Adolygiad: EP Bach – Bethan Mai

Mae Bethan Mai yn groten amryddawn – yn arlunydd (gweler pip o’i gwaith yma), yn actores a’n gantores. Gwisg ei het gerddorol am ei phen eto y tro hwn gan ryddhau ei EP solo cyntaf, Bach. Rwyf eisoes yn ffan o Rogue Jones, ac wedi gwirioni ar fywiogrwydd eu perfformiadau, a gwelwn awgrym o ddylanwad y band ar y traciau diweddaraf yma gan Bethan; yr un geiriau athrylithgar, ond sŵn gwahanol ac unigryw yn ei ffordd ei hun sydd gan Bach.

Dim ond tri thrac sydd yma i adael argraff ar y gwrandawyr ac mae hynny’n gyflwyniad teilwng i fyd breuddwydiol Bethan Mai. Mae’r trac agoriadol ‘Bach’ yn bedair munud o lafarganu heintus – ‘Bach hedyn bob mawredd / Bach bob dyn a dybiai hyn yn fawr’ – drosodd a throsodd, gyda haenau o dincian hudolus a synau cosmig yn tyfu wrth i’r gân ddatblygu. Mae’n eich tynnu i stad o hypnosis pur, cyn dadfeilio’n synau amrwd, metelaidd. Cynrychioli cwymp y dyn a’i ego, o bosib? Pwy a ŵyr, ond rhywbeth a wn yn sicr yw ei bod yn anodd, os nad amhosib, peidio â chlywed eich hun yn canu’r geiriau hyn am ddyddiau wedi gwrando arni.

I gymharu, mae’r ail drac, ‘Aderyn Pur’ yn dechrau gyda chanu lled-operatig ei naws, a’r synau sy’n gadarn yn hytrach na’r llais. Mae’n fy atgoffa o anthem genedlaethol yr Alban – neu bosib bod hi’n decach i’w chymharu i ‘St Andrew (The Battle is in The Air)’ o’r albwm Icky Thump gan The White Stripes –  gyda sain chwythbrennau-aidd ac awgrym o frwydr ar droed, cyn dilyn hediad up-tempo yr aderyn pur ar ffo.

Mae ‘Wedi Mynd’ yn funud a thamaid bach o hyd, ac yn ysbaid o dawelwch wrth gwt yr EP. Dyma wrthgyferbyniad ingol i fywiogrwydd ddwy gân arall a chyfle i Bethan dangos ei llais i gyfeiliaint gyda phiano.

Ydw i eisiau wmff bach arall cyn gadael yr EP hon? Yn syml: ydw. Mae tri thrac yn fyr iawn am EP, a deisyfaf fwy. Teitl-drac y casgliad yw fy ffefryn, y gwahoddiad i’r byd hynod hwn. Bydd hi’n gyffrous gweld i ble eith Bethan Mai nesaf yn dilyn Bach – boed hynny’n gwisgo’r het gerddorol neu un o’i hetiau eraill ar yr antur greadigol nesaf.

Prynwch Bach yma:
bethanmai.bandcamp.com

A chymerwch cipolwg ar fideo hudolus y sengl ‘Bach’, gan Ynyr Ifan, yma.
@bethan_mai | @RecordiauBlinc | https://recordiaublinc.com/

 

Advertisements

Adolygiad: Dadeni – Ifan Morgan Jones

Mae ‘gwleidyddol’ yn ansoddair sy’n cael eu latshio ar amryw gynnwys yn ddiweddar, heb fawr feddwl am ystyr nac arwyddocâd y gair. Drama ‘wleidyddol’ yw Byw Celwydd, er mai bywydau cythryblus y cymeriadau – soap opera style – sy’n llywio’r plot yn hytrach na’r datblygiadau gwleidyddol. Nofel ‘wleidyddol’ yw Dadeni, a chyhoeddwyd yn ystod cyfnod lle mae’r mwyafrif ohonom (neu bosib mai dim ond fi sydd felly) wedi cael hen ddigon ar y byd gwleidyddol sydd ohoni.

A bosib mai tric arall yw’r label ‘gwleidyddol’ wedi ei wthio i bob datganiad sy’n hyrwyddo’r nofel hon. Gwn o brofiad fod y byd gwleidyddol yn siŵr o gael mwy o groeso yng Nghymru na’r byd ffantasiol sy’n treiddio trwy Dadeni. Er mai’r Mabinogi yw tarddiad ein traddodiad rhyddiaith, ystâd bardd (a llenor) yw astudio byd, a thrwy bod yn onest a darlunio pethau fel y maent yn union mae gwneud hynny. Onid drwy bwysleisio darluniau cadarnhaol o Gymru, dathlu’r bröydd Cymraeg a’r bywyd cymunedol mae achub y genedl a’r iaith? Pa ddiben sydd i ddianc i fyd o freuddwydion? Dengys Dadeni i ni bwysigrwydd gwthio’r dychymyg dwtsh ymhellach a bod ffantasi’n gyfrwng cystal â phob un arall i drin a thrafod y Gymru sydd ohoni.

“Mae’r Cymry isio rhwbath newydd, rhwbath y gallan nhw gael eu dannedd iddo…”

Dilyna Dadeni hanes Joni Teifi a’i dad Bleddyn Cadwaladr, sydd wedi derbyn gwahoddiad i ddatrys dirgelwch pur annisgwyl yn Nhŵr Llundain. Yn ogystal â’r tad a mab, gwelwn hefyd ddigwyddiadau anhygoel y nofel hon o safbwynt Alaw Watkin AS a’r Insbector Isgoed Evans, sydd hefyd ar drywydd gelynion dirgel sydd eisiau cael eu bachau budron ar Y PAIR DADENI. Ydy, mae Y PAIR DADENI (sy’n llawn haeddiannol o’r prif lythrennau gorddramatig yn yr adolygiad hwn) yn dal i fodoli, yn arf gyda photensial mwy brawychus na’r un bom niwclear. Gyda dos go gref o realaeth hudol, dyma nofel antur sy’n eich tywys o gludwch Ddyffryn Teifi i Lundain ac yn ôl i bylloedd dyfnaf sawl math o fyd tanddaearol.

Mae’n anodd gwneud cyfiawnder â chryfderau’r nofel heb ddatgelu rhannau helaeth o’r plot, gan mai storïwr medrus yw Ifan Morgan Jones, yn plethu llinynnau storïol yn gelfydd ac atalnodi diwedd pob pennod â cliffhangers sy’n eich gadael yn ysu am fwy. Dilynwn y cymeriadau wrth iddynt dreiddio i fyd y Mabinogi a gweld sut rai fyddai’r duwiau petaent yn bodoli heddiw. Fe’m cyfareddwyd gan y syniad o’r cychwyn cyntaf, a gwelwn gymeriadau chwedlonol cyfarwydd ac anghyfarwydd yn dod i’r amlwg. Mae’r portread o’r Gwydion modern yn ei rôl newydd fel arweinydd sinistr yn bur ddiddorol, a’r ddelwedd o Efnisien fel Mr Blonde o Reservoir Dogs newydd yn drawiadol.

‘…deuthom yn ysglyfaeth i foderniaeth a chynnydd, yn adleisiau o orffennol tywyll, yn straeon i’w hadrodd o amgylch y tân…’ 

Wrth edrych ar weithiau ffantasi a ffuglen wyddonol yn y Gymraeg, mae’r mwyafrif ohonynt yn dibynnu ar geinciau’r Mabinogi yn rhan o’u naratifau, yn hytrach na chydnabod a thalu teyrgned i’w dylanwad. Seren Wen ar Gefndir Gwyn Robin Llywelyn yw’r unig eithriad yn hynny o beth, gan nad yw mwynhad y nofel honno, na’i dealltwriaeth, yn ddibynnol ar wybodaeth o’r chwedlau. Mae’n fodd o gynefino darllenwyr sy’n anghyfarwydd â stwff ffantasiol. Afraid dweud, o bosib, bod plot cyfan Dadeni yn ddibynnol ar y chwedlau cynnar, a cheir llawer o esbonio gan Bleddyn Cadwaladr ac Isgoed ynglyn â phwy yw pwy a’u cysylltiad gyda ble, sy’n ormod i rywun sydd eisoes yn adnabod eu Mabinogi yn lled dda.

Mae’r nofel hon, fodd bynnag, hefyd yn ymwybodol o’i lle mewn traddodiad o weithiau ffantasiol a ffuglen wyddonol Cymraeg, ac nid yn unig yn godro llaeth y Mabinogi i greu clamp o ysgytlaeth, ond yn tynnu ar themâu a motiffau sy’n codi mewn amryw o nofelau ffug-wydd eraill. Fel Pe Symudai y Ddaear D. Griffith Jones, mae’r ‘Steddfod Genedlaethol yn ganolbwynt i ddigwyddiadau dramatig, ac mae cyfeiriadau at Gymru Annibynnol 2033 yn nod amlwg i gyfeiriad Wythnos yng Nghymru Fydd Islwyn Ffowc Elis. Mae’r olygfa lle mentra’r cymeriadau i wlad y Bwca yn adlais o Tir y Dyneddon Tegla (sydd mwy neu lai yn ffug-wydd, at a pwsh). Gellid cyhuddo Dadeni o fod yn perthyn yn agos i Talu’r Pris Arwel Vittle – 17 mlynedd yn ddiweddarach, ac mae’r un ciciau cyson at ddifaterwch y Gymru ddatganoledig a’i system wleidyddol yn britho’r ddwy nofel.

dadeni2
Cefais flas ar ddarllen Dadeni mewn sawl man gwahanol…

Ar lefel bersonol, rwyf wedi gwirioni at ychwanegiad newydd a chyffrous i ganon ffantasi yn y Gymraeg. Ynghyd â hynny, mae’r tirlun cyfarwydd sy’n gynefin i Joni yn gyfarwydd i finnau hefyd, a gallaf weld lleoliadau amrywiol yn Nyffryn Teifi yn glir yn fy meddwl wrth ddarllen. Roeddwn hefyd wrth fy modd gyda chyfeiriadau at CKs a Sbar Llandysul, ac yn bwysicach na hynny, y takeaway agosa’ i ‘nghartref, Dan ei Sang.

Ond gan gamu’n ôl, a gwisgo sbectol wrthrychol amdanaf, mae yna wendidau na allaf mo’u hanwybyddu. Gwn y tociwyd cryn dipyn ar y nofel cyn ei chyhoeddi. Bosib, petawn yn olygydd, mi fyddwn wedi tocio ambell beth arall ac ychwanegu mwy o fanylion i liwio’r cymeriadau. Gorlwythog braidd o jôcs bach coeglyd yw deialog y cymeriadau, a bosib y byddwn wedi cynghori’r awdur i gadw rhai ohonynt yn eu priod le ar ei ffrwd Twitter. (PW, er enghraifft…) Ac i fod yn ddi-flewyn-ar-dafod o onest, storïwr yw Ifan Morgan Jones, nid awdur deialog. Byddai cryfhau’r ddeialog yn talu ar ei ganfed, gan y byddai hefyd yn ychwanegu at y cymeriadau.

Perthnasau real, heb yr un owns o ramant na cliche yn perthyn iddynt sydd rhwng cariadon a theuluoedd Dadeni. Mae’r dechrau trawiadol yn herio’r norm heteronormadol (i ddefnyddio’r termau posh) a hir oes i’r chwa o awyr iach hynny. Er, caf drafferth dod o hyd i’r glud sy’n denu’r cymeriadau amrywiol at ei gilydd yn bartneriaid yn y lle cyntaf. Be sy’n cadw Isgoed gydag Eli, yn enwedig? Beth yn union oedd rhwng Joni a Iaco? Pam fod Alaw yn caniatau camdriniaeth cyson Derwyn? Er bod y chwedlau sydd wedi gwreiddio yn y tir yn taro tant, pethau digon simsan a di-ddim yw’r cymeriadau modern ar adegau.

Ac eithrio Alaw.

Ei stori hi yw’r un a’m swynodd. Er bylchau yn y wybodaeth a rannwyd am ei gorffennol, mae gweld ei dadrithiad ar ddechrau’r nofel yn drawiadol, wedi gadael ei huchelgais gyrfaol achub y blaen ar ei hegwyddorion, cyn ei gweld yn magu hyder wrth i bethau droi i’w phlaid eto… Er mai Joni Teifi a’i rôl yn yr helfa oedd ffocws y nofel, gweithredoedd Alaw a’m adawodd yn rhyfeddu’n geg agored wrth ddarllen.

“Mae’r byd yn newid. Mae pobol wedi cael llond bol o dueddiadau dinistriol cyfalafiaeth neo-ryddfrydol oruwchgenedlaethol. Maen nhw am weld blaenoriaethau pethau a gwerth gwirioneddol…’

Oedd, roedd gwthio’r label ‘wleidyddol’ wrth hyrwyddo’r nofel yn risg. Nid yw trafod gwleidyddiaeth yn y Gymraeg yn newydd – onid yw dewis llenydda yn y Gymraeg yn weithred wleidyddol ta beth? Y broblem – os problem hefyd – gyda nofelau a dramâu ‘gwleidyddol’ yn y Gymraeg yw eu bod yn dueddol o gadarnhau’r hyn rydym yn ei wybod ac yn ei gredu yn barod. Tic mawr i Blaid Cymru, a bwww i’r dinasoedd, gan ein hanfon yn ein hôlau i greu cymunedau cyd-weithredol yn Y Fro Gymraeg wledig, a nemor dim sôn am y canolbarth na’r ardaloedd wrth y ffin.

Fodd bynnag, mae tro yng nghynffon yr her wleidyddol hon i’w darllenwyr, gyda ffydd mewn ffyrdd newydd ac adeiladu pontydd a thwneli yn hytrach na welydd yn greiddiol i’r stori antur hynod ddarllenadwy hon.

I mi, dechreubwynt yw’r nofel hon. Dechrau temtio pobol i symud oddi wrth realaeth wrth lenydda, a gweld potensial i ledu neges bwysig drwy’r genre ffantasi. Tybiwyd i Islwyn Ffowc Elis wneud y gwaith caib a rhaw a chyflwyno’r Cymry i ffuglen wyddonol, ond mae gwaith i’w wneud i gryfhau presenoldeb y genre mewn trafodaethau llenyddol. Mae ‘na Gymry glân, gloyw hefyd yn gwirioni ar Game of Thrones, chmod.

Mi fyddaf yn holi Ifan Morgan Jones mewn sesiwn yng Ngwyl Arall, am 3 yng Ngerddi’r Emporiwm, 8 Gorffennaf 2017. Dewch!

gwyl arall1

 

Adolygiad: Er Cof, Perfformiad Myfyrwyr Adran Theatr, Ffilm a Theledu Aberystwyth

Cefais wahoddiad yn ddiweddar i fynychu perfformiad myfyrwyr israddedig, cyfrwng Cymraeg yr Adran Theatr, Ffilm a Theledu, yn Stiwdio Emily Davies, ac roeddwn yn chwilfrydig, wedi cael dim ond cyflwyniad bras o’r cysyniad, i ddarganfod mwy am Er Cof.

er-cofDisgrifiwyd y perfformiad ‘hir-oddefol’ (eep, am ddisgrifiad brawychus!) fel te cnebrwng, wrth i’r cast o chwech ladd amser yn siarad am y byd a’i bethau. Er bod y perfformiad yn chwe awr o hyd, roedd rhyddid i’r gynulleidfa fynd a dod, ac roedd y perfformiad hefyd yn cael ei ffrydio’n fyw ar y we. Yn yr ystafell lle perfformiwyd y ddrama, roedd llwyfan fechan yng nghanol y llawr, â môr o bapurau gwynion ag arnynt eiriau perthnasol o’i amgylch. O’r to, crogai feicroffon, gan roi cyfle i’r chwe llances, yn eu tro, i gamu i’r llwyfan a dweud eu dweud, gan ateb cwestiwn wedi ei ysgogi gan air arbennig.

Bûm yno am oddeutu awr a hanner ar ddechrau’r perfformiad, cyn gorfod gadael (am fy mod yn mynychu Noson Llen a Chan yr Adran Gymraeg)… ac er cael ofn yr ansoddair ‘hir-oddefol’, pan gyrhaeddais yno ac eistedd, dod i arfer a’r cysyniad, roeddwn yn gyndyn iawn o adael. Er mai darnau pytiog o ddeialog rhwng dau yn eu tro – un yn holi, y llall yn ateb – oedd y perfformiad, roeddwn yn crefu i ddysgu mwy am fywydau’r chwechawd, er nad dyma berfformiad ag iddi stori na chymeriadau, fel y cyfryw.

Roedd rhannau o’r perfformiad yn wirioneddol ddoniol. Weithiau, dyfynnwyd pytiau o Rownd a Rownd a Pobol y Cwm, a spotiais ar un copi o House of America, ac roedd nifer o gyfeiriadau eraill nad oeddwn wedi eu hadnabod – a rhaglen-er-cofhynny yn yr awr a hanner digon byr y bûm i yno. Ar adegau eraill, cyflwynwyd scenarios bizarre – roedd un ohonynt yn cadw bag o gachu ci a oedd wedi marw yn y wardrob ac un arall yn ceisio’u gorau i flendio mewn i’r gymdeithas er ei bod hi’n frenhines – ac ambell i ateb real a chignoeth – honnodd un nad oedd hi’n hoff o blant a’u cwestiynau diddiwedd, ac un arall yn dadlau nad oedd ‘Steddfod yn ‘Steddfod heb borfa. Roedd Meleri Morgan, yn enwedig, yn hynod o ddoniol, ac yn cydio yn y meicroffon a’i feddiannu’n llwyr. Dyma ferch y dymunwn weld yn mynd i fyd stand-up, achos roedd hi ganwaith yn fwy doniol na Tudur Owen a Daniel Glyn wedi’u rhoi at ei gilydd.

Afraid dweud, roedd rhai o’r cast yn fwy cysurus nag eraill wrth gamu ar lwyfan, fodd bynnag, am berfformiad gan griw o fyfyrwyr, roedd yn hynod uchelgeisiol, ac, o’r hyn a welais, yn hynod lwyddiannus hefyd. Cymerais gip olwg ar y ffrwd byw, ac mae’n rhaid dweud, un fantais i’r gynulleidfa oedd yn ei wylio ar hwnnw oedd cael gweld y geiriau – wedi’u stampio’n goch dros y sgrin – a bigwyd o’r papurau ar lawr. Roedd hynny’n anffodus yn cael ei golli wrth wylio’r perfformiad yn y cnawd.

Fodd bynnag, chwe awr o hormones naturiol, dylanwadau perthnasol a meddyliau gang ifanc o ferched mentrus a direidus, ac mi wnes ei fwynhau’n arw. Diolch i griw’r Adran Theatr, Ffilm a Theledu am gyflwyno profiad theatrig newydd – un yr hoffwn weld mwy ohono yn y dyfodol.

*Defnyddiwyd lluniau cyfrif Twitter @perfformiadercof a’u gwefan.

Adolygiadau: HMS Morris, Bendith a The Gentle Good, Radio Cymru

Cefais wahoddiad yn fy ôl, ar y cyd gyda Gethin Griffiths (Sôn am y Sîn), i adolygu tair albwm arall ar raglen Lisa Gwilym ddydd Mercher diwethaf (2il o Dachwedd). Mae’r rhaglen dal i fod ar gael i wrando arni os wasgwch chi yma, fodd bynnag, dyma hefyd bwt o air am bob un o’r albymau.

hms-morrisInterior Design – HMS Morris

Petai Andy Warhol wedi gwthio’i weithiau pop-art amryliw i beiriant ‘troi-celf-yn-gerddoriaeth’ (dwi’n siwr fod y fath beth yn bod erbyn hyn…) caneuon HMS Morris fyddai’n dianc o geg y peiriant. Rwyf eisoes yn ffan anferthol o lais anhygoel Heledd Watkins, wedi fy hudo’n llwyr ganddi a’r band wedi eu gweld yn fyw sawl tro bellach, ac nid yw’r albwm wedi siomi. Mae’n dal agwedd cool a quirky’r band i’r dim, ac yn gymysgfa chwareus o bop unigryw, gan eich tywys ar fordaith hudolus.

‘Interior Design’ yw fy ffefryn ymysg y casgliad, a’r geiriau’n gwneud hwyl ar ben ffug-hapusrwydd dosbarth canol a’r ysfa am bethau materol. Ond gwneir hynny mewn ffordd tongue-in-cheek a heb dynnu sylw’n ormodol at y peth, na chwaith fod yn bregethwrol. Traciau eraill sy’n serennu yw’r ‘Gormod o Ddyn’ iasol ac ingol. Mae yna apel eang i’r albwm, a themau global yn cael eu trafod – efallai nad oes fawr ddim yn Gymreig am yr albwm oni bai am iaith un o’r traciau, ond maent yn wahanol, yn unigryw, ac mae hynny i’w groesawi.

Yr unig beth sydd yn siom, i ryw raddau, yw bod y rhan fwyaf o’r caneuon yn gyfarwydd eisoes. Ydw, dwi’n beirniadu haelioni’r band am rannu traciau o flaen llaw – ac yn rhad ac am ddim – ar eu tudalen SoundCloud. Mae Shipping Forcast, er enghraifft, sy’n agor y casgliad, yn drac a glywais am y tro cyntaf tua thair, pedair blynedd yn ôl, ac felly dwi’n meddwl y byddai ei hepgor ddim wedi gwneud cam gyda’r albwm. Serch hynny, dwi, fel rhyw fath o super ffan, yn edrych ymlaen yn arw at weld be sydd ganddynt i’w gynnig nesaf.

 

Danybanc – Bendith

bendith-album

Gyda delwedd wledig a rhamantaidd ar glawr yr albwm hon, synnais mai trac o’r enw ‘Dinas’ oedd yn agor yr albwm… a synnais hefyd naws sinister, synhwyrus oedd yn perthyn iddi. Ond, heb os, roedd yn sioc ar yr ochr orau.

Mewn byd arall, ni fyddai prosiect ar y cyd gan Carwyn Ellis o Colorama a thriawd teuluol Plu wedi gweithio, ond mae hon yn taro’r nodyn iawn. (Ymddiheuriadau am y pun gwael!) Mae traciau megis ‘Mis Mehefin’ (ffefryn, gyda lleisiau pur a phersain Elan a Marged wedi fy hudo a’m brawychu gyda’r trac hwn) ac ‘Angel’ yn arddangos harmonïau hyfryd Plu-aidd eu naws.

‘Danybanc’ yn ôl pob sôn, yw ffocws creadigol yr albwm, a chredaf fod hynny’n biti i ryw raddau, gyda’r trac yn syml iawn, iawn (effeithiol, ac wedi bod yn boblogaidd) a thraciau eraill yn ei chuddio a’i boddi yng nghanol y cwbl i ryw raddau. Byddwn wedi hoffi clywed mwy o’r trac ‘Y Gyfrinach’, ac yn honno mae’r elfen offerynnol ar ei gryfaf.

Nitpicky yw cyfaddef hyn, a dyma hefyd bwynt sydd wedi codi cyn hyn, yw’r broblem o glywed y Gogleddwyr yn canu geiriau Deheuol. Mae’n rhywbeth sy’n denu sylw’r glust yn syth, ac yn swnio fymryn yn chwithig. Efallai, os oes gobaith am ail albwm, bod modd trosi geiriau i siwtio’r cantorion yn well? Serch hynny, dyma fand rwyf ar dan i weld yn y cnawd wedi clywed yr albwm a chlywed pawb yn canu’u clodydd wedi eu taith fer o’r wlad.

the-gentle-good-adfeilionRuins / Adfeilion – The Gentle Good

Mae’n rhaid i mi gyfaddef o’r cychwyn cyntaf na fyddwn, o reidrwydd, wedi rhuthro allan i brynu’r albwm hon oni bai fy mod yn gorfod ei hadolygu. Dim byd yn erbyn Gareth Bonello a’i gerddoriaeth, mater o chwaeth bersonol. Fodd bynnag, wedi gwrando ar hon, mae hi’n sicr yn ddilyniant teilwng i’w albwm hynod lwyddiannus, Y Bardd Anfarwol.

Teimlais, i ryw raddau, er mwyn adolygu’r albwm ac ymgolli’n llwyr yn naws drist a thywyll rhai o’r caneuon, bod rhaid i mi ganolbwyntio. Nid oedd hon yn albwm roeddwn yn gallu ei rhoi ymlaen yn y cefndir a pharhau gyda fy ngwaith o ddydd i ddydd fel y medrais gyda HMS Morris a Bendith. Roedd hon yn mynnu – ac yn haeddu – gwrandawiad astud. Roedd yn brofiad eithaf intense (rwy’n gweld tebygrwydd naturiol gyda cherddoriaeth 9Bach), ond rwy’n falch iawn i mi ymdrechu i wneud.

Er nad cantor mohonof fy hun, roedd cyfoeth o haenau offerynnol yn perthyn i nifer o’r traciau, ac roeddwn wedi rhyfeddu’n llwyr. ‘Ruins / Adfeilion’ yw perl yr albwm i mi. Mae’r piano dramatig yn fy atgoffa o drac sain ffilm noir ddramatig, ac mae ychwanegu recordiadau o stormydd, ac ar ambell i bwynt, adar, yn drawiadol tu hwnt. Er ei bod chwe munud o hyd, byddwn wrth fy modd yn eistedd a gwrando ar hon fel sengl hefyd, yn ddarn ar ei phen ei hun.

Ffefrynnau eraill oedd ‘Pen Draw’r Byd’ (mae ei ddeuawd yntau gyda Georgia Ruth yn asio’n berffaith) a ‘Rivers of Gold’. Mae potensial bardd yn perthyn i Gareth Bonello ar adegau, a dymunaf, gyda geiriau yn arf naturiol iddo, ei weld yn ennill Coron rhyw ddydd! Fy hoff gan, o safbwynt y geiriau, oedd ‘Y Gwyfyn’: ‘Hoffwn nabod y nos fel gwyfyn… Rhydd i grwydro’r byd heb ffiniau / Tan bod golau ar y gorwel pell.’ Rwyf hefyd wedi gwirioni gyda’r gwaith celf ar y clawr, ac wedi bod yn ddigon hy i’w fenthyg ar gyfer banner dop y post hwn!

Felly, mae gennyf ddiolch mawr i Lisa Gwilym a’i chriw am fy ngwahodd i wrando ar dair glamp o albwm dda, a darganfod hen ffefrynnau a darganfod artist o’r newydd.

stiwdio

Adolygiad: ‘Merch yr Eog / Merc’h an Eog’ ac ‘A Good Clean Heart’

Dwy ddrama, pump iaith, ac un adolygydd…

Y mis hwn, denwyd y byd i theatrau Aberystwyth, wrth i ddwy gynhyrchiad amlieithog gyda’r Gymraeg yn greiddiol iddynt alw’n y dre. Wedi cyfnod o ymarfer yng Nghanolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth, dechreuodd gynhyrchiad Cymraeg, Llydaweg a Ffrangeg y Theatr Genedlaethol a Teatr Piba, Merch yr Eog / Merc’h an Eog ei thaith yno, ac mae A Good Clean Heart, drama gyntaf Neontopia, yn tynnu at ddiwedd ei thaith o Gymru.

Er, ar yr olwg gyntaf, nad oes gan y naill ddrama ddim tebygrwydd i’r llall, gwelwn Merch yr Eog ac AGCH yn trafod themâu cyfoes am rol y Gymraeg mewn byd amlddiwylliannol. Serch y syniadau hynny, roedd Merch yr Eog / Merc’h an Eog – a welais ar ei hail noson yn Aberystwyth ar y 6ed o Hydref – yn chwedlonol ei naws, gydag ymddangosiad cymydog ag eog yn anrheg i brif gymeriad y ddrama, Mair (a chwaraewyd gan Lleuwen Steffan) yn uchafbwynt dramatig. Gan chwarae gyda’r syniad fod y gair ‘eog’ ac ‘euog’ yn debyg, cyflwyna’r ddrama – sy’n addasiad o sgript wreiddiol gan Owen Martell ac Aziliz Bourges – bicil Mair, wrth iddi wynebu ffarwelio â fferm deuluol o bellter ei bywyd newydd yn Llydaw gyda’i chariad Loeiza (Loeiza Beauvir). Gwelwn stori am barchu gwreiddiau, ble bynnag y bo’ch yn y byd.

Gyda chraig anferth – sy’n trosi’n ystafell wely ogof-aidd yn ddiweddarach yn y ddrama – ar wely tywod ar lwyfan, gwelwn bob cymeriad yn gadael ei farc unigryw ar feddwl cythryblus Mair wrth droi o amgylch y cnewyllyn hwn yn y canol, dan gyfarwyddyd medrus Sara Lloyd a Thomas Cleroac. Teithia’r ddrama o de cnebrwng yng nghefn gwlad Cymru i spa foethus yn Llydaw ac mae’r gwahaniaethau cynnil rhwng y ddwy wlad, y ddau gwmni a’r ddau gyfarwyddwr yn pwysleisio’n effeithiol yr hyn sy’n dal Mair reit yn y canol. Serch hynny, teimla rhai o’r golygfeydd – y breuddwydion absẃrd, yn bennaf – fymryn allan o le, ac maent yn tarfu rhyw fymryn ar y golygfeydd gonest a theimladwy. A oedd yna le i’r ddau fyd asio’n un, o bosib, neu hepgor y breuddwydion yn llwyr?

Clywn lawer o gwyno am Sibrwd hefyd; nad oedd y dechnoleg yn gweithio fel y dylai. Roedd hi, rhaid cyfaddef, yn brofiad rhyfedd, ar ddechrau’r ddrama, gweld pawb yn tanio’u ffonau symudol yn hytrach na’u diffodd. Fodd bynnag, yr hyn a fwynheais fwyaf – gyda’r ap yn sibrwd yn fy nghlust dde – oedd clywed y Llydaweg ar lwyfan gyda fy nghlust chwith a chymharu geiriau Cymraeg gyda geirfa ein cefndryd Celtaidd. Ar adegau, roedd y ciwiau ar yr ap fymryn yn broblematig, gydag ambell un yn torri ar draws ei gilydd, ond dwi’n amau mai problem ‘dechrau-taith’ oedd hynny.

merch-yr-eog-action
Merch yr Eog. Llun gan Kirsten McTernan. (Oddi ar dudalen Facebook y Theatr Genedlaethol)

Tensiynau rhwng y Gymraeg a’r Saesneg sy’n dod i’r amlwg yn A Good Clean Heart, wrth i Hefin, a fagwyd gan deulu mabwysiedig yng Nghymru, fentro i Lundain i gyfarfod ei frawd, Jay, am y tro cyntaf, gan gwestiynu’i hunaniaeth Gymraeg gyfforddus. Wedi adolygiadau ffafriol iawn yn sgil perfformiadau yng Ngŵyl Ffrinj Caeredin, roeddwn wedi bod yn aros yn eiddgar i weld hon, a bûm yn Arad Goch, Aberystwyth, ar y 13eg o Hydref i’w gweld.

Defnyddiwyd is-deitlau wedi eu celu’n gynnil yn rhan o’r orsaf fysiau sy’n ffurfio’r set, gyda sgrin hefyd wedi ei flendio i mewn i’r set hwnnw, ac roedd hi’n ddifyr gweld y penderfynwyd trosi’r ddeialog Saesneg i’r Gymraeg hefyd, er y byddai nifer yn barod i ddweud nad oedd hynny’n angenrheidiol. Roedd bwrw golwg ar yr is-deitlau a’r cyfieithiadau o bryd i’w gilydd, serch hynny, yn arddangos y gwahaniaethau bychain rhwng y ddwy iaith. Dwy iaith, un fodolaeth yn y Gymru ddwyieithog, lle welwyd cyfle i chwarae a dadansoddi gan Neontopia, sef cwmni’r gyfarwyddwraig Mared Swain a’r dramodydd Alun Saunders.

Dechreua’r ddrama gyda choreograffi trawiadol, rhywbeth sy’n parhau drwy gydol y ddrama – gydag un olygfa ddigri o’r ddau frawd a’r ffo. Er mai dim ond dau actor, Oliver Wellington a James Ifan, a welwn ar lwyfan, mae’n rhaid i’r ddau addasu yn eu tro i chwarae rôl eu mam a’i phartner hefyd, a hynny mewn modd clir a ddi-ffws. Gwirionais ar hiwmor ysgafn y ddrama, er bod sefyllfa’r ddau frawd yn eithriadol o drist. Mae llythyr y Jay ifanc yn ffarwelio gyda’i frawd yn arbennig o deimladwy. Pentyrrir digwyddiadau annisgwyl yn A Good Clean Heart, gan arwain at sawl uchafbwynt dramatig, ac mewn dwylo dramodydd llai medrus, mi allai fod wedi ymddangos ychydig yn OTT. Serch hynny, roeddem oll y noson honno’n aros yn eiddgar i weld pa syrpreis arall roedd gan stori Jay a Hefin i’w gynnig.

a-good-clean-heart
Llun gan Aenne Pallasca. Oddi ar dudalen Facebook Neontopia.

Yr hyn a’m trawodd gyda’r ddwy ddrama oedd y defnydd o dechnoleg; nid yn unig dibyniaeth rhai aelodau o’r gynulleidfa i ddeall y ddeialog, ond y modd y defnyddir technoleg sy’n rhan o’m bywydau bob dydd ar lwyfan, a hynny heb iddo edrych yn od nac yn chwithig. Defnyddia Hefin a Jay Facebook chat ar lwyfan, gan adrodd eu sgwrs wrth ein bod yn ei weld ar sgrin. Fodd bynnag, un o nodweddion mwyaf trawiadol Merch yr Eog oedd sgyrsiau Skype Mair a’i brawd, Rhys (Dyfan Dwyfor). Roedd y ddelwedd doredig o Rhys ar y sgrin, ag yntau’n diflannu a cholli’r cysylltiad o bryd i’w gilydd, yn cyfleu cyfrolau, ac yn pwysleisio’r pellter daearyddol ac emosiynol rhwng y brawd a’r chwaer.

Yr hyn a brofais, dros yr wythos ddiwethaf, oedd dwy ddrama a ddangosodd fod y profiad Cymraeg yn ymestyn tu hwnt i ffiniau daearyddol, a bod lle, ar lwyfan, i arbrofi a mynegi perthynas y Gymraeg a Chymry gyda gwledydd, ieithoedd a diwylliannau eraill.

View the English version of this review here.

Review: ‘Merch yr Eog / Merc’h an Eog’ and ‘A Good Clean Heart’

Two plays, five languages and one reviewer…

This October, the world seems to have visited Aberystwyth, with two multi-language performances, both with Welsh an integral part of them, appearing. Following their rehearsal period in Aberystwyth Arts Centre, Theatr Genedlaethol and Teatr Piba’s Merch yr Eog / Merc’h an Eog (The Salmon’s Daughter) began it’s tour of Wales, England and Brittany, whilst A Good Clean Heart, Neontopia‘s first full length production, is drawing to the end of it’s tour of Wales.

Although it might not look as if either have anything in common at first glance, we see both Merch yr Eog and AGCH placing the Welsh language in a multi-cultural context. Despite modern and global ideas, Merch yr Eog / Merc’h an Eog – which I saw on its second night in Aberystwyth, on the 6th of October – has a mythical dimension, with its dramatic climax appearing in the unlikely guise of a neighbour presenting protagonist Mair (played by Lleuwen Steffan) with a salmon as a gift. The title is a play on words, with ‘eog’ (salmon) and ‘euog’ (guilty), both similar words in Welsh, and the play, based on original work by Owen Martell and Aziliz Bourges, presents Mair’s conundrum, faced with selling the family farm in Wales from her privilaged position in Brittany with her lover, Loeiza (Loeiza Beauvir).

On stage, a striking rock, which transforms into a cave-like bedroom at a later stage in the play, is the nucleus, placed on a bed of sand. As each character leaves his or her mark on Mair’s troubled psyche, they circle this rock, under the subtle direction of Sara Lloyd and Thomas Cleroac. The play wizzes from a funeral tea in rural Wales to a luxurious spa in Brittany, and the subtle differences between the two countries and cultures, the two companies and both directors, emphasises Mair’s situation, torn between two homes. Despite this, some scenes – the dream sequences, for example – seem slightly out of place, and don’t flow as seemlessly as they should. They inturrupt the honest and heart-felt communications between Mair and her family, and they could easily be cut, or perhaps better integrated with the rest of the events.

There has also been complaints regarding Sibrwd; that the technology didn’t work as it should. It has to be said, watching the audience, at the beginning of the play, switching on their phones rather than switching them off, was a strange experience. However, I personally enjoyed listening to the Breton dialogue on stage with one ear – and listening out for words similar to Welsh ones – whilst being kept informed by Sibrwd in the other. However, some of the queues were a little off, and some inturrpted others, but I’m guessing – and do hope – that these were merely teething problems.

merch-yr-eog-action
Merch yr Eog. Picture by Kirstin McTernan. Taken from Theatr Genedlaethol’s Facebook page.

The bilingual tensions in A Good Clean Heart derive from Hefin, a teenager adopted as a child by Welsh-speaking middle class parents, who ventures to London to meet his biological brother, Jay, for the very first time, questioning his comfortable upbringing along the way. Following many five star reviews and a successful run during the Edinburgh Fringe, I had been excited to see this play for a while, and went along to Arad Goch, in Aberystwyth, on the 13th of October to watch the play.

Subtitles – perhaps now old fashioned! – were used during the play, but blended in to the bus-stop that was the main focus of the set. Also in the well-fashioned bus stop was a subtly placed screen, used to project images and dialogue throught the play. Interestingly, Neontopia opted to translate the English dialogue into Welsh too, in what some would argue was a pointless move. What became apparent, by peeping at the subtitles from time to time, was that subtle differences in translation highlighted Neontopia’s aim as a company. Both director Mared Swain and playwright Alun Saunders see ample opportunity to play with and analyze the bilingual aspect of Welsh life; studying two languages, but one existence for Hefin.

The play begins with striking choreography, and the movement continues so throught AGCH, with one comical ‘getaway’ scene in particular springing to mind. Although only two actors, Oliver Wellington and James Ifan, remain on stage throughout, they also turn efficiently to portray their mother and her partner. I was charmed by the humour of the play in particular, despite the situation being tinged with sadness. A young Jay’s heartfelt letter to his brother is a particularly poignient moment, almost bringing a tear to one’s eye. Unexpected twists and turns are piled up during the performance, and in the hands of a less-abled playwright, they could have been slightly OTT. However, it became clear that the audience remained on the edge of their seats throughout, unaware of the many surprises of Jay and Hefin’s story.

a-good-clean-heart
A Good Clean Heart. Image by Aenne Pallasca. From Neontopia’s Facebook page.

One aspect of both plays which I thoroughly enjoyed was the use of technology – and not as an audience member reliant on it – but of its use on stage. Hefin and Jay used Facebook chat on stage, both reading and displaying their messages to each other, and it didn’t feel forced or, for want of a better word, naff. Merch yr Eog in particular excelled with it’s use of Mair’s Skype conversations with her brother Rhys (Dyfan Dwyfor). Rhys’ images was projected on screen, but fragmented, his voice often dissappearing with the attrocious connection. Highlighted is the geographical and emotional distance between the two siblings.

This past month in Aberystwyth, the stage seems to be an appropriate space to explore Welsh’s relationship with the world. Without a doubt, there is further scope to do so, and it’s an interesting step forward for Welsh-language theatre.

‘Lleuwen, Llydaw a Chymru’, Barn, Hydref 2016.

Dechrau mis Medi, a hithau ond megis dechrau ei chyfnod o ymarferion yng Nghanolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth, es i gyfarfod â’r gantores Lleuwen Steffan, a’i chyfweld ar gyfer cylchgrawn Barn. Mae hithau’n chwarae’r brif ran yng nghynhyrchiad y Theatr Genedlaethol a Teatr Piba, Merch yr Eog / Merc’h an Eog, sydd bellach ar daith. Cawsom sgwrs ddifyr am ei chysylltiadau gyda Llydaw (sy’n holl bwysig iddi) a’i phrofiad yn dysgu’r Llydaweg.

barn
Clawr y rhifyn cyfredol, Rhifyn 645.

Gyda’r fath gysylltiad ac angerdd tuag at y Llydaweg, gellid dweud ei bod yn ddewis naturiol ar gyfer rôl Mair yn y ddrama dairieithog. Am y tro cyntaf, bydd gofyn i’r gynulleidfa Gymraeg ei hiaith ddefnyddio Sibrwd i ddeall rhannau o Merch yr Eog, ac mae Lleuwen ei hun wrth ei bodd bod y dechnoleg hynny’n teithio dros y môr i Lydaw, er mwyn cynorthwyo Teatr Piba, sy’n amlach na pheidio yn perfformio i gynulleidfaoedd nad yw’r mwyafrif ohonynt yn deall y Llydaweg.

Mae’r cyfweliad cyfan i’w weld yn y rhifyn cyfredol o Barn.

//platform.twitter.com/widgets.js

*Mae hawlfraint y llun oddi ar poster Merch yr Eog / Merc’h an Eog a ddefnyddiwyd uchod yn perthyn i’r Theatr Genedlaethol.

Adolygiadau: Geraint Jarman, Ffug a Rifleros, Radio Cymru.

Yr wythnos hon, roeddwn ar raglen Lisa Gwilym nos Fercher, 14/8, yn adolygu tair albwm newydd gan Geraint Jerman, Ffug a Rifleros. Dyma bwt byr am fy argraffiadau o bob un ohonynt. Gallwch wrando ar y raglen eto drwy glicio yn y fan hon.

Tawel yw’r Tymor – Geraint Jarman

jarman

Ar y gwrandawiad cyntaf – gyda gitâr acwstig ‘Fi yw’r Ffwl’ yn agor y casgliad – cefais sioc ar fy nhin, a siom, i ryw raddau. Y tro cyntaf i mi wrando ar ‘Tawel yw’r Tymor’, ni ddaeth yr un anthem i’n sylw.. Gallwn glywed dylanwad Gareth Bonello yn amlwg, gydag yntau wedi bod yn cyd-weithio gyda Jarman ar yr albwm hon… a theimladau cymysg oedd gennyf am hynny i ddechrau.

Fodd bynnag, wedi gwrando eto ac eto, mae ymdeimlad acwstig yr albwm yn arbennig, gyda phennod newydd arall yng ngyrfa’r bardd-gyfansoddwr yn dod i’r amlwg. Daw’r ddelwedd o hen gowboi i’r meddwl wrth wrando ar yr albwm, a hwnnw’n edrych yn ôl ar ei orffennol. Mae ‘Plis Mr. Parsons’ yn enwedig yn adleisio’r fath o gerddoriaeth y disgwyliwch mewn ffilm western. Ar y trac hwn mae’r yodels yn arbrawf lleisiol fymryn yn absẃrd yn fy marn i!

Mae lleisiau hudolus y chwiorydd Jarman hefyd yn gweddu’n hyfryd at naws ‘Tawel yw’r Tymor’. Rhaid cyfaddef, nad wyf erioed wedi clywed ‘Trwy ddulliau chwyldro’n unig mae llwyddo yn awr’ wedi ei ganu mewn modd mor swynol fel y mae ar deitl-drac yr albwm, ‘Tawel yw’r Tymor’. Nid yn unig hynny, ond wrth wrando’n astud, mae traciau – er hwy oll yn dawel – yn arbrofion. Maent yn arbrofion nad ydynt yn tynnu sylw at eu hunain, ond sylwn ar naws werinol ‘Tawel yw’r Tymor’ a chlywed yna gweddi dyner ‘Dwy Law Ynghyd’. Serch bob arbrawf, mae’r casgliad yn rhyfeddol o dynn, ac mae’n bleser i wrando arni i gyd.

Ymhlith fy hoff draciau mae ‘Porno Lladin’ – trac ag iddi odl amlwg yn ei geiriau, yn creu can-storiol, sy’n fy atgoffa o stwff Tenecious D (cymhariaeth gymharol annisgwyl!) – a hefyd ‘Helo Hiraeth’, sy’n cynnwys Griff Lynch – a chan mwy melodig, hawdd-i-ganu-ynghyd. Mae ‘na elfen dadol braidd, i’r modd y ymuna Geraint Jarman yng nghytgan y gân hon, gan gymryd yr awenau oddi ar Griff Lynch. O’r traciau i gyd, y ddau hyn yw’r rhai gallaf eu dychmygu’n cael eu canu mewn cyngerdd gan y dyn ei hun, ac o bosib mae fy marn wedi ei lywio gan fy mhrofiad o’i weld ar ei orau yn Eisteddfod Meifod.

Mae’r ansoddair ‘tawel’ yn nheitl yr albwm hon wedi ein rhybuddio’n ddigon clir na fydd anthemau mawrion arni. Fodd bynnag, mae’r naws hwn yn gadael i ni glywed llais Jarman o’r newydd.

7/10

 

Ffug

ffug

Rhaid cyfaddef fy mod i eisoes yn ffan mawr. Mae eu ffresni a’u gonestrwydd wedi apelio ataf o’r cychwyn cyntaf, byth ers iddynt ddod i frig Brwydr y Bandiau sawl blwyddyn yn ôl erbyn hyn.

I ryw raddau, Ffug yw stroppy teens y sin gerddorol Gymraeg o hyd – ond nid peth negyddol mo hynny o gwbwl. Gan atgyfodi ysbryd pync bandiau eiconig yr 1970au a’r 80au, mae eu caneuon yn diferu o angst. Fodd bynnag, fel y sylwyd sawl adolygydd o ‘mlaen, mae eu caneuon Cymraeg yn cynnig mwy i’r gwrandäwr na’u caneuon Saesneg, (er bod natur ddwyieithog i bob un o’r traciau, mewn gwirionedd.) Mae gan Iolo Selyf digon i ddweud am y Gymru Gymraeg sydd ohoni, ac mae hynny i’w deimlo yn y caneuon Cymraeg. Mae geiriau ‘Love is Stupid’ fymryn yn blentynnaidd i gymharu – er bod y gerddoriaeth a’r gitâr heintus yn y cefndir yr un mor fachog â’u caneuon eraill. ‘Time Takes Lives’, yw’r gwanaf o’r traciau, am ei fod fymryn yn felodramatig, gan geisio dweud pethau mawr – er, dwi’n lico’r synau fel lightsabers gofodaidd sy’n y cefndir.

 

Gan fod yr albwm wedi bod ‘in the making’ cyhyd, mae nifer o’r caneuon yn gyfarwydd – yn wir, mae Tywydd Garw wedi bod yn un o staples setiau byw Ffug ers y dechrau. Daw eu datblygu fel hyn ar hyd y blynyddoedd a haenau newydd iddi – ac mae hi’n swnio’n wych ar yr albwm hon. Y trac olaf, ‘Upside Down’, a ddechreua gyda bloeddiadau cyn arafu’n ddisymwth, gyda Iolo Selyf yn canu am gerdded am ganrifoedd sydd wedi fy swyno, yn fwy na’r un trac arall. Dyma finnau eisiau mynd ar y daith hudolus hon gyda’r Ffug. Yn yr un modd, mae ‘Byth yn Stopio’ yn dilyn patrwm tebyg, gan fod yn drac wallgo-wyllt, cyn toddi’n gybolfa seicadelig. (Cofiwn ‘Weindiwch y tap yn ôl i siarad gyda Iesu’ ar y trac ‘Llosgwch y Tŷ i Lawr’ oddi ar yr EP.)

Gyda chlawr anhygoel gan (artist Dude Looks Like a Welsh Lady) yn coroni’r cwbwl, dwi ond yn gobeithio bod Crymych yn ymwybodol mai’r Ffug yw’r peth mwya’ cyffrous sydd wedi dod o’r dref erioed… ac eithrio cwmni loriau Mansel Davies, wrth gwrs.

9/10

 

Am be ti’n aros? – Rifleros

riflerosCwyd Rifleros o lwch Creision Hud/Hud gynt, ac mae ei steil roc-blues yn bur debyg i stwff y band blaenorol. Maent – i mi – wedi dod allan o nunlle, ac wedi mynd ati (wedi un sengl) i greu albwm yn syth bin. Penderfyniad dewr i fand heb enw ar sin eto, ond mae hynny, o bosib, yn deillio o’r ffaith na ryddhawyd albwm gan Creision Hud/Hud erioed. A chyda hynny, teimlaf mai ‘band newydd boi Hud’ yw hon, nid albwm y Rifleros.

Dechreua’r albwm gyda chwestiwn herfeiddiol, ‘Os ‘na’i roi bys yn y tan, nei di’r un fath?’, gan ein twyllo gydag intro tawel i gan fywiog. Dwi’n tapio ‘nhroed gyda nifer o’r traciau – ‘Yr Ochr Arall’, er enghraifft – ond does yna’r un peth sydd wedi fy syfrdanu na chwaith wedi fy siomi gyda’r albwm. Mae’n iawn. Berffaith iawn. A does gyda fi fawr o ddim arall i’w ddweud. Efallai ei fod yn annheg ei gymharu gydag albwm Ffug, ond fe gydiodd eu cerddoriaeth yn fy nychymyg a fy nhywys ar daith… nid yw Riflerso wedi cydio ynof a’m swyno yn yr un modd.

Nid oes yna’r un ‘waw’ yn syth, ond dydw i ddim yn cwato ‘nglustiau chwaith. Iawn de – a bydd hi’n ddiddorol gweld i taith band a ddechreuodd gydag albwm o’r cychwyn cyntaf.

6.5/10

Adolygiad: ‘Cymru Fydd?’, Plaid Cymru

‘Bydd y cyfnod nesaf i Gymru’n mynnu ein bod mor greadigol a dyfeisgar ag erioed o’r blaen – rhaid i ni nawr fod yn barod i ddychmygu dyfodol gwell i Gymru.’

Dyma alwad Leanne Wood wrth gyflwyno’r gyfrol Cymru Fydd?, e-gyfrol newydd a lansiwyd gan Blaid Cymru yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Mae gan y blaid hanes hir o gyhoeddi gweithiau creadigol. Wedi’r cwbl, cyhoeddwyd nofel ffuglen wyddonol Islwyn Ffowc Elis, Wythnos yng Nghymru Fydd, ganddynt yn 1958, ynghyd â chyfrol o straeon byrion gan awduron amrywiol, Storïau’r Deffro yn 1958, a nifer o bamffledi barddonol yn ystod y blynyddoedd. Gyda Saunders Lewis yn un o sylfaenwyr y blaid, nid oes rhyfedd i fwrlwm llenyddol fod yn rhan greiddiol o’u gweithgarwch.

Gwelwyd angen yn ein cyfnod cythryblus i Blaid Cymru ddathlu doniau eu cefnogwyr creadigol unwaith eto. Mae’r e-gyfrol Cymru Fydd? yn cynnwys darnau amrywiol; ysgrifau, cerddi, cyfweliad, stori fer a darluniau trawiadol. Egyr y casgliad gydag ysgrif gan Mike Parker yn galw am annibyniaeth i Gymru, a gosodir naws gweddill y gyfrol. Gwelwn hynny drwy waith amryw o artistiaid gweledol, sydd wedi eu cyfosod gyda’r darnau llenyddol. Heb os, mae’r gelfyddyd gan Swci Delic, Iwan Bala, Marian Delyth, Ruth Jen a Rhys Aneirin yn lliwio’r gyfrol ac yn ychwanegu’n drawiadol at y darnau ryddiaith. Mae ‘I Fy Nhad’ Carwyn Evans ymhlith fy ffefrynnau, gyda’r darlun yn dangos tudalen gyda’r geiriau ‘To My Father and the Land of My Fathers’ arni wedi’i blygu’n gelfydd i greu bocs, sy’n edrych fel anrheg sy’n barod i’w agor.

 

‘Sut oedd datgan fod coed yn tyfu’n gryfach heb fod yng nghysgod ei gilydd?’

Un o’r darnau a chafwyd gryn argraff arnaf yw’r pwt o stori fer ‘Annibyniaeth’ gan Manon Steffan Ros. Ceir tro clyfar yng nghynffon y stori a darlunnir ei neges yn gynnil, heb fynd ati i bregethu. Ynghyd â hynny, daw ysgrif Jon Gower, ‘Daw Dydd Bydd Mawr y Rhai Bychain’, o’r galon, gan gymharu ei genedlaetholdeb tanbaid yntau, gyda’r darlun gan Ifor Davies o dri Benyberth uwch y lle tân, gyda theimladau mwy syber ei frawd, Alun, sy’n cefnogi tîm rygbi Cymru o’i gartref yn Essex. Gwêl yntau, fel Leanne Wood yn y cyflwyniad, le blaenllaw i awduron wrth fynd ati i greu ideoleg cenedlaethol, ond gwêl hefyd werth datblygiadau bychain, megis codi tal o 5c ar fagiau plastig a chodi treth ar ddiodydd meddal. Pwysleisir dathlu’r pethau bychain yr ydym fel cenedl yn ei wneud yn hanfodol i ddatblygu hunaniaeth genedlaethol.

Mae cyfweliad diddorol gydag Eddie Ladd hefyd yn un o drysorau’r gyfrol, lle trafodai ei gobeithion am drafod annibyniaeth a’i weld fel cyfle i fod yn eofn ac yn hyderus. Mae cerddi cywrain gan Elis Dafydd, Eurig Salisbury, Menna Elfyn a Mike Jenkins yn britho’r gyfrol, ac mae cerdd Alys Conran o fam yn gobeithio am fywyd gwell, mewn Cymru well, i’w mab, wedi aros yn y cof.

 

‘Efallai na fyddwn fel hyn am byth,

ac y daw trefn i geulo’n gwaed.’

Yr hyn yr wyf yn ei fwynhau fwyaf yw dwyieithrwydd y gyfrol – darnau Cymraeg a Saesneg ochr yn ochr, a phob un o’r llenorion yn dyheu am Gymru well. Cyfieithwyd y darnau Saesneg yn fedrus i’r Gymraeg gan Mari Siôn. Mae ‘Leaving the Relationship’ (ynghyd â chyfieithiad cyfatebol, ‘Gadael y Berthynas’) gan Jasmine Donahaye yn taro tant yn fwy na dim arall. Cyflwyna’r ysgrif Cymru fel cymar mewn perthynas ansefydlog, yn cael ei cham-drin a’u bychanu’n ddiddiwedd.

‘In an abusive relationship, no matter how damaging and
disempowering, you don’t seek separation or autonomy, because
you are afraid of what it would entail. Your partner tells you – and
you internalise the message and make it your own belief – that
you are not capable or strong enough to look after yourself: you
are unworldly, inexperienced; you lack the skills, characteristics
and resources you need to make it on your own. Above all you are
not a worthy enough person for your own needs and desires to be
taken seriously.’
 
Dyma ysgrif bwerus, sy’n galw ar Gymry – boed hwy wedi mabwysiadu’r wlad neu wedi byw yno erioed – i fagu hunan-hyder o’r newydd a chreu ei pherthynas ei hun gyda Lloegr, nid derbyn y drefn a orfodwyd arni eisoes. Yn wir, mae’r thema honno yn rhedeg drwy’r casgliad yn ei chyfanrwydd; y ffordd ymlaen felly, yn ôl llenorion ac artistiaid y gyfrol? I Gymru a’i phobol, mae magu hyder a sefyll ar ei thraed ei hun a thrafod cenedlaetholdeb yn ôl ei thelerau ei hunain.

Fodd bynnag, fe’m synnwyd – a siomwyd, i raddau – gan gynllun retro’r clawr, sy’n adleisio hen gloriau o’r 1970au. Efallai mai cwyn fymryn yn bitw yw hwn (gan gofio, wrth gwrs, fod gennyf ddiddordeb personol mewn cymruddyfodoliaeth a ffuglen wyddonol), ond nid oes yr un o’r cyfranwyr yn mentro’n bell iawn i ddisgrifio Cymru Fydd. Maent yn ddigon parod i ddangos ysfa i weithredu ond ni wnaeth yr un ohonynt ddychmygu sut le y byddai’r Gymru honno y maent yn ei ddeisyfu.

Mae ein hartistiaid yn parhau i wneud cyfraniad hanfodol i’r mudiad cenedlaethol ac rwy’n eithriadol o ddiolchgar iddynt am hynny,’ mynna Leanne Wood, ac mae Cymru Fydd? yn dyst i hynny. Gobeithiaf wir mai dechrau cyfres yw’r gyfrol, ac ein bod ar fin gweld Plaid Cymru yn cryfhau ei pherthynas gyda llenorion ac artistiaid Cymru yn y dyfodol.

*Mae’r gyfrol ar gael drwy wefan Plaid Cymru.*

Adolygiad: Alun Gaffey, Barn

Daw un o fy hoff albymau cerddorol eleni oddi wrth Alun Gaffey, a dyma ei gyntaf fel artist unigol. Ysgrifennais adolygiad ar yr albwm ar gyfer Barn, ac mae hi bellach yn y rhifyn cyfredol (Rhifyn 642/3). Wedi ei labeli fel ‘space funk’, mae’n drac sain addas iawn i’r rhai sy’n hoff o gymruddyfodoliaeth, gyda thraciau fel ‘Jupiter Gravity’ yn (pardon the pun!) serennu.

Dyma flas o’r adolygiad:

adolygiad ag