Adolygiad: ‘Cymru Fydd?’, Plaid Cymru

Adolygiad: ‘Cymru Fydd?’, Plaid Cymru

‘Bydd y cyfnod nesaf i Gymru’n mynnu ein bod mor greadigol a dyfeisgar ag erioed o’r blaen – rhaid i ni nawr fod yn barod i ddychmygu dyfodol gwell i Gymru.’ Dyma alwad Leanne Wood wrth gyflwyno’r gyfrol Cymru Fydd?, e-gyfrol newydd a lansiwyd gan Blaid Cymru yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Mae gan y […]

Adolygiad: Alun Gaffey, Barn

Adolygiad: Alun Gaffey, Barn

Daw un o fy hoff albymau cerddorol eleni oddi wrth Alun Gaffey, a dyma ei gyntaf fel artist unigol. Ysgrifennais adolygiad ar yr albwm ar gyfer Barn, ac mae hi bellach yn y rhifyn cyfredol (Rhifyn 642/3). Wedi ei labeli fel ‘space funk’, mae’n drac sain addas iawn i’r rhai sy’n hoff o gymruddyfodoliaeth, gyda […]

Adolygiad: Anian – 9Bach

Adolygiad: Anian – 9Bach

Dyma’r adolygiad diweddaraf a ysgrifennais ar gyfer Y Selar, yn adolygu Anian, albwm newydd 9Bach. Heb os, doedd ei chrynhoi mewn 200-250 o eiriau ddim yn gwneud cyfiawnder gyda hi! Mae’r adolygiad hefyd i’w weld yn rhifyn mis Mehefin 2016. Wedi llwyddiant ysgubol Tincian llynedd – yr albwm Gymraeg gyntaf i gipio gwobr yr albwm […]

Adolygiad: IV – Cowbois Rhos Botwnnog, Barn

Adolygiad: IV – Cowbois Rhos Botwnnog, Barn

Cefais gyfle i adolygu albwm hudolus Cowbois Rhos Botwnnog i Barn, rhifyn Ebrill 2016. Dyma’r adolygiad:

Adolygiad: Yn y dechrau… – Y Trwbz

Adolygiad: Yn y dechrau… – Y Trwbz

Cyhoeddwyd yr adolygiad yma o albwm gyntaf Y Trwbz yn rhifyn Awst 2015 o gylchgrawn Y Selar, a chefais hefyd gyfle i gyfweld Morgan Elwy, un o aelodau’r band. Darllenwch hwnnw yma. Albwm gyntaf fentrus sydd gan enillwyr Brwydr y Bandiau C2 2014, Y Trŵbz, i’w gynnig i ni. Mae cân gyntaf yr albwm, ‘Yn […]

Adolygiad: Albwm Endaf Gremlin

Adolygiad: Albwm Endaf Gremlin

Cyhoeddwyd yr adolygiad hwn yn wreiddiol yn rhifyn Tachwedd 2014 Y Selar. Albwm cyntaf y ‘super group’ Cymraeg – o’r diwedd! – ac mae’n ddifyr gweld y felys gybolfa o synau mae cymysgfa o aelodau Sibrydion, Candelas, Cowbois Rhos Botwnnog, Yr Ods a Racehorses yn eu cyflwyno i ni. Dwy anthem hafaidd sy’n agor y […]

Adolygiad: Cysgod Cyfarwydd – Mellt

Adolygiad: Cysgod Cyfarwydd – Mellt

Dechrau’r haf, addewais ysgrifennu  mwy o adolygiadau… ac o’r diwedd, dyma’r un gyntaf! Cefais gyfle i gyfweld Mellt ar gyfer cylchgrawn Y Selar yn gynharach eleni, (Cliciwch yma i’w ddarllen ar-lein.) ac mae’r pedwarawd o Ysgol Penweddig sydd eisoes yn wynebau hen gyfarwydd yn nhref Aberystwyth wedi cael cryn dipyn o lwyddiant gyda’u EP cyntaf. Rhyddhawyd […]

Adolygiad: ‘Y Meirw Byw yn meddiannu’r Babell Lên!’, Gwyddonias

Adolygiad: ‘Y Meirw Byw yn meddiannu’r Babell Lên!’, Gwyddonias

Cyhoeddwyd yr adolygiad hwn yn wreiddiol ar flog IAS, 13 Awst 2014. Mewn sawl ffordd, mae’n beth da iawn na ddaeth awdl Aneirin Karadog i’r brig yng nghystadleuaeth y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Dinbych 2013. Byddai cadw’r fath gasgliad rhwng cloriau’r Cyfansoddiadau a Beirniadaethau yn gwneud cam â cherddi ffres a chyfoes o’r fath. Diolch […]