Trafod Lleisiau Merched ar Heno

Cefais wahoddiad yn fy ôl i Lanelli, i stiwdio Tinopolis nos Fawrth (6/2/18) i gyfrannu at drafodaeth am brofiadau merched heddiw a thrafod pa mor bwysig yw hi leisio barn, a hynny wrth i ni ddathlu can mlynedd ers i rai merched (merched dros eu 30au yn unig, bryd hynny) dderbyn yr hawl i bleidleisio.

heno2
Sgwrsio gyda Mari Grug ar y raglen – gan wisgo bathodyn Y Stamp gyda balchder!

Ymunais gyda Siân James, a fu’n Aelod Seneddol ac yn ymgyrchwraig nodedig yn ystod Streic y Glowyr, a Megan Mead o Ysgol Plasmawr sy’n rhan o grwpiau Femme a Digon yr ysgol, i drafod bywydau merched heddiw. Cefais gyfle i sôn eto am Cywion Cranogwen a’r angen, hyd yn oed heddiw, i roi llwyfan arbennig i leisiau merched mewn cyd-destun barddonol a chreu platfformau a chyfleon newydd.

Tu ôl i’r camera, rhywbeth sticith gyda fi am byth oedd clywed Sian James yn rhannu siarsiad glywodd blynyddoedd yn ôl, sef rhywun yn cynnig y gair o gyngor canlynol i’w hwyres: ‘Be as chopsy as you like!’ Dwi’n hoff iawn, iawn o’r cyngor yna!

Diolch i’r criw yn Tinopolis am groeso cynnes unwaith eto, ac yn edrych ymlaen at fod yn ôl ar y soffa felen yn y dyfodol.


I was invited back to the Tinopolis studio to join former MP Sian James and student Megan Mead to discuss our lives and the #Vote100 celebrations. I discussed the importance of seeing girls recite and read poetry in a Welsh-language context. No, there aren’t any official ‘No Girls Allowed’ rules anywhere, but visually, men dominate the stage. 

And I left the studio with a new life motto, one heard by Sian James at a discussion panel with one contributor offering this fantastic pearl of wisdom to her granddaughter and quoted to both me and Megan: ‘Be as chopsy as you like!’ 

I don’t need to be told twice!

A big thanks to everyone at Tinopolis for the warm welcome – I can’t wait to visit again in the future. 

 

Advertisements

Gadewch neges / Leave a message

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

w

Connecting to %s