Llên Meicro: Desg a Pâr (O Sanau)

Dyma ddetholiad o lên meicro, oll wedi eu hysbrydoli gan y thema ‘gwawrio’ yr ysgrifennais yn ddiweddar – mae’r gweddill wedi eu cyhoeddi yn nhrydedd rhifyn Y Stamp.

 

Desg

Rhyfel, a’r gelyn oedd celficyn pwysica’r tŷ. Hwnnw tan warchae llyfrau a phapurach a phensiliau a chlipiau papur a lluniau a ffotograffau a bitsach a bobsach a phob math o bethau. Y fountain pen posh wedi gorwedd yn gelain ymysg y cwbwl ers wythnosau.

Gyda dyfodiad bil letrig mewn amlen goch, nid oedd gan Lewys ddewis ond brwydro yn erbyn yr annibendod.

 

Pâr (O Sanau)

Bu adeg pan oedd pigo’i sanau bryntion o’r llawr yn bleser pur. Tystiolaeth ei fod yn gartrefol. Wedi setlo’n hapus gyda hithau. Ond bellach roeddent wedi tyfu’n ail garped ar lawr – socs nefi, du a llwyd pob un – gydag ambell bâr o bants yn tyfu’n chwyn yn eu plith.

Gwisgodd dau o’i sanau hithau – un binc â spots ac un arall las â streips – a mynd ati’r frwd i fwynhau sathru ar bob un o’i ffycin sanau bland, boring.

 


Here are some of my recent Welsh-language flash fiction works – each one inspired by the theme of ‘sunrise’. A few more will be published in the next issue of Y Stamp in the near future!

Advertisements

Gadewch neges / Leave a message

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s