Blog

Gweithgareddau Tafwyl

Cefais wibdaith i Tafwyl, yng Nghaerdydd, ddydd Sadwrn, gan gael cyfle i fwynhau a gwneud tamaid o waith yn ystod yr wyl arbennig sydd wedi dod yn rhan annatod o galender Cymry’r ddinas.

Dechreuodd fy niwrnod mewn talwrn bywiog i blant yn y Lolfa Lên. Cafodd blant Caerdydd yr anffawd o glywed finnau ar dim Casia Wiliam, gydag Osian Rhys Jones, yn bloeddio canu mas o diwn – ond sicrhaodd ein bod wedi llwyddo i gyd-ennill gyda thîm Anni Llyn, Gwynfor Dafydd a Morgan Owen. Pawb – beirdd a chynulleidfa! – yn hapus felly.

Talwrn i Blant tu fas yn yr haul! Llun Llenyddiaeth Cymru @llencymru_litwales

Wedi clamp o fyrger i ginio a chyfle i grwydro’r stondinau a gwrando ar bach o gerddoriaeth, roedd hi’n bryd paratoi at sesiwn STAMPIO yn y prynhawn. Cafodd Grug a finnau gwmni rhai o gyfranwyr ail rhifyn Y Stamp yn y Lolfa Lên, gan roi’r cyfle iddynt gyflwyno’u hunain a darllen eu gwaith.

Cawsom glywed rhai o gerddi Sara Green, myfyrwraig MA o Batagonia ac enillydd cadair Eisteddfod Trevelin eleni a chael gwybod mwy am Rhithganfyddiad, prosiect Efa Lois a Morgan Owen, yn cofnodi eu hargraffiadau o strydoedd Caerdydd drwy lun a cherdd. Mae eu gwaith hwy bellach ar wrth o’u gwefan Etsy, siop Bodlon a Cant a Mil Vintage.

FullSizeRender

I goroni’r prynhawn, cawsom berfformiad gan griw Er Cof, pedwarawd o Brifysgol Aberystwyth, sy’n cyflwyno ffordd unigryw o ymateb i eiriau, gan fwydo hiwmor a phrofiadau personol i ‘ladd amser’. (‘Sgrifennais adolygiad am eu cynhyrchiad gwreiddiol yn ôl ym mis Rhagfyr diwethaf yma.) Gofynnwyd i’r gynulleidfa gynnig gair i’r criw, a chafwyd perfforiad a gododd sawl gwên yn ystod y pnawn.

IMG_0391
Nannon, Naomi a Meleri, tair o bedair o berfformwyr Er Cof

Gyda diolch felly i’r cyfranwyr a pherfformwyr a diolch hefyd i bawb alwodd draw i ymuno yn yr hwyl a phrynu copi o’r rhifyn. Mae gennym hefyd le i roi diolch arbennig i griw Llenyddiaeth Cymru – Cynan a Branwen yn enwedig – am ein gwahodd i’r Lolfa Lên i gynnal y sesiwn a helpu ni gyda’r gosod a’r trefnu.

Mi fyddwn yn cynnal lansiad arall i’r Stamp a gwerthu copiau eto yng Ngŵyl Arall penwythnos nesa’ (8-9 Gorffennaf), cyn rhoi cyfle i ddarllenwyr ei lawrlwytho ar ffurf PDF ar y we. Mynnwch gopi!

http://ystamp.cymru | @ystampus 


My weekend consisted of a busy Saturday both working and enjoying at Tafwyl, the Welsh-language festival in Cardiff. I firstly took part in an event for children, competing on current Bardd Plant Cymru, Casia Wiliam’s team, alongside Osian Rhys Jones.

In the afternoon, Literature Wales also offered a slot for us to hold a small pre-launch event for the second printed issue of Y STAMP, where we invited Sara Green, Morgan Owen and Efa Lois to introduce and read some of their work. As part of the event, we also invited the Er Cof company from the TFTS Department at Aberystwyth University to react to words chosen by the audience. We owe both the contributors and performers a huge thanks, and also to everyone who popped over to join us and buy a copy. 

The magazine will also be on sale at Gŵyl Arall (Another Festival) in Caernarfon next weekend, and then will be available from us directly from then on, as well as available to download from the website in PDF form. 

Adolygiad: EP Bach – Bethan Mai

Mae Bethan Mai yn groten amryddawn – yn arlunydd (gweler pip o’i gwaith yma), yn actores a’n gantores. Gwisg ei het gerddorol am ei phen eto y tro hwn gan ryddhau ei EP solo cyntaf, Bach. Rwyf eisoes yn ffan o Rogue Jones, ac wedi gwirioni ar fywiogrwydd eu perfformiadau, a gwelwn awgrym o ddylanwad y band ar y traciau diweddaraf yma gan Bethan; yr un geiriau athrylithgar, ond sŵn gwahanol ac unigryw yn ei ffordd ei hun sydd gan Bach.

Dim ond tri thrac sydd yma i adael argraff ar y gwrandawyr ac mae hynny’n gyflwyniad teilwng i fyd breuddwydiol Bethan Mai. Mae’r trac agoriadol ‘Bach’ yn bedair munud o lafarganu heintus – ‘Bach hedyn bob mawredd / Bach bob dyn a dybiai hyn yn fawr’ – drosodd a throsodd, gyda haenau o dincian hudolus a synau cosmig yn tyfu wrth i’r gân ddatblygu. Mae’n eich tynnu i stad o hypnosis pur, cyn dadfeilio’n synau amrwd, metelaidd. Cynrychioli cwymp y dyn a’i ego, o bosib? Pwy a ŵyr, ond rhywbeth a wn yn sicr yw ei bod yn anodd, os nad amhosib, peidio â chlywed eich hun yn canu’r geiriau hyn am ddyddiau wedi gwrando arni.

I gymharu, mae’r ail drac, ‘Aderyn Pur’ yn dechrau gyda chanu lled-operatig ei naws, a’r synau sy’n gadarn yn hytrach na’r llais. Mae’n fy atgoffa o anthem genedlaethol yr Alban – neu bosib bod hi’n decach i’w chymharu i ‘St Andrew (The Battle is in The Air)’ o’r albwm Icky Thump gan The White Stripes –  gyda sain chwythbrennau-aidd ac awgrym o frwydr ar droed, cyn dilyn hediad up-tempo yr aderyn pur ar ffo.

Mae ‘Wedi Mynd’ yn funud a thamaid bach o hyd, ac yn ysbaid o dawelwch wrth gwt yr EP. Dyma wrthgyferbyniad ingol i fywiogrwydd ddwy gân arall a chyfle i Bethan dangos ei llais i gyfeiliaint gyda phiano.

Ydw i eisiau wmff bach arall cyn gadael yr EP hon? Yn syml: ydw. Mae tri thrac yn fyr iawn am EP, a deisyfaf fwy. Teitl-drac y casgliad yw fy ffefryn, y gwahoddiad i’r byd hynod hwn. Bydd hi’n gyffrous gweld i ble eith Bethan Mai nesaf yn dilyn Bach – boed hynny’n gwisgo’r het gerddorol neu un o’i hetiau eraill ar yr antur greadigol nesaf.

Prynwch Bach yma:
bethanmai.bandcamp.com

A chymerwch cipolwg ar fideo hudolus y sengl ‘Bach’, gan Ynyr Ifan, yma.
@bethan_mai | @RecordiauBlinc | https://recordiaublinc.com/

 

Adolygiad: Dadeni – Ifan Morgan Jones

Mae ‘gwleidyddol’ yn ansoddair sy’n cael eu latshio ar amryw gynnwys yn ddiweddar, heb fawr feddwl am ystyr nac arwyddocâd y gair. Drama ‘wleidyddol’ yw Byw Celwydd, er mai bywydau cythryblus y cymeriadau – soap opera style – sy’n llywio’r plot yn hytrach na’r datblygiadau gwleidyddol. Nofel ‘wleidyddol’ yw Dadeni, a chyhoeddwyd yn ystod cyfnod lle mae’r mwyafrif ohonom (neu bosib mai dim ond fi sydd felly) wedi cael hen ddigon ar y byd gwleidyddol sydd ohoni.

A bosib mai tric arall yw’r label ‘gwleidyddol’ wedi ei wthio i bob datganiad sy’n hyrwyddo’r nofel hon. Gwn o brofiad fod y byd gwleidyddol yn siŵr o gael mwy o groeso yng Nghymru na’r byd ffantasiol sy’n treiddio trwy Dadeni. Er mai’r Mabinogi yw tarddiad ein traddodiad rhyddiaith, ystâd bardd (a llenor) yw astudio byd, a thrwy bod yn onest a darlunio pethau fel y maent yn union mae gwneud hynny. Onid drwy bwysleisio darluniau cadarnhaol o Gymru, dathlu’r bröydd Cymraeg a’r bywyd cymunedol mae achub y genedl a’r iaith? Pa ddiben sydd i ddianc i fyd o freuddwydion? Dengys Dadeni i ni bwysigrwydd gwthio’r dychymyg dwtsh ymhellach a bod ffantasi’n gyfrwng cystal â phob un arall i drin a thrafod y Gymru sydd ohoni.

“Mae’r Cymry isio rhwbath newydd, rhwbath y gallan nhw gael eu dannedd iddo…”

Dilyna Dadeni hanes Joni Teifi a’i dad Bleddyn Cadwaladr, sydd wedi derbyn gwahoddiad i ddatrys dirgelwch pur annisgwyl yn Nhŵr Llundain. Yn ogystal â’r tad a mab, gwelwn hefyd ddigwyddiadau anhygoel y nofel hon o safbwynt Alaw Watkin AS a’r Insbector Isgoed Evans, sydd hefyd ar drywydd gelynion dirgel sydd eisiau cael eu bachau budron ar Y PAIR DADENI. Ydy, mae Y PAIR DADENI (sy’n llawn haeddiannol o’r prif lythrennau gorddramatig yn yr adolygiad hwn) yn dal i fodoli, yn arf gyda photensial mwy brawychus na’r un bom niwclear. Gyda dos go gref o realaeth hudol, dyma nofel antur sy’n eich tywys o gludwch Ddyffryn Teifi i Lundain ac yn ôl i bylloedd dyfnaf sawl math o fyd tanddaearol.

Mae’n anodd gwneud cyfiawnder â chryfderau’r nofel heb ddatgelu rhannau helaeth o’r plot, gan mai storïwr medrus yw Ifan Morgan Jones, yn plethu llinynnau storïol yn gelfydd ac atalnodi diwedd pob pennod â cliffhangers sy’n eich gadael yn ysu am fwy. Dilynwn y cymeriadau wrth iddynt dreiddio i fyd y Mabinogi a gweld sut rai fyddai’r duwiau petaent yn bodoli heddiw. Fe’m cyfareddwyd gan y syniad o’r cychwyn cyntaf, a gwelwn gymeriadau chwedlonol cyfarwydd ac anghyfarwydd yn dod i’r amlwg. Mae’r portread o’r Gwydion modern yn ei rôl newydd fel arweinydd sinistr yn bur ddiddorol, a’r ddelwedd o Efnisien fel Mr Blonde o Reservoir Dogs newydd yn drawiadol.

‘…deuthom yn ysglyfaeth i foderniaeth a chynnydd, yn adleisiau o orffennol tywyll, yn straeon i’w hadrodd o amgylch y tân…’ 

Wrth edrych ar weithiau ffantasi a ffuglen wyddonol yn y Gymraeg, mae’r mwyafrif ohonynt yn dibynnu ar geinciau’r Mabinogi yn rhan o’u naratifau, yn hytrach na chydnabod a thalu teyrgned i’w dylanwad. Seren Wen ar Gefndir Gwyn Robin Llywelyn yw’r unig eithriad yn hynny o beth, gan nad yw mwynhad y nofel honno, na’i dealltwriaeth, yn ddibynnol ar wybodaeth o’r chwedlau. Mae’n fodd o gynefino darllenwyr sy’n anghyfarwydd â stwff ffantasiol. Afraid dweud, o bosib, bod plot cyfan Dadeni yn ddibynnol ar y chwedlau cynnar, a cheir llawer o esbonio gan Bleddyn Cadwaladr ac Isgoed ynglyn â phwy yw pwy a’u cysylltiad gyda ble, sy’n ormod i rywun sydd eisoes yn adnabod eu Mabinogi yn lled dda.

Mae’r nofel hon, fodd bynnag, hefyd yn ymwybodol o’i lle mewn traddodiad o weithiau ffantasiol a ffuglen wyddonol Cymraeg, ac nid yn unig yn godro llaeth y Mabinogi i greu clamp o ysgytlaeth, ond yn tynnu ar themâu a motiffau sy’n codi mewn amryw o nofelau ffug-wydd eraill. Fel Pe Symudai y Ddaear D. Griffith Jones, mae’r ‘Steddfod Genedlaethol yn ganolbwynt i ddigwyddiadau dramatig, ac mae cyfeiriadau at Gymru Annibynnol 2033 yn nod amlwg i gyfeiriad Wythnos yng Nghymru Fydd Islwyn Ffowc Elis. Mae’r olygfa lle mentra’r cymeriadau i wlad y Bwca yn adlais o Tir y Dyneddon Tegla (sydd mwy neu lai yn ffug-wydd, at a pwsh). Gellid cyhuddo Dadeni o fod yn perthyn yn agos i Talu’r Pris Arwel Vittle – 17 mlynedd yn ddiweddarach, ac mae’r un ciciau cyson at ddifaterwch y Gymru ddatganoledig a’i system wleidyddol yn britho’r ddwy nofel.

dadeni2
Cefais flas ar ddarllen Dadeni mewn sawl man gwahanol…

Ar lefel bersonol, rwyf wedi gwirioni at ychwanegiad newydd a chyffrous i ganon ffantasi yn y Gymraeg. Ynghyd â hynny, mae’r tirlun cyfarwydd sy’n gynefin i Joni yn gyfarwydd i finnau hefyd, a gallaf weld lleoliadau amrywiol yn Nyffryn Teifi yn glir yn fy meddwl wrth ddarllen. Roeddwn hefyd wrth fy modd gyda chyfeiriadau at CKs a Sbar Llandysul, ac yn bwysicach na hynny, y takeaway agosa’ i ‘nghartref, Dan ei Sang.

Ond gan gamu’n ôl, a gwisgo sbectol wrthrychol amdanaf, mae yna wendidau na allaf mo’u hanwybyddu. Gwn y tociwyd cryn dipyn ar y nofel cyn ei chyhoeddi. Bosib, petawn yn olygydd, mi fyddwn wedi tocio ambell beth arall ac ychwanegu mwy o fanylion i liwio’r cymeriadau. Gorlwythog braidd o jôcs bach coeglyd yw deialog y cymeriadau, a bosib y byddwn wedi cynghori’r awdur i gadw rhai ohonynt yn eu priod le ar ei ffrwd Twitter. (PW, er enghraifft…) Ac i fod yn ddi-flewyn-ar-dafod o onest, storïwr yw Ifan Morgan Jones, nid awdur deialog. Byddai cryfhau’r ddeialog yn talu ar ei ganfed, gan y byddai hefyd yn ychwanegu at y cymeriadau.

Perthnasau real, heb yr un owns o ramant na cliche yn perthyn iddynt sydd rhwng cariadon a theuluoedd Dadeni. Mae’r dechrau trawiadol yn herio’r norm heteronormadol (i ddefnyddio’r termau posh) a hir oes i’r chwa o awyr iach hynny. Er, caf drafferth dod o hyd i’r glud sy’n denu’r cymeriadau amrywiol at ei gilydd yn bartneriaid yn y lle cyntaf. Be sy’n cadw Isgoed gydag Eli, yn enwedig? Beth yn union oedd rhwng Joni a Iaco? Pam fod Alaw yn caniatau camdriniaeth cyson Derwyn? Er bod y chwedlau sydd wedi gwreiddio yn y tir yn taro tant, pethau digon simsan a di-ddim yw’r cymeriadau modern ar adegau.

Ac eithrio Alaw.

Ei stori hi yw’r un a’m swynodd. Er bylchau yn y wybodaeth a rannwyd am ei gorffennol, mae gweld ei dadrithiad ar ddechrau’r nofel yn drawiadol, wedi gadael ei huchelgais gyrfaol achub y blaen ar ei hegwyddorion, cyn ei gweld yn magu hyder wrth i bethau droi i’w phlaid eto… Er mai Joni Teifi a’i rôl yn yr helfa oedd ffocws y nofel, gweithredoedd Alaw a’m adawodd yn rhyfeddu’n geg agored wrth ddarllen.

“Mae’r byd yn newid. Mae pobol wedi cael llond bol o dueddiadau dinistriol cyfalafiaeth neo-ryddfrydol oruwchgenedlaethol. Maen nhw am weld blaenoriaethau pethau a gwerth gwirioneddol…’

Oedd, roedd gwthio’r label ‘wleidyddol’ wrth hyrwyddo’r nofel yn risg. Nid yw trafod gwleidyddiaeth yn y Gymraeg yn newydd – onid yw dewis llenydda yn y Gymraeg yn weithred wleidyddol ta beth? Y broblem – os problem hefyd – gyda nofelau a dramâu ‘gwleidyddol’ yn y Gymraeg yw eu bod yn dueddol o gadarnhau’r hyn rydym yn ei wybod ac yn ei gredu yn barod. Tic mawr i Blaid Cymru, a bwww i’r dinasoedd, gan ein hanfon yn ein hôlau i greu cymunedau cyd-weithredol yn Y Fro Gymraeg wledig, a nemor dim sôn am y canolbarth na’r ardaloedd wrth y ffin.

Fodd bynnag, mae tro yng nghynffon yr her wleidyddol hon i’w darllenwyr, gyda ffydd mewn ffyrdd newydd ac adeiladu pontydd a thwneli yn hytrach na welydd yn greiddiol i’r stori antur hynod ddarllenadwy hon.

I mi, dechreubwynt yw’r nofel hon. Dechrau temtio pobol i symud oddi wrth realaeth wrth lenydda, a gweld potensial i ledu neges bwysig drwy’r genre ffantasi. Tybiwyd i Islwyn Ffowc Elis wneud y gwaith caib a rhaw a chyflwyno’r Cymry i ffuglen wyddonol, ond mae gwaith i’w wneud i gryfhau presenoldeb y genre mewn trafodaethau llenyddol. Mae ‘na Gymry glân, gloyw hefyd yn gwirioni ar Game of Thrones, chmod.

Mi fyddaf yn holi Ifan Morgan Jones mewn sesiwn yng Ngwyl Arall, am 3 yng Ngerddi’r Emporiwm, 8 Gorffennaf 2017. Dewch!

gwyl arall1

 

Conference: CRSF 2017, Liverpool

*Cymraeg isod*

This year, I had the incredible experience of presenting a paper at the Current Research in Speculative Fiction Conference. Held at Liverpool University, I had previously attended last year, but this was the first paper I’d presented there.

‘Rebuilding the Nation: Welsh-language Post-apocalyptic Fiction 1964-2009’ introduced work by D. Griffith Jones, Cliff Bere, John Idris Owen and Lloyd Jones, discussing them in light of the two Welsh referendums. Whilst Pe Symudai y Ddaear (1964) encapsulates the ‘nationalist euphoria’ of the 1960s, the more sombre tone of Pennod yn Hanes Milwr (1981) and Y Ty Haearn (1984) reflect the apocalyptic effect of the first unsuccessful referendum in 1979. Y Dŵr by Lloyd Jones in 2009, in stark contrast, warns against the danger of complacency in the globalised society, despite the creation of the Welsh Assembly following a marginal win in the 1997 referendum.

I was touched by the response to my presentation, and the questions I was asked has led to new paths in my research – so thank you to all who offered suggestions and comments! I hope to either record or publish the paper very soon.crsfIt was a pleasure to attend so many interesting panels with a variety of topics discussed, and also to meet new friends from all over the UK and beyond. The keynotes were both excellent this year, with the second keynote by Dr Robert Maslen of Glasgow University, ‘The Politics of Celtic Fantasy in Children’s Fiction of the 30s and 40s’, especially relevant to my own research.

As well as the conference, I also spent a little afternoon wandering the city. I had never been to the Docks before, despite having visited Liverpool several times in the past. An inspirational visit to the TATE Gallery, where seeing Tracey Emin’s My Bed first hand was a personal highlight, means I’ve returned to my desk this week inspired and full of new ideas.

my bed


Yr wythnos diwethaf, fynychais gynhadledd ‘Current Research in Speculative Fiction’ ym Mhrifysgol Lerpwl i gyflwyno papur ar lenyddiaeth ôl-apocalyptaidd yn y Gymraeg. Cafodd y papur ymateb gwych a chodwyd nifer o gwestiynau perthnasol. 

Mwynheais y ddwy brif ddarlith gan Dr Bernice Murphy a Dr Robert Maslen – yr ail yn enwedig, a hwnnw’n trafod gwleidyddiaeth mewn enghreifftiau o lenyddiaeth Geltaidd i blant. Dychwelaf at fy nesg yr wythnos hon yn llawn syniadau newydd – syniadau ymchwil a chreadigol! 

 

Cerdd: I Ben Lake (Ymgeisydd Plaid Cymru Ceredigion)

Nid oeddwn, fwy na neb arall, yn rhyw hapus iawn pan gyhoeddodd Theresa May ei bod yn bwriadu cynnal etholiad arall. Mewn cyfnod sydd eisoes yn un cythryblus yn wleidyddol, un llygedyn o obaith oedd gweld cefnogaeth twymgalon i’r ymgeisydd Plaid Cymru yng Ngheredigion, Ben Lake. Wrth yrru o Lanpumsaint i Aberystwyth, roedd yna fôr o blacardiau yn ei gefnogi yn blaguro yng nghloddiau’r sir, ac fe ddechrais lunio’r gerdd hon yn ystod y daidd.

A nawr, mi allaf longyfarch Ben ar ei fuddugoliaeth, a dymuno pob hwyl iddo yn y swydd newydd! Mae pobol Ceredigion yn lwcus o’i gael yn Nhŷ’r Cyffredin yn eu cynrychioli.

I Ben Lake

Llenwyd ein cymoedd â llynnoedd
a boddwyd ein lleisiau yn y lli.

Bu dagrau didrugaredd
o du’r beirdd ers blynyddoedd
yn pwysleisio
na ddaw daioni
o ddŵr.

Ond dyma leddfu syched
gyda’r gobaith newydd
sydd ar y gorwel.

Ein llyn, o’r newydd, ni.
Ein llais ni.

 

(Defnyddiwyd llun Elin Jones AM, @ElinCeredigion)


Inspired by the multiple placards supporting Ben Lake, the Plaid Cymru candidate for Ceredigion in the 2017 General Election, I wrote this short poem discussing the hope for a new face to represent the county and Wales in parliament. 

Noson Torri Tir, Hwyl Llenyddiaeth Llandeilo

Cefais gyfle nos Wener diwethaf (28/4) i ddarllen rhai o ‘ngherddi mewn noson Torri Tir, yn rhan o Hwyl Lenyddiaeth Llandeilo. Roeddwn yng nghwmni Endaf Griffiths, Elinor Wyn Reynolds ac Eurig Salisbury, a darllenwyd cerddi yn ymwneud a ffynonau, stiwardiaid blin, ac am gariadon sy’n rhy hoff o arddio.

Bu’n noson liwgar, gyda’r pedwar ohonom wedi cael cais i lunio cerdd yn ymateb i ddarnau gwahanol o gelf. Mae’r gwaith – a’r cerddi bellach – ar gael i’w gweld yn Oriel y Mimosa ac Oriel y Ffynnon yn Llandeilo.

Roedd fy ngherdd innau wedi ei hysbrydoli gan gerfluniau ‘Let the Fun Begin’ gan Valerie Price-West.

Roedd hi’n gret cael bod yn rhan o’r wyl, a fu’n benwythnos llwyddiannus. Hir oes i Hwyl Llenyddiaeth Llandeilo!

@llandeilolitfst


I was invited to read poetry at Llandeilo Literature Festival. Four of us – Elinor Wyn Reynolds, Endaf Griffiths, Eurig Salisbury and myself – read a collection of poems (with various topics discussed, ranging from gardening boyfriends to angry Eisteddfod stewards!) and were challenged to write a poem reacting to a particular work of art, currently on display in Llandeilo.

 

 

 

Cerddi: ‘Hen Ferch’ a ‘Don’t be a SQUARE’, CTRL + ALT + DEL

Cyhoeddwyd dwy gerdd gennyf yn ddiweddar yn e-gylchgrawn Rhys Trimble, CTRL+ALT +DEL. Rwyf wedi edmygu gwaith Rhys fel golygydd y cylchgrawn ac fel bardd a pherfformiwr (Os nad ydych wedi gweld Rhys Trimble yn darllen ei waith, gwnewch, mae’n brofiad anhygoel!) ac rwy’n falch o allu cyfrannu i CAD.

Lluniais gesgwarrdd dorrydd, gan dynnu geiriau o nofelau gan lenorion benywaidd i greu cerdd, ‘Hen Ferch’, gan chwarae gyda themâu ffeministaidd, ac mae ‘Don’t be a SQUARE’ yn gerdd a anfonais, yn rhan o gasgliad, i gystadleuaeth y Gadair yn Eisteddfod yr Urdd llynedd. Gwelwch bip ohoni yma, i’r chwith.

Mae fy ngwaith ymysg beirdd mentrus eraill, megis Elan Grug Muse, Sian Melangell, Zoe Skoulding, Bedwyr Lewis a mwy.

http://cad.trimbling.com/


I have recently published two poems – ‘Hen Ferch’ and ‘Don’t Be a SQUARE’ –  in the Welsh-language issue of Rhys Trimble’s CTRL + ALT + DEL e-zine. I’ve always enjoyed Rhys Trimble’s performance work and CAD exhibits avent-garde and experimental poetry of all sorts – it’s been a pleasure being able to stretch my own expectations and contribute. 

 

Erthygl: ‘Missing: Poetry in Future Wales’ – Poetry Wales

I was recently invited to write an article regarding the relationship of Welsh-language science fiction and poetry to a ‘Future / No Future’ themed issue of Poetry Wales. Noticing a lack of Welsh-language SF poetry, I considered how poetry and the poet was portrayed and discussed in Welsh-language fiction. The article discusses worlds where writing poetry, cynghanedd specifically, is undertaken by machines, age-old poets have disappeared in dystopian futures, and music appears the only playing field where both SF and poetry collides.

The issue is out now, filled with incredible poets, including a Scottish Gaelic poem by Harry Giles and others. Perfect Bank Holiday weekend read!

poetry wales

Cefais wahoddiad yn ddiweddar i lunio erthygl i Poetry Wales, dan y thema ‘Dyfodol / Dim Dyfodol’, gan ‘sgrifennu am rôl barddoniaeth mewn cyd-destun ffuglen wyddonol. Digon prin yw barddoniaeth ffuglen wyddonol yn gyffredinol, heb son am yn y Gymraeg – cafwyd hyd i dim ond un gerdd o’r fath! Fodd bynnag, mae barddoniaeth yng Nghymru’n rhywbeth sy’n cael ei drafod mewn modd ddiddorol o fewn naratifau ffuglen wyddonol, gyda’r gynghanedd yn cael ei fewnbynnu i geg peiriant a beirdd yn diflannu heb i neb sylwi. 

Teimlir ar adegau nad oes gan lenorion ffuglen wyddonol fawr ddim i ddweud wrth feirdd, ac i’r gwrthwyneb, nad oes fawr o ddiddordeb gan y beirdd fentro i fyd ffuglen wyddonol! Cerddorion megis Alun Gaffey a Gwenno Saunders yw’r unig rai sy’n chwarae rhwng y ddau fyd, a thrafodir hynny’n fanylach yn ‘Missing: Poetry in Future Wales’.

Mae’r erthygl – sydd ymhlith gwledd o gerddi – yn y rhifyn diweddaraf, ac ar gael i’w phrynu nawr. 

 

Lansiad Y STAMP

Gan geisio ‘ngorau i beidio â diflasu pawb gan sôn am Y Stamp eto fyth, hoffwn jyst lunio pwt byr i ddiolch i bawb am eu cenfogaeth ac annog eraill i ddarllen y rhifyn print cyntaf.

clawr Y STAMP.png

Er ein bod yn cyhoeddi’n wythnosol ar y we, roedd cael rhifyn yn bwysig i’r pedwar ohonom wrth ddatblygu Y STAMP, gan roi gofod pellach i ni hyrwyddo gwaith newydd, arbrofol ac/neu anghofiedig. Mae’r ymateb i’r rhifyn – sy’n cynnwys gwaith gan Menna Elfyn, Morgan Owen, Gwen Saunders Jones, Caryl Bryn, Caryl Angharad a Gareth Evans Jones – wedi bod yn galonnogol iawn, ac rwy’n bersonol yn falch bod pobol wedi ei fwynhau. Yn wir, cefais modd i fyw yn helpu gyda’r paratoadau, a mwynhau’r lansiad yn arw, gyda pherfformiadau gan Eurig Salisbury, Rhys Trimble, Bethany Celyn a Gwawn yn ei gwneud yn noson i’w chofio.

Mae’r gefnogaeth mae’r Stamp wedi ei dderbyn yn gyffredinol yn ANHYGOEL, ac rwy’n diolch o waelod calon i bawb am eu negeseuon text, e-byst, beth bynnag, caredig. A diolch hefyd i Grug, Iestyn a Llyr, am fy nghael yn rhan o brosiect hynod gyffrous a bod, nid yn unig yn gyfeillion, ond rhyw fath o deulu llenyddol i mi bellach.

prowd parents
Y teulu Stampus!

Cysylltwch â golygyddion.ystamp@gmail.com i brynu copi print – neu ewch draw i’r wefan i lawrlwytho copi PDF.

Rydym eisoes yn trio rhoi trefn ar y rhifyn nesaf, a fydd yn cael ei gyhoeddi ddechrau Gorffennaf, a pharhau i gyhoeddi ar y wefan – nid oes stop ar y Stampwyr!

http://ystamp.cymru / @ystampus

Cerdd: ‘Cerdd Wleidyddol am Gwtsho’ (Noson Torri Tir)

Cefais wahoddiad caredig oddi wrth Aneirin Karadog ac Elinor Wyn Reynolds i gymryd rhan, gyda Tudur Dylan, mewn noson farddonol yn y Warren, yng Nghaerfyrddin, 26ain o Ionawr. Afraid dweud, roedd hi’n glamp o noson dda, gyda bwyd blasus a magic tricks yn ogystal â’r cerddi. Gofynnwyd i mi lunio cerdd ar y thema ‘cwtsho’, ac fel rhywun sy’n meddwl gyntaf am bobol afiach sy’n gwneud pwynt o’ch cwtsho am ddim rheswm ac invadio eich personal space, yn hytrach na’r cwtshus lyfli gan bobol sy’n annwyl i chi, dyma’r gerdd a ddarllenais ar y noson:

Cerdd Wleidyddol am Gwtsho (neu ‘Cerdd Gwtshlyd am Wleidyddiaeth’)

Cwtsho yng nghesail
clamp o ddyn
a’th fyd
yn canu grwndi.

Dal yn dynn
am dipyn
cyn i wres y goflaid
yrru chwys oer
i lawr dy gefn.

Eith cwtsho’n
gyflym glostraffobig
â’r dyn mawr
yn gwrthod gadael
fynd.

A dyna tithau’n styc,
wedi’th dwyllo,
mewn clamp o gwtsh
sy’n dy wasgu’n
ddim.