Adolygu: Serol Serol, Mellt a Gwenno

Bythefnos yn ôl, cefais fy ngwahodd eto i stiwdio’r BBC i adolygu tair albwm ar raglen Lisa Gwilym (28/3/18) a chael eistedd yn y stiwdio fawr yn Aberystwyth am y tro cyntaf gan wirioni’n lân yn y bwth DJ mawr!

Ro’n i arfer cyhoeddi fy adolygiadau radio ar fy mlog (cyhoeddais un HMS Morris, Bendith a The Gentle Good, sydd erbyn hyn yn teimlo fel oes yn ôl!) a felly dyma drio dychwelyd at yr arfer o wneud, gan ‘mod i wedi cael cyfle am hoe fach dros wyliau’r Pasg.

Heb os, roeddent yn dair albwm wirioneddol wych a dyma fy argraffiadau bras.


Serol Serol – Serol Serol (IKA Ching)

serol serol
Clawr cymruddyfodolaidd iawn yn perthyn i albwm gyntaf Serol Serol

Wrth wrando ar albwm gyntaf Serol Serol, teimlaf ‘mod i wedi bod ar daith freuddwydiol i’r gofod, a dwi’n hollol, hollol gytted, wrth i anadl olaf y trac clo ‘Anadlu’ ddod i ben, o orfod deffro a glanio yn fy ôl ar y ddaear. Mae brand unigryw Serol Serol o space-pop wedi hudo nifer ohonom eisoes ond mae eu halbwm cyntaf yn llawn traciau breuddwydiol sy’n cyfareddu’u gwrandawyr yn llwyr.

Mae’r casgliad cyfan yn gymysgedd o synau retro, seicadelig sy’n adlewyrchu bandiau pop o’r 80au a chysyniadau dyfodolaidd, gofodaidd. Yn gyffredinol, mae tinc hiraethus i’r casgliad – ond ai hiraethu am Gymru neu hiraethu am y gofod mae Serol Serol?

Swyna’r naws hypnotig sy’n perthyn i’r albwm o’r cychwyn cyntaf. Mae’n amhosib peidio â swayo gydag alawon traciau breuddwydiol fel ‘Cadwyni’ a ‘Cysawd yr Haul’ tra bod caneuon tynerach, mwy myfyryiol fel ‘Sinema’ a ‘Neifion’ yn arddangos lleisiau Mali Siôn a Leusa Rhys ar eu gorau.

Dewisais ‘K’ta’ fel fy hoff drac, am fod ei alaw heintus, lleisiau trawiadol a geiriau chwareus wedi fy nenu – a fy nhwyllo – cyn i fywiogrwydd rhan gyntaf y trac doddi ac esblygu’n swn mellow, ysgafn ac ymlaciol.

Petawn yn mynnu bod dwtsh yn pedantig, gellid fod wedi creu mwy o undod rhwng y traciau, gan greu space opera ac un llinyn storiol bendant a chael pob trac i lifo mewn i’w gilydd, yn hytrach na bod yn gasgliad o ganeuon. Ond eto, bod yn eithriadol o picky yw hynny, a gweld potensial i ddatblygu ‘stori’ Serol Serol, a hwythau’n fand mor newydd.

Ond ar y cyfan, dyma albwm dwi wedi mwynhau ymgolli’n llwyr ynddi ac edrychaf ymalen at fentro i arallfyd gyda Serol Serol eto yn y dyfodol agos (a phell).


Mae’n Hawdd Pan Ti’n Ifanc – Mellt (JigCal)

mellt
Mae graffiti MELLT yn un o drysorau bach Aberystwyth erbyn hyn.

Ers cyfweld â Mellt ar gyfer Y Selar tua pedair mlynedd yn ôl, adeg rhyddhau eu EP Cysgod Cyfarwydd, roeddwn yn gwybod ‘mod i ‘di baglu ar fand ifanc (ifanc iawn ar y pryd!) go arbennig.

Mae eu halbwm cyntaf, Mae’n Hawdd Pan Ti’n Ifanc, felly, yn un hirddisgwyliedig. Dwi’n dueddol o fod yn feirniadol iawn o fandiau sy’n rhyddhau albymau mawrion yn gynnar yn eu gyrfa heb ddatblygu’u sain yn ddigonol (mae Serol Serol wedi profi’n enghraifft prin) ond mae’r agosatrwydd sydd rhwng bois Mellt ers eu dyddiau ysgol yn amlwg ac nid oes raid i mi ddefnyddio’r gair ‘addawol’ i ddisgrifio’r albwm gyntaf hon, diolch byth.

Rhan o apel yr albwm i fi yw nad yw Mellt yn trio bod yn unrhyw un ond nhw eu hunain. Maent yn trafod eu hieuenctid yn ddiflewyn ar dafod – gyda thraciau fel ‘Sai’n Becso’ yn floedd o ddifaterwch pur, ‘Gwefusau Coch’ yn ddarlun o gariad ifanc, lled-ddiniwed a ‘Rebel’ yn gic herfeiddiol â churiad pendant – a llwyddo i wneud heb swnio fel plant bach pwdlyd (fel sy’n arferol gyda nifer o’r bandiau roc ifanc yma…) ‘Planhigion Gwyllt’, fy hoff drac, sy’n crynhoi’r albwm orau i fi, gyda gonestrwydd y geiriau’n taro tant, a’r disgrifiad hudolus ohonynt ‘fel planhigion gwyllt sy’n tyfu’n llet’with ar lannau’r afon Ystwyth.’

Mae’r albwm yn gyfres o draciau byr, pytiog – ‘Rebel’, yn dair munud a thri deg eiliad o hyd yw’r trac hirraf – a gellid dweud eu bod braidd yn rhy bytiog, ar adegau, o bosib.

Fodd bynnag, y gallu anhygoel i bontio rhwng byd amgen, amrwd bandiau megis Los Blancos ac Ysgol Sul a phethau mwy cyfredol, poblogaidd fel Candelas a Sibrydion gynt sy’n mynd i arwain at lwyddiant yr albwm hon, gyda chymysgfa eang o ddylanwadau pync ac indie hefyd yn asgwrn cefn iddi. Heb os, mae potensial headliners gigiau mawrion gan Mellt, a bydd hi’n gyffrous gweld i ble awn nhw nesaf.


Le Kov – Gwenno (Heavenly Recordings)

Cefais fy nghyfareddu’n llwyr gan Y Dydd Olaf, albwm solo gyntaf Gwenno Saunders, yn 2014, ac mae mawr ddiolch iddi am ddod ag un o glasuron ffuglen wyddonol yr iaith

le kov.jpeg
Le Kov, albwm wedi’i chanu’n gyfan gwbwl yn y Gernyweg.

Gymraeg yn ôl i ymwybyddiaeth bobol. Profwyd bryd hynny fod gan Gwenno’r ddawn anhygoel o dynnu rhywun gerfydd ei ddwy law i fyd gysyniadol drwy gyfrwng ei cherddoriaeth. Serch hanner gobeithio’n dawel bach mae Y Blaned Dirion fyddai ei hail albwm, mae Le Kov (‘Lle’r Cof’ yn y Gymraeg) unwaith eto’n dangos ei dawn arbennig hi o allu gwahodd rhywun i ddyfnderoedd ei dychymyg.

I gymharu ag Y Dydd Olaf, mae naws tipyn mwy hafaidd yn perthyn iddi. Egyr y casgliad gan ‘Hi a Skoellyas Live a Dhagrow’, trac sy’n ddramatig ac yn adleisio cyflwyniadau hen ffilmiau, gyda’r naws retro, cynnes, yn cyflwyno epig Tarantino-aidd.

Dewisais ‘Tir Ha Mor’ fel fy ffefryn yn casgliad, am fod y gân wedi – yn llythrennol – fy nilyn i bob man ers i mi wrando arni gyntaf. Mae’r alaw, gyda thincian ysgafn y piano, yn codi a gostwng fel tonnau, a bron a bod y teimlaf dywod traethau St Ives neu Perrenporth rhwng fy mysedd traed wrth wrando.

Er bod fflachiau cyfarwydd i’m clust yn britho’r casgliad – gyda’r Gernyweg, wrth gwrs, yn iaith Geltaidd sy’n perthyn yn agos iawn i’r Gymraeg – teimlaf mai drwy ddarllen cyfweliadau ac adolygiadau eraill ‘mod i’n darganfod mwy a mwy am yr albwm yn ychwanegu haenau di-ri i’r profiad o wrando, gyda stori Gwenno ar yr albwm hon yn datblygu fesul dipyn.

Cefais fy nhwyllo i feddwl fod ‘Eus Kaus?’ yn drac sinisitr a ddifrifol, cyn darganfod mae’r cwestiwn mawr, pwysig oedd ‘Oes Caws?’. Dysgais hefyd ar y raglen gyda Lisa mae trac am dwristiaid yn teithio ar hyd y brif heol drwy Cernyw yw ‘Daromres y’n Haul’, sy’n cynnwys llais Gruff Rhys yn asio’n berffaith gyda llais Gwenno – a gwna hynny synnwyr llwyr wrth ystyried y trac sy’n tymblo ling-di-long drwyddi draw a naws mwy klunky a chwareus yn perthyn iddi i gymharu â chaneuon eraill yr albwm.

Bosib ‘mod i’n colli pytiau o ystyr, ond bosib hefyd bod y profiad o wrando ar gerddoriaeth mewn iaith ddieithr (sy’n brofiad, rhaid cyfaddef, sy’n newydd iawn i fi), yn ychwanegu at fy chwilfrydedd. Drwy gyfrwng Le Kov, archwilia Gwenno adleisiau o’r gorffennol a dod â’r Gernyweg at glustiau newydd.

Rwyf hefyd wedi adolygu’r albwm hon ar gyfer cylchgrawn Barn.

 

Advertisements

Gadewch neges / Leave a message

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s