steffan Ros (er wedi ennill y Fedal Ddrama) a Caryl Lewis – yn awduron sydd wedi cyhoeddi eu rhyddiaith ar ei liwt eu hunain, heb gymorth yr un gystadleuaeth Eisteddfodol, hyd y gwn i.

A beth am feirdd dosbarth gweithiol? Beirdd gwledig? Beirdd y cymoedd diwydiannol? Ai drwy’r Eisteddfod mae eu hannog hwythau i fwrw ati i dynnu llun geiriol o’u profiad Cymreig? Mae ‘na bobol yng Nghymru sydd erioed wedi tywyllu ‘Steddfod – fy nhad, diolch i Dduw amdano, yn un ohonynt. Onid yw eu llais nhw, yn treiddio drwy gyfryngau eraill, yr un mor bwysig? A fyddai gan yr un ohonynt awydd cystadlu drwy’r Eisteddfod gyda beirniadaethau fel yr un uchod yn gic go galed i’w hyder?

Y broblem felly, yw cynnig llwyfan amgen ir bardd hwnnw, neu honno. I feirdd a llenorion sy’n aml yn cael cryn dipyn o hwyl yn pechu eraill. Y rhai sy’n ansicr eu hiaith ac yn defnyddio geiriau Saesneg, Sbaeneg, Ffrangeg, Klingon yn eu gwaith. Rwy’n galw am weld cyfres tebyg i Gyfres y Beirdd Answyddogol eto. Yn galw am gylchgrawn, neu e-gylchgrawn neu flog sy’n tynnu’n groes i barchusrwydd Barddas. Rwy’n galw ar bobol i weld bod mwy i’r sîn lenyddol Gymraeg nag ennill tlysau a dodrefn. (Â Chymry’n gyffredinol yn honni eu bod yn weriniaethwyr, onid yw’r weithred frenhinol o goroni neu rhoi gorsedd i fardd yn rhyfedd, yn rhagrithiol braidd?) Yr hyn syn bwysig yw gweithion galed a pharchu neges pob un Cymro a Chymraes, beth bynnag fo safon ei iaith neu ei hiaith, ei wybodaeth neu ei gwybodaeth or Tradoddiad T Fawr, gan aros yn driw i weledigaeth bersonol.

Cewch, a chroeso, ymateb i’r ‘rant’ hwn. Anghytunwch. Fy marn bersonol i yw hwn, ac ni allaf anwybyddu’r hyn dwi wedi bod yn ei deimlo wrth edrych ac astudio llenyddiaeth Gymraeg y ganrif ddiwethaf. Dechreuwch drafodaeth arall. Gwnewch rhywbeth am y peth. Ond os oes ‘na wallau gramadegol yn y rant hwn, cynigwch reol i mi gael dysgu o’r camgymeriad hwnnw, er mwyn y nefoedd.

 

Advertisements

4 thoughts on “Ysgrif: Barddoniaeth, beirniadaeth… a fi.

  1. Dwi’n cytuno’n llwyr bod yna ddiffyg amrywiaeth ar y sin farddonol Gymraeg a dwi’m yn gweld dim byd yn bod ar regi mewn cerdd – dani’n byw yn yr 21fed ganrif a dylsa bardd gael yr hawl i adlewyrchu hynny yn ei waith, yn enwedig os ydi defnyddio rhegfeydd yn cryfhau’r gwaith. Dwi hefyd yn meddwl dylsa beirniaid roi llawer mwy o sylwadau a chyngor i feirdd – dyma’r unig ffordd i wella ac i weld be doedd y beiriniad ddim yn hoffi am eu gwaith – ond dwi’n meddwl bod o’n bwysig cofio a nodi na barn y beirniad penodol yna fydd y bardd yn gael a dim barn pob beirniad, er engharifft beirniad mewn cystadleuaeth arall neu beirniad yr Eisteddfod y flwyddyn ynghynt neu’r flwyddyn ganlynol. Mae ennill neu gwneud yn wael yn dibynnu ar be mae’r beirniad yna yn hoffi – os dydi hi/fo ddim yn hoffi gwaith y cystadlwr dydi o ddim yn golygu ei fod o ddim yn dda – yn fy marn i does yna ddim cywir nag anghywir wrth farddoni, jest barn a tâst pobl gwahanol. Mi wnes i a fy ffrind ysgrifennu cerdd yr un unwaith a cystadlu gyda’r cerddi yna mewn dwy gystadleuaeth – gesi gyntaf a gath o drydydd mewn un cystadleuaeth, ac yna, gyda’r un cerddi, yn y gystadleuaeth arall gath o gyntaf a gesi ail. Ro’n i’n flin achos yn y gystadleuaeth yma roedd yr ennillydd yn cael cadair, ac os buasai’r beirniaid wedi bod yn wahanol, efallai fi buasa wedi ennill y gadair. Mae hyn yn dangos bod gan y beirniaid y pwer i wneud be ma’ nhw ‘isio, a hyd yn oed os na’u barn nhw sy’n cyfri ar ddiwedd y dydd, dydi o ddim yn golygu bod cerdd y collwr yn un wael, achos efallai buasa rhywun arall yn meddwl ei bod hi’n ffantastig. Ynglyn a’ch barn ar goroni a rhoi gorsedd i fardd – ydi, mae’n edrych yn ‘elitist’ ac yn frenhinol, ond dwi’n meddwl ei bod hi’n bwysig cadw’r traddodiad jest oherwydd mai traddodiad ydi o – mae’r Eisteddfod Genedlaethol a’r weithred o goroni neu gadeirio unigolyn yn bwysig i hanes a diwylliant Cymru ac yn ein gwenud ni yn wahanol i bob gwlad arall yn y byd, a felly am y rhesymau hynny, buaswn i ddim ‘isio i neb gael gwared o’r digwyddiad. Diolch am eich erthygl – diddorol iawn ac yn gwneud i fi ‘isio bwrw ati i sgwennu cerdd neu stori fer gan fy mod i heb wneud ers dipyn o flynyddoedd.

    Like

    1. Diolch am dy sylw Mared!
      Ti’n spot on ynglyn â’r ffaith fod blas beirniaid unigol yn wahanol – dwi hefyd wedi clywed am sawl un yn anfon yr un gwaith at gystadleuthau ac yn ennill yng ngolwg un beirniaid ac yn y dosbarth gwaelod yn ôl barn un arall! Dwi wedi pigo ar ddau feirniad yma, ond allan o tua pymtheg o feirniaid sydd wedi darllen fy ngwaith – rhyddiaith a barddoniaeth – mae 12, os nad mwy ohonynt, wedi adleisio yn union yr un sylwadau am 1.) y ramadeg (dydw i ddim yn awgrymu naw wfft i safonau gramadegol, ond y dylid tynnu’r pwysau oddi ar y llenor gan ein bod yn cyflogi golygyddion, wedi’r cwbwl!) a 2.) y defnydd o’r Saesneg. I mi, pa mor bwysig yw hynny? Gydag ambell un, cofia, dwi wedi ennyn tips da ynglyn â strwythuro ‘ngwaith a chael cadarnhad fy mod yn gallu gwneud ambell beth yn dda, sydd wedi bod yn grêt hefyd.
      Dydw i ddim am eiliad eisiau cael gwared o’r seremoniau cadeirio a choroni – jyst eisiau pwysleisio bod yna ffyrdd arall, nad dyna’r elfen bwysicach.
      Diolch eto am dy ymateb, a cher amdani!

      Liked by 1 person

  2. Nodyn byr yn unig i ddweud gymaint i mi werthfawrogi eich angerdd, eich rhwystredigaeth a’ch sylwadau treiddgar a chytunaf a’ch awydd i ysgwyd pethau. A gwnewch da chi. Mae’r gofod yn rhy fyr i ddweud llawer mwy yma ond mae angen chwistrelliad go iawn yn gyson ar farddoniaeth Gymraeg ac ewch ati– i chwyldroi — y sefyllfa.

    A na fum i erioed yn dalwrnwraig!

    Mae’r syniad o feuryn — dyn fel arfer yn rhoi marciau yn wrthun i mi fel ag yw cystadleuaeth — rhywbeth y cytunais gyda’r ffeminyddion cynnar yn America a rhai fel Adrienne Rich a wnaeth rhannu ei gwobr gyda dwy fardd benywaidd arall pan gafodd yr anrhydedd. Ond oes wahanol yw hi nawr ontife!

    A minne wedi ildio i feirniadu hyd yn oed! Fel yr Athro Barddoniaeth Benywaidd cyntaf yng Nghymru. Athro — mae hyd yn oed hynny yn fy nharo yn rhyfedd! Ond byw gyda chroesdyniadau a wnawn yn barhaus ontife!

    daliwch ati…

    Like

Gadewch neges / Leave a message

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Change )

Connecting to %s