Cyfweliad: Megan John UCAN ar gyfer Y Stamp

Daeth rhifyn 5 Y Stamp i’r byd toc cyn ‘Steddfod ddiffiniau Caerdydd, ond a hithau wedi bod yn gyfnod mor brysur wrth orffen fy ngwaith ymchwil, dim ond nawr dwi’n cael cyfle i rannu’r rhan fechan o’r cylchgrawn bues i’n gyfrifol amdano’r tro hwn!

Â’r rhifyn yma – am y tro cyntaf – yn cynnwys thema arbennig, sef ‘Byd y Theatr’, es i gynnal cyfweliad gyda Megan John, sy’n gweithio’n llawrydd gan gynnal gweithdai a pherfformio. Mae’n cyd-weithio’n agos gyda chwmni UCAN Productions, sy’n creu cyfleoedd theatr hygyrch.

Gyda Megan, bûm yn trafod pwysigrwydd creu theatr sy’n hygyrch i bawb, a sut mae hi mor rhwydd i gymryd pethau bychain yn ganiataol wrth fynychu’r theatr neu fynd i weld perfformiad ar leoliad. Mae ganddi lawer o bethau pwysig a difyr i’w dweud, gan siarad o brofiad, ac mae hi’n cynnig atebion sydd wirioneddol gwerth eu darllen.

ystamp blog1

Rhwng y clawr blaen trawiadol gan Steffan Dafydd (ewch draw i Penglog.co i weld ei siop arlein newydd), mae ‘na hefyd gyfraniadau di-ri yn y rhifyn gan Eddie Ladd, Melangell Dolma, Annes Elwy, Lois Llywelyn, Erin Maddocks a mwy, sydd wirioneddol gwerth eu darllen.

Felly galwch draw i wefan Y Stamp i brynu copi print neu ddarllen y PDF ar-lein.

Bydd y chweched rhifyn yn cael ei gyhoeddi ym mis Tachwedd, a ‘sgrifennu’r golygyddol (fy nhro cyntaf i ar ben fy hun, eep!) a chydlynnu hwnnw fydd her yr wythnosau nesaf.

 

 

Advertisements