Conference: CRSF 2017, Liverpool

*Cymraeg isod*

This year, I had the incredible experience of presenting a paper at the Current Research in Speculative Fiction Conference. Held at Liverpool University, I had previously attended last year, but this was the first paper I’d presented there.

‘Rebuilding the Nation: Welsh-language Post-apocalyptic Fiction 1964-2009’ introduced work by D. Griffith Jones, Cliff Bere, John Idris Owen and Lloyd Jones, discussing them in light of the two Welsh referendums. Whilst Pe Symudai y Ddaear (1964) encapsulates the ‘nationalist euphoria’ of the 1960s, the more sombre tone of Pennod yn Hanes Milwr (1981) and Y Ty Haearn (1984) reflect the apocalyptic effect of the first unsuccessful referendum in 1979. Y Dŵr by Lloyd Jones in 2009, in stark contrast, warns against the danger of complacency in the globalised society, despite the creation of the Welsh Assembly following a marginal win in the 1997 referendum.

I was touched by the response to my presentation, and the questions I was asked has led to new paths in my research – so thank you to all who offered suggestions and comments! I hope to either record or publish the paper very soon.crsfIt was a pleasure to attend so many interesting panels with a variety of topics discussed, and also to meet new friends from all over the UK and beyond. The keynotes were both excellent this year, with the second keynote by Dr Robert Maslen of Glasgow University, ‘The Politics of Celtic Fantasy in Children’s Fiction of the 30s and 40s’, especially relevant to my own research.

As well as the conference, I also spent a little afternoon wandering the city. I had never been to the Docks before, despite having visited Liverpool several times in the past. An inspirational visit to the TATE Gallery, where seeing Tracey Emin’s My Bed first hand was a personal highlight, means I’ve returned to my desk this week inspired and full of new ideas.

my bed


Yr wythnos diwethaf, fynychais gynhadledd ‘Current Research in Speculative Fiction’ ym Mhrifysgol Lerpwl i gyflwyno papur ar lenyddiaeth ôl-apocalyptaidd yn y Gymraeg. Cafodd y papur ymateb gwych a chodwyd nifer o gwestiynau perthnasol. 

Mwynheais y ddwy brif ddarlith gan Dr Bernice Murphy a Dr Robert Maslen – yr ail yn enwedig, a hwnnw’n trafod gwleidyddiaeth mewn enghreifftiau o lenyddiaeth Geltaidd i blant. Dychwelaf at fy nesg yr wythnos hon yn llawn syniadau newydd – syniadau ymchwil a chreadigol! 

 

Advertisements

Erthygl: ‘Missing: Poetry in Future Wales’ – Poetry Wales

I was recently invited to write an article regarding the relationship of Welsh-language science fiction and poetry to a ‘Future / No Future’ themed issue of Poetry Wales. Noticing a lack of Welsh-language SF poetry, I considered how poetry and the poet was portrayed and discussed in Welsh-language fiction. The article discusses worlds where writing poetry, cynghanedd specifically, is undertaken by machines, age-old poets have disappeared in dystopian futures, and music appears the only playing field where both SF and poetry collides.

The issue is out now, filled with incredible poets, including a Scottish Gaelic poem by Harry Giles and others. Perfect Bank Holiday weekend read!

poetry wales

Cefais wahoddiad yn ddiweddar i lunio erthygl i Poetry Wales, dan y thema ‘Dyfodol / Dim Dyfodol’, gan ‘sgrifennu am rôl barddoniaeth mewn cyd-destun ffuglen wyddonol. Digon prin yw barddoniaeth ffuglen wyddonol yn gyffredinol, heb son am yn y Gymraeg – cafwyd hyd i dim ond un gerdd o’r fath! Fodd bynnag, mae barddoniaeth yng Nghymru’n rhywbeth sy’n cael ei drafod mewn modd ddiddorol o fewn naratifau ffuglen wyddonol, gyda’r gynghanedd yn cael ei fewnbynnu i geg peiriant a beirdd yn diflannu heb i neb sylwi. 

Teimlir ar adegau nad oes gan lenorion ffuglen wyddonol fawr ddim i ddweud wrth feirdd, ac i’r gwrthwyneb, nad oes fawr o ddiddordeb gan y beirdd fentro i fyd ffuglen wyddonol! Cerddorion megis Alun Gaffey a Gwenno Saunders yw’r unig rai sy’n chwarae rhwng y ddau fyd, a thrafodir hynny’n fanylach yn ‘Missing: Poetry in Future Wales’.

Mae’r erthygl – sydd ymhlith gwledd o gerddi – yn y rhifyn diweddaraf, ac ar gael i’w phrynu nawr. 

 

Ymchwil: Cyfrannu at yr Esboniadur Beirniadaeth a Theori

Cefais wahoddiad i gyfrannu dau gofnod at adnodd newydd a greuwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, dan olygyddiaeth Simon Brooks. Heb os, mae’n adnodd amhrisiadwy i unrhyw un sy’n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ac o bosib, yn cael trafferth gael gafael ar ffynonellau drwy gyfrwng yr iaith. Mae pob cyfnod yn cynnwys llyfryddiaeth ddethol a defnyddiol, ac yn help mawr at fathu termau, sydd ar adegau, yn gallu bod yn anghyson yn y Gymraeg.

Lluniais innau gofnodion yn bwrw golwg ar y genre gwyddonias yn gyffredinol (Gwyddonias) a chofnod byr am syniadau’r ddyfodolwyr (Dyfodolaeth). Ac os oes gennych ddiddordeb yn y rheini, byddwch hefyd am weld cofnod Elidir Jones, o flog Fideo Wyth, yn trafod y genre ffantasi.

Mae’r Esboniadur yn dal i dyfu ar hyn o bryd. Cliciwch yma i weld beth sydd yno eisoes a chadw llygaid ar yr hyn sydd i ddod.

Trafodaeth: ‘Blas ar ymchwil Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd’, Eisteddfod Genedlaethol

Yn ôl eu harfer, mae stondin Prifysgol Aberystwyth ar faes yr Eisteddfod yn cynnal nifer o ddigwyddiadau amrywiol. Dwy flynedd yn ôl bellach, cefais gyfle i sgwrsio am fy ngwaith gyda Mihangel Morgan (fy nghyfarwyddwr ymchwil ar y pryd) – roeddwn yn nerfus iawn ar y pryd, ond roedd yn bendant yn brofiad gwerthfawr, a dwi dipyn fwy hyderus yn trafod fy ngwaith yn gyhoeddus ers hynny.

BudUEZiIgAICxfv

Eleni, rwy’n cadeirio panel gyda thri o fyfyrwyr eraill yr Adran Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, yn trafod ein gwaith ymchwil. Rydym oll yn gwneud pynciau hollol wahanol, felly bydd hi’n drafodaeth ddifyr! Fi fydd yn arwain awr o sgwrs gyda Marged Tudur, Endaf Griffiths a Heledd Llwyd, a rhannu sut rydym ni’n pedwar wedi manteisio ar y cyfle i parhau gyda’n astudiaethau yn yr adran yn Aberystwyth.

Felly, dewch i ddysgu mwy am ffuglen wyddonol yn y Gymraeg, barddoniaeth T. Llew Jones, cerddoriaeth farddonol a’r defnydd o’r Gymraeg yn y trydydd sector gyda ni’n pedwar.

Cynhelir y sesiwn  ar ddydd Gwener yr Eisteddfod (5/8) am 2.30 o’r gloch, ym mhabell Prifysgol Aberystwyth.

@CymraegAber / @CelticAber

Erthygl: ‘Sut ofod oedd y dyfodol?’, O’r Pedwar Gwynt

O'r pedwar gwynt llun

Ar ôl hir ymaros, mae cylchgrawn newydd O’r Pedwar Gwynt bellach yn ein siopau llyfrau leol ac yn fyw ar y we. Wedi bod wrthi’n porti drwy’r cynnwys sydd rhwng y cloriau deniadol, rwyf bellach yn edrych ymlaen yn arw at lansiad y cylchgrawn ddydd Mercher, ar stonding Prifysgol Bangor ar faes yr Eisteddfod.

Rwy’n hynod gyffrous i weld erthygl o’m eiddo innau yn y cylchgrawn, sef ‘Sut ofod oedd y dyfodol?’ Cefais wahoddiad i drafod agwedd o’m gwaith ymchwil, a phenderfynais, gan ystyried syniadau Hywel Teifi Edwards, edrych ar yr ymdrech bwriadol gan lenorion ffuglen wyddonol – a fwrw golwg yn benodol ar E. Tegla Davies, Islwyn Ffowc Elis a Mihangel Morgan – i fynd â’r iaith i fydoedd newydd a’i gwthio i drafod pynciau anghyfrwydd.

llun o'r pedwar
(h) @PedwarGwynt

Mae’n anrhydedd ei weld ochr yn ochr ag un o ysgrifau Islwyn Ffowc Elis, ‘Mynd i’r Lleuad’, a diolch mawr i griw O’r Pedwar Gwynt am eu cefnogaeth, rhwng y broses olygu a chael bod yn rhan o drafodaeth yng Ngŵyl Arall, mae hi wedi bod yn brofiad gwych cyfrannu at rhifyn cyntaf erioed y cylchgrawn.

Pob lwc i O’r Pedwar Gwynt – mae hi wedi bod yn anodd trio peidio a gwneud puns am y ffaith ei fod yn chwa o awyr iach!

 

Trafodaeth: ‘Sbês is ddy plês’, Gŵyl Arall

Roeddwn wedi edrych ymlaen at fentro i Ŵyl Arall yng Nghaernarfon ddydd Sul diwethaf (10/7) i drafod gwyddonias a’r Gymraeg – ac ni chefais fy siomi. Cynhaliwyd trafodaeth ddifyr, gydag Angharad Price yn cadeirio, gan adael i mi drafod ffuglen wyddonol yn y Gymraeg yn gyffredinol, ac yna’n holi Robin Owain, mab y llenor amryddawn, Owain Owain, am Y Dydd Olaf, ei nofel ffuglen wyddonol nodedig. (Cofiwch ei fod ar gael i lawrlwytho yma.)

Roedd hi’n galonogol gweld cymaint wedi dod i wrando ac i gefnogi. A theimlaf wrth fy modd bod gymaint o ddiddordeb gwirioneddol gyda phobol i drafod ffuglen wyddonol yn y Gymraeg bellach.

gwyl arall fi

Trefnwyd y sesiwn i hyrwyddo rhifyn cyntaf O’r Pedwar Gwynt, sy’n cael ei lansio a’i ryddhau ar ddydd Mercher yr Eisteddfod Genedlaethol yn Y Fenni eleni. Mae gennyf erthygl ‘Sut ofod yw’r dyfodol? Gwyddonias a’r Gymraeg’ wedi ei gynnwys, sy’n gweld patrwm yn y modd y mae llenorion (gan edrych yn benodol ar E. Tegla Davies, Islwyn Ffowc Elis a Mihangel Morgan) yn ymateb i drafod materion gwyddonol yn y Gymraeg.

Felly, diolch i O’r Pedwar Gwynt am drefnu’r sesiwn, ac i Gŵyl Arall am y croeso cynnes. Diolch hefyd i Angharad Price am gadeirio, ac i Robin am rannu mwy am weledigaeth Owain Owain wrth lunio’r nofel Y Dydd Olaf a chynnig mewnwelediad diddorol iawn i’w waith.

jasmine a mike

Yn ogystal â mynd wedyn i fynychu sesiwn lle’r oedd Mike Parker yn holi Jasmine Donahaye am ei chyfrol Losing Israel (sydd bellach ar fy rhestr hirfaith o ‘Lyfrau Dwi Eisiau Darllen’), treuliais y prynhawn wedyn yn crwydro Castell Caernarfon – gan ei bod hi’n bellach yn braf erbyn hynny!

caernarfon

Diwrnod diwylliedig iawn ar y cyfan!

Hysbys Trafodaeth: ‘Sbês is ddy plês’, Gŵyl Arall

o'r pedwar gwynt

Dydd Sul, rwy’n cymryd rhan mewn panel ‘Sbês is ddy plês: Gwyddonias a’r Gymraeg’ yng Ngŵyl Arall, Caernarfon. Mae’n rhannol seiliedig ar erthygl gen i fydd yn ymddangos yn rhifyn cyntaf y cylchgrawn.

Bydd y drafodaeth yn cael ei chynnal am 10.30 bore Sul, yng ngardd Palas Print, gydag Angharad Price a Robin Llwyd ab Owain a finnau yn bwrw ati i edrych ar ffuglen wyddonol yn y Gymraeg. Swotiwch eich copi electronig o Y Dydd Olaf, a dewch draw!

@PedwarGwynt / O’r Pedwar Gwynt

 

Cynadledda: Cynhadledd Coleg Cymraeg, Gregynog & CRSF 2016, Lerpwl.

Mae’r adeg hon o’r flwyddyn yn un brysur am gynadleddau bob tro, a chefais wythnos brysur yr wythnos ddiwethaf.

Cynhadledd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

gregynog

Fy nghynhadledd cyntaf oedd cynhadledd flynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Fel un sydd wedi bod yn ffodus i dderbyn fy ysgoloriaeth ymchwil oddi wrth y Coleg Cymraeg, rwyf wrth fy modd bod pob un o ddeilliaid yr ysgoloriaethau yn gallu dod at ei gilydd bob blwyddyn.

Eleni, cawsom sesiynau dysgu ac addysgu effeithiol gyda Kelly Young ar y dydd Iau, ac heb os fydd y tips a ddysgais o fudd mawr i mi wrth fynd ati i baratoi darlithoedd a seminarau. Ar ddydd Gwener y gynhadledd, cawsom wledd o bapurau amrywiol, gan ddysgu mwy am bynciau difyr drwy gyfrwng y Gymraeg.

Ynghyd a hynny, mae’r gynhadledd yn cael ei chynnal yn Neuadd Gregynog, golygfa godidog  (er, mae rhai o’r ystafelloedd gwely yn… retro…)

gwely gregynoggwely gregynog 2

Cynhadledd Current Research in Speculative Fiction

Dechrau’r wythnos ddiwethaf mi fynychais fy ail gynhadledd, sef cynhadledd myfyrwyr ôl-raddedig, Current Research in Speculative Fiction, yn Lerpwl. Nid oeddwn yn ymwybodol tan eleni am fodolaeth y gynhadledd hon, nac yn gwybod am gynhadledd Speculative Fiction Research Assosiation (SFRA), sy’n cael ei chynnal wedi’r CRSF. Yn anffodus, dim ond ar wibdaith diwrnod yr oeddwn yn gallu bod yn Lerpwl, ond cefais flas aruthrol ar wrando ar sesiynau’r amryw o gyfrannwyr yn ystod y diwrnod, a gobeithio caf gyfle i fynychu’r gynhadledd gyfan y flwyddyn nesaf. Roeddwn yn genfigennus ofnadwy fy mod wedi gadael wrth ddilyn ffrwd Twitter #SFRA2016.

Mae mynychu’r gynhadledd wedi fy nghyflwyno at wybodaeth am fwy o gynadleddau tebyg – ac rwyf wrth fy modd yn cyflwyno’r syniad o ffuglen wyddonol drwy gyfrwng y Gymraeg, i ambell un oedd yn synnu fod yna’r fath beth a ‘native Welsh speaker’ yn bod!

Ac wrth gwrs, manteisiais ar y cyfle tra ‘mod i’n Lerpwl i alw heibio’r hen Cavarn Club, un o’r llefydd cyntaf i The Beatles berfformio slawer dydd.

cavarn club

…a mentro i ambell i siop tra ‘mod i yno!

Dwi wedi mwynhau cynadledda’n ddiweddar… ond mae’n hen bryd i mi ddychwelyd at y gwaith caled a bwrw ati gyda’r ymchwilio.

13595533_10154356580824853_1806150344_n

Rwyf ar banel yn trafod ffuglen wyddonol a dyfodolaeth yng Ngŵyl Arall, Caernarfon yr wythnos nesaf – bydd mwy o flogbyst ar y ffordd. 🙂

Cynadledda: Cynhadledd Cymdeithas Myfyrwyr Celtaidd – Galway, Iwerddon.

IMG_5464

Eleni eto, fynychais Gynhadledd Cymdeithas Myfyrwyr Celtaidd Prydain ac Iwerddon, ar y 9fed a’r 10fed o Ebrill ym Mhrifysgol Galway yn Iwerddon.

Dysgodd Ffion a finnau o camgymeriad y llynedd, a phenderfynu mynd i Iwerddon tridiau cyn y gynhadledd er mwyn cael cyfle i grwydro, gan ein bod eisiau manteisio ar y cyfle tra’n bod wedi teithio mor bell.

Nid oeddwn yn cyflwyno papur eleni – gadawais i fy nghyd-deithwyr, Ffion a Hanna, wneud ar fy rhan! Serch hynny, roedd hi’n wyliau a chynhadledd i’w chofio.

Crwydro

Wedi i ni setlo yn yr apartment lle’r oedd y tair ohonom yn aros, y peth cyntaf ar yr agenda oedd mynd ar drip i weld yr ardal gyfagos. Roeddwn wedi gobeithio mynd ar gwch i Ynysoedd Arran (ger lle ffilmiwyd Father Ted), ond yn anffodus roedd y gwyntoedd cryfion wedi ei gwneud hi’n anodd i gychod deithio draw yno!

Aethom ar drip bws o amgylch yr ardal yn lle hynny, gyda tywysydd doniol a difyr iawn yn mynd â ni i Gastell Dunguaire yn Kinerva, beddrod Kilfenora, ciniawa a phrynu ffyj yn Doolin, cyn mynd i weld chlogwyni rhyfeddol Moher.

IMG_5522

Ar yr ail ddiwrnod, aethom i grwydro dinas Galway. Heb os, dinas hynafol hynod o brydferth – ac yn un, gyda’i bwytai a thafarndai lyfli (O’Connors, yn Salt Hill, yw’n hoff le newydd) a thrigolion cyfeillgar. Er bod y tywydd yn ddiflas, aethom i ymweld a PHOB peth a oedd yno: gan gynnwys  Castell Lynch (sydd bellach yn fanc), Ffenest Lynch, cartref Nora Barnacle a oedd yn wraig ac yn awen i James Joyce, Eglwys St Nicholas, Neuadd y Iarll Coch, Amgueddfa y Glannau a’r Spanish Gate (tynnwyd y llun isod ohomo o’u blaenau gyda’r selfie stick, er mawr cywilydd!)

IMG_5627

Cynadledda

Er ein bod wedi blino’n lân ar ôl yr holl grwydro, roedd y gynhadledd yn dechrau’r noson honno, gyda noson gymdeithasol! Cawsom gyfle i gyfarfod ffrindiau hen a newydd… a chael ambell beint bach, wrth gwrs.

IMG_5683

Y Gynhadledd ei hun, felly: isod, dyma Hanna, ben bore, a Ffion, gyda’r prynhawn, yn traddodi eu papurau. Cyflwynodd Hanna ei gwaith ymchwil yn trafod y ‘bilingual catch up’ tra dangosodd Ffion portreadau beirdd yr ugeinfed ganrif am atynfa’r ddinas, a’i effaith ar gefn gwlad.

IMG_5695IMG_5711

Heb os, roedd hi’n gynhadledd lle ddysgais lawer am amryw o bynciau yn ymwneud â’r ieithoedd a’r diwylliant Celtaidd. Gyda’r nos, cawsom noson gymdeithasol arall – gyda swper o fwyd Jamaicaidd blasus iawn! – i drafod yr hyn roeddwn wedi ei weld a rhannu straeon.

IMG_5771

Penderfynwyd ar ddiwedd y prynhawn olaf o bapurau mai Glasgow fydd lleolaid y gynhadledd nesaf – ac rwyf eisoes yn edrych ymlaen at grwydro a chynadledda flwyddyn nesa’ eto!

Diwrnod yng Nghymru Fydd

Wel, mae hi wedi bod yn anodd cyfarwyddo â dychwelyd i’r presennol eto ar ôl diwrnod penigamp yn ein fersiwn ni o Gymru Fydd dydd Sadwrn diwethaf (27 Tachwedd 2015).

image

Fel Ifan Powel, mentrom oll i fydoedd newydd ac archwilio’r Gymru Fydd, a hynny drwy sgyrsiau a chyflwyniadau amrywiol, hwy oll yn defnyddio cyd-destunnau dyfodolaidd fel sbardun i’r drafodaeth.

Yn rhan o’r diwrnod, cefais gyfle i gadeirio panel a oedd yn cynnwys Elidir Jones, Ifan Morgan Jones a Gareth Llyr Evans, a bwrw ati i drafod llenyddiaeth ffuglen wyddonol. Nid yn unig yr oeddwn yn edrych ar y traddodiad ffuglen wyddonol a ffantasi yn Gymraeg ac archwilio sawl agwedd o’r traddodiad hwnnw, ond roeddwn yn holi pam nad oedd yn genre poblogaidd yng Nghymru.

Mae Radio Beca eisoes wedi rhoi’r sesiwn hon ar eu gwefan – cliciwch yma i wrando – yn ogystal â chyflwyniad Bleddyn Bowen, ‘Economi Wleidyddol y Gofod’, a oedd yn esbonio potensial unrhyw ymgyrch ofodaidd yng Nghymru.

Cyn hynny, clywon gyflwyniad arbennig Elizabeth LaPensee, ‘Healing Historical Trauma Through Games’ (i’w weld ar ei chyfrif Vimeo) a chlywed hefyd safbwynt Daf Prys o’r datblygiadau ynghyd â’r posibiliadau yn y cyd-destun Cymreig.

Maes o law, cawsom gipolwg ar waith Geraint Ffrancon a David Morgan-Davies, Ystrad Strata, a gwylio fideo arbennig gan Hefin Jones, Cosmic Colliery.

image

Serch hynny, un o uchafbwyntiau’r dydd i mi oedd ymuno ym mherfformiad Eddie Ladd a Nico Dafydd a oedd yn gwahodd pawb i gofnodi nofel ffuglen wyddonol, Owain Owain, Y Dydd Olaf.

Dyma nofel sydd allan o brint, ac mae’n ddiawledig o anodd cael gafael ar gopi. Dim ond ambell un o’r gynulleidfa (gan gynnwys fy hun) sydd wedi llwyddo i fachu copi a darllen y nofel, ac i ni, dyma ddysgu arwyddocad newydd i’r geiriau wrth eu cofnodi fel pytiau yn y fan hon. I’r gweddill, roedd yn gyfle i brofi pytiau o’r nofel.

Gig yn cynnwys HMS Morris, Roughion a traciau Carl Morris a orffennodd y noson, a oedd, heb os, yn ddathliad teilwng o bob dim dyfodolaidd yng Nghymru.

Roedd hi’n ddiwrnod i’w gofio.

Felly cyn mynd…
*Hoffwn ddiolch i Rhodri am fy ngwahodd i drefnu gydag ef.

* Nid yn unig hynny, ond diolch i’r Adrannau Cymraeg ac Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, i gwmni Telesgop ac i Arad Goch am eu cefnogaeth wrth drefnu’r diwrnod.

*Diolch hefyd i bob cyfrannwr am eu sgyrsiau difyr, ac i HMS Morris, Roughion a Carl Morris am ddarparu’r gerddoriaeth gosmig gyda’r nos.

*Ac yn olaf, diolch i bawb a ddaeth a chefnogi Diwrnod yng Nghymru Fydd.

Gobeithio cawn fynd YN ÔL I’R DYFODOL cyn bo hir!